Events

Loading Events

Ydych chi’n chwilfrydig am y cysylltiad rhwng hil, rhyw a lles? Bydd y gweithdy hwn yn archwilio pwysigrwydd lles i fenywod diaspora, ac yn rhannu ffyrdd o wella eich arferion lles eich hun.

Mae ystadegau’n dangos, o’i gymharu â menywod o hiliau eraill; bod menywod o liw yn y DU yn fwy tebygol o brofi cyflwr iechyd meddwl cyffredin.

Mae ein lles yn hanfodol i’n hiechyd yn ogystal â’n hapusrwydd cyffredinol, felly mae deall ffyrdd o gefnogi a gwella lles yn y cymunedau yn bwysig dros ben.

Ymunwch â ni ar gyfer y gweithdy hwn gan Star Moyo, arbenigwr mewn therapïau trawma, hyfforddiant personol, hyfforddiant gweithredol a sefydliadol ac, ymgynghori cydraddoldeb ac amrywiaeth.

Yn dilyn y gweithdy hwn, bydd mynychwyr yn dysgu am bwysigrwydd lles ar gyfer diaspora a menywod o liw, ac yn ennill sgiliau ymarferol ar yr hyn y gellir ei wneud i gefnogi menywod diaspora a menywod o liw. Ar ben hynny, byddwn yn trafod beth mae lles yn ei olygu yn fyd-eang, a beth y gellir ei wneud i sicrhau lles menywod ar lefel fyd-eang.


Mae’r digwyddiad hwn yn gydweithrediad rhwng Hub Cymru Affrica, WeNpower a SSAP.

Go to Top