Events

Loading Events

Ymunwch â’r cymuned Cymru ac Affrica er bod ni’n rhannu ein phrofiadau o hysgrifenu ceisiadau cyllid yn y digwyddiad #CinioADysgu hon am ddim!


O 17 i 21 Mai 2021, rydym yn falch iawn o groesawu llu o noddwyr ac ysgrifenwyr ceisiadau proffesiynol, a fydd yn rhannu’r cyfrinachau am ysgrifennu grantiau da yn uniongyrchol gyda chi. Yn ystod yr wythnos, byddwch yn cael cyfle i ymuno â gweminarau gyda rheolwyr grantiau, i glywed awgrymiadau gan godwyr arian arbenigol.

Nid yn unig hynny, ond rydym yn cynnig y cyfle i’ch paru chi gyda naill ai rheolwr grantiau neu godwr arian, a fydd yn gallu rhoi cyngor un i un AM DDIM i chi.

Nod y digwyddiad wythnos o hyd hwn ydy rhoi mewnwelediad i chi a’ch sefydliad ar safbwyntiau codwyr arian proffesiynol a disgwyliadau rhoddwyr grantiau. Bydd hyn yn eich helpu i gryfhau eich dull gweithredu – o gynllunio a datblygu prosiectau, i’w rhoi ar bapur mewn cais am grant neu lythyr apêl.

Ar gyfer pwy mae’r digwyddiad hwn?

Mae’r digwyddiad hwn ar agor i bob unigolyn, grŵp cymunedol, neu elusen yng Nghymru sy’n gweithio neu’n cefnogi gwaith dramor. Rydym yn croesawu gwirfoddolwyr, ymddiriedolwyr a staff – pwy bynnag sy’n gyfrifol am ddatblygu prosiectau a gwneud ceisiadau am gyllid. Rydym yn eich annog yn gryf i wahodd eich partneriaid yn Affrica neu ar draws y byd i ymuno.

Go to Top