I ddathlu Mis Hanes LHDT, mae SSAP a Hub Cymru Affrica yn eich gwahodd i ymuno â ni am drafodaeth ar-lein, sy’n chwalu’r myth nad yw bod yn gwiar yn Affricanaidd. Mae nifer o ysgolheigion du wedi ysgrifennu ar ddealltwriaeth cyn-drefedigaethol o ryw a rhywioldeb yn Affrica, gan brofi bod pobl Affricanaidd gwiar wedi bodoli bob amser. Fodd bynnag, mae cwiar yn dal i gael ei ystyried yn gyffredin fel rhywbeth Gorllewinol.
Yn y drafodaeth banel hon, byddwn yn gwrando ar actifyddion ac academyddion cwiar yn trafod hanes a bodolaeth pobl gwiar ar draws Affrica Is-sahara dros y blynyddoedd, a sut mae derbyn pobl gwiar wedi newid. Bydd amser hefyd i siaradwyr ateb cwestiynau dienw gan y gynulleidfa ar sut y gall Cymru a phartneriaid y DU gydsefyll wrth weithio gyda phobl gwiar yn Affrica.
Panelwyr:
Zee Monteiro: Mae Zee (hi/nhw) yn drefnydd cymunedol, yn awdur ac yn fardd. Yn eu hysgrifennu, maen nhw’n herio’r gynulleidfa i fyfyrio ac ymgysylltu ar bynciau sy’n ymwneud â Bod yn Ddu, Bod yn Gwiar, Gwrywdod Benywaidd a Bregusrwydd. Mae eu gwaith yn canolbwyntio ar greu mannau diogel ar gyfer grwpiau LHDTC+ a BIPOC o fewn cymdeithas ac ar y llwyfan digidol. Gyda’u gwefan Qingsland.com, mae Zee yn benderfynol o ddarganfod a dwyn i’r amlwg straeon mwyaf gwir Hanes Pobl Ddu Gwiar a’u dyfodol.
Aderonke Apata: Mae Aderonke Apata yn Actifydd Hawliau Dynol, Ffeministaidd a LHDT. Hefyd, enillodd y categori Model Rôl Gadarnhaol yng ngwobr LGBT National Diversity Award 2014, lle cafodd ei disgrifio fel “pŵer di-ben-draw wrth ymladd dros gyfiawnder”. Mae hi’n rhif 41 a 67 ar RanbowList2014 & RainbowList2015 yn y drefn honno, fel un o’r bobl LHDT fwyaf dylanwadol yn y DU. Aderonke yw sylfaenydd African Rainbow Family, grŵp LHDT sy’n cefnogi ceiswyr lloches LGBTIQ a phobl o dreftadaeth Affricanaidd yn y DU, ac sy’n ymgyrchu dros Ddiddymu’r Ddeddf Gwrth-LGBTIQ wenwynig yn Nigeria. Sefydlodd Manchester Migrant Solidarity hefyd, sef grŵp hunangymorth sy’n cynnig cefnogaeth ymarferol ac sy’n adeiladu llais gwleidyddol pwerus yn erbyn cam-drin mudwyr yn y DU.
Zethu Matebeni: Mae Zethu Matebeni yn gymdeithasegydd, yn actifydd ac yn awdur. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar astudiaethau cwiar Affricanaidd. Mae Zethu wedi ysgrifennu nifer o erthyglau cyfnodolion, penodau llyfrau ac wedi golygu a chyd-olygu gwahanol gyfrolau ar fywyd LGBTQI Affricanaidd, gan gynnwys Reclaiming African: queer perspectives on sexual and gender identities (Modjaji, 2014); Queer in Africa: LGBTQI Identities, Citizenship and Activism (Routledge, 2018); a Beyond the Mountain: queer life in ‘Africa’s gay capital’ (UNISA Press, 2020). Ers 2020, mae hi wedi bod yn athro gwadd yng Nghanolfan Astudiaethau Menywod a Rhywedd Prifysgol Nelson Mandela. Mae Zethu yn Gadeirydd SARCHI y Sefydliad Ymchwil Cenedlaethol mewn Astudiaethau Rhywioldeb, Rhywedd a Cwiar ym Mhrifysgol Fort Hare, De Affrica.