Ydych chi wedi cofrestru ar gyfer Siarter Gwrth-hiliaeth Hub Cymru Affrica? Neu a ydych yn syml eisiau cyngor ar sut i sicrhau bod eich gwaith yn lleihau niwed anfwriadol posibl?
Bydd y sesiynau cymorth dwyawr hyn o hyd yn eich arwain drwy’r pwyntiau siarter a sut i ddefnyddio’r pecyn cymorth fel y gallwch chi roi’r siarter ar waith yn eich gwaith.
Mae’r gweithdy hwn ar gyfer elusennau micro/bach, unigolion a chysylltiadau cymunedol rhwng Cymru ac Affrica. Rydym yn eich annog i ddod â’ch partneriaid i’r sesiwn rhad ac am ddim hon.
Bydd yr ail sesiwn yn canolbwyntio ar y pwyntiau siarter isod:
2. Byddwn yn defnyddio ein sefyllfaoedd i herio hiliaeth lle’r ydym yn ei weld, ac i feddwl yn feirniadol am y strwythurau hiliol rydym yn eu cynnal yn ddiarwybod, a’u datgymalu nhw
3. Byddwn yn gweithio mewn ffordd sy’n cydnabod ac yn blaenoriaethu arbenigedd a gwybodaeth yn y wlad i arwain ein gwaith, ac yn cefnogi hyn gyda strwythur cyflog teg
6. Byddwn yn adolygu ein holl bolisïau’n rheolaidd, gyda lens gwrth-hiliol a chroestoriadol, ac yn ceisio cymorth arbenigol pan fo angen
8. Byddwn yn defnyddio iaith, technegau adrodd straeon, a lluniau priodol a meddylgar. Rydym yn cydnabod bod ganddynt ystyr, y gallant achosi niwed, a’u bod yn gallu atgyfnerthu hiliaeth/p>
Bydd sesiynau yn y dyfodol yn canolbwyntio ar bwyntiau siarter eraill.