Events

Loading Events

Mae’r hyfforddiant hwn ar gyfer staff, gwirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr sefydliadau sy’n gweithio mewn partneriaethau yng Nghymru ac Affrica, ac sydd eisiau gwella eu polisi a’u harferion diogelu.

Mae’r hyfforddiant ar gyfer pobl sydd ddim wedi cwblhau hyfforddiant Diogelu gyda Hub Cymru Affrica eto, neu sydd wedi cwblhau hyfforddiant dros 2 flynedd yn ôl ac sydd eisiau adnewyddu eu gwybodaeth.

Mae cwblhau’r hyfforddiant hwn yn ofynnol i dderbynwyr grantiau sy’n derbyn dyfarniad drwy gynllun grant CGGC Cymru Affrica.  

Bydd yr hyfforddiant hwn yn tywys cyfranogwyr drwy’r arferion a’r gofynion Diogelu hanfodol ar gyfer sefydliadau sy’n gweithio mewn undod byd-eang â phartneriaid yn Affrica. Bydd yr hyfforddiant yn:

• Diffinio Diogelu o fewn cyd-destun rhyngwladol, ac o fewn y cyd-destun yng Nghymru 

• Esbonio safonau diogelu byd-eang a sut i’w bodloni 

• Trafod sefyllfaoedd ac ymddygiadau o bryder diogelu  

• Esbonio’r cylch Diogelu, a’r tri philer o atal, adrodd ac ymateb, a sut i gymhwyso’r rhain yn eich sefydliad, gan ganolbwyntio ar y goroeswr.

• Rhannu adnoddau i asesu risg, a nodi bylchau mewn ymarfer

• Rhannu templedi ar gyfer dogfennau pwysig y bydd angen i chi eu cael yn eu lle i gefnogi arfer gorau o ran atal, ymateb ac adrodd.

Bydd yr hyfforddiant hwn yn cael ei gynnal ar-lein drwy Zoom, ac mae’n hyfforddiant cyfranogol.  

Os ydych chi eisiau mynychu ond eich bod chi ddim ar gael ar y dyddiad hwn, cysylltwch â advice@hubcymruafrica.org.uk.

Cofrestru

Go to Top