Events

Loading Events

Bydd Leila Usmani, Swyddog Lobio a Dylanwadu gyda Race Alliance Wales, yn rhannu canfyddiadau Deconstructing Unsafe Spaces, sef adroddiad ar sut i greu diwylliant gweithle gwirioneddol gynhwysol ar gyfer staff hiliol (racialised).

Fel cyd-awdures ac arweinydd ymchwil, bydd Leila yn trafod diwylliant sefydliadol, ei gyfraniad at heriau hiliol, a rôl cynhwysiant, amrywiaeth, dynameg pŵer a mannau diogel. Bydd y ffocws ar sut mae’r agweddau hyn yn berthnasol i elusennau bach a micro, ond mae croeso i bawb ddod sydd â diddordeb yn y pwnc. Ymunwch â ni ar gyfer y sesiwn awr o hyd hon i gael mewnwelediadau a dysgu pa gamau ymarferol y gallwch eu cymryd i wneud eich gweithle yn fwy cynhwysol i bawb.

Mae’r sesiwn hon wedi’i hysbrydoli gan Bwynt 2 o Siarter Gwrth-hiliaeth Hub Cymru Africa: “Byddwn yn defnyddio ein sefyllfaoedd i herio hiliaeth lle’r ydym yn ei weld, ac i feddwl yn feirniadol am y strwythurau hiliol rydym yn eu cynnal yn ddiarwybod, a’u datgymalu nhw.”

Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o’r prosiect Ail-fframio’r Naratif sy’n cael ei redeg ar y cyd gan Sub-Sahara Advisory Panel a Hub Cymru Africa.

Cofrestru

Go to Top