Ymunwch â ni wrth i ni ddod ag Uwchgynhadledd Cadernid Byd-eang 2021 i ben trwy ddathlu Cymuned Cymru-Affrica.
Dewch i gyfarfod â’r ffotograffwyr o’n prosiect ‘Y Dyddiau a Fu’ wrth iddynt rannu’r hyn mae datblygiad yn ei olygu iddyn nhw wrth i ni edrych ar eu lluniau o’r gorffennol.
Byddwn yn adlewyrchu ar y newidiadau yn y naratif yn ymwneud ag Affrica a thrwy edrych yn ôl, byddwn yn creu’r sefyllfa ar gyfer edrych ymlaen.