Mae rhan nesaf yn ein cyfres Springboard o gyrsiau ar-lein am ddim yn dechrau ar 10fed Hydrer 2022. Bydd yn canolbwyntio ar Wyliadwriaeth, Arfarniad, Cyfrifoldeb a Dysg (MEAL, ar ôl Monitoring, Evaluation, Accountability and Learning).
Bydd y cyrsiau Springboard yn eich helpu i gynyddu gwybodaeth eich sefydliad a gwella ei arferion o ran datblygu a chyflwyno prosiectau. Byddwch yn gallu cael gafael ar adnoddau ac offer i gefnogi eich twf hefyd
Bydd pob cwrs yn gofyn am ymrwymiad amser o 20 awr dros 8 wythnos i chi gael y gorau o’ch dysgu. Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno drwy gymysgedd o lyfrau gwaith hunan-ddysgu a Chyfarfodydd Zoom sydd yn cael eu rhedeg gan Hub Cymru Affrica. Gyda’ch cyfoedion a thîm Hub Cymru Affrica i gefnogi eich dysgu, byddwch yn rhoi eich dysgu ar waith drwy ei gymhwyso i’ch gwaith eich hun. Mae croeso i bartneriaid yng Nghymru ac Affrica ymuno. Bydd angen mynediad sefydlog i’r rhyngrwyd arnoch, gan fod y cwrs gael ei gyflwyno drwy ein gwefan ac mewn Cyfarfodydd Zoom.
Bydd y cwrs yn edrych ar:
- Beth mae MEAL, pam mae’n bwysig ac i bwy mae o
- Pŵer a moeseg yn MEAL a sut i fod yn gynhwysol
- Beth i’w fesur, ffynonellau data a sut i’w casglu
- Cynllunio MEAL, cynllunio prosiectau, a sut mae’r ddau yn ffitio â’i gilydd
- Sut i asesu eich prosiect
Bydd y cwrs hwn yn cynyddu eich deall o MEAL, eich sgiliau a’ch hyder i wneud MEAL yn effeithiol, a bydd yn eich helpu i daclo unrhyw her MEAL a wynebo.
Yn olaf, byddwn yn hwyluso trafodaethau i helpu i ddatblygu pwyntiau gweithredu, ar sail dysgu, yn benodol i feysydd gwaith unigolion a grwpiau.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at y Tîm Cymorth Datblygu: advice@hubcymruafrica.org.uk