Events

Loading Events

Mae rhan  nesaf yn ein cyfres Springboard o gyrsiau ar-lein am ddim yn cael ei chyflwyno mewn cydweithrediad â’n partner Panel Cynghori Is-Sahara.

Bydd y cyrsiau Springboard yn eich helpu i gynyddu gwybodaeth eich sefydliad a gwella ei arferion o ran datblygu a chyflwyno prosiectau. Byddwch yn gallu cael gafael ar adnoddau ac offer i gefnogi eich twf hefyd

Bydd pob cwrs yn gofyn am ymrwymiad amser o 20 awr dros 8 wythnos i chi gael y gorau o’ch dysgu. Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno drwy gymysgedd o lyfrau gwaith hunan-ddysgu a Chyfarfodydd Zoom sydd yn cael eu rhedeg gan Hub Cymru Affrica. Gyda’ch cyfoedion a thîm Hub Cymru Affrica i gefnogi eich dysgu, byddwch yn rhoi eich dysgu ar waith drwy ei gymhwyso i’ch gwaith eich hun. Mae croeso i bartneriaid yng Nghymru ac Affrica ymuno. Bydd angen mynediad sefydlog i’r rhyngrwyd arnoch, gan fod y cwrs gael ei gyflwyno drwy ein gwefan ac mewn Cyfarfodydd Zoom.

Bydd y cwrs Pŵer a Braint yn cynnwys:

  • Trosolwg o bŵer o fewn y sector undod byd-eang a wyneb braint o fewn cymorth a datblygiad traddodiadol drwy archwilio ei hanes a’i etifeddiaeth bresennol
  • Strwythurau pŵer a’r ffyrdd maen nhw’n torri ar draws ei gilydd ac yn mwyhau gormes, yn ogystal â sut mae hyn yn amlygu o fewn y sector undod byd-eang
  • Nodi safleoedd o fewn strwythurau pŵer sy’n torri ar draws ei gilydd, a sut i wynebu’r rhain heb elyniaeth na dadrithiad
  • Ffyrdd o ildio pŵer o fewn partneriaethau a’r ffyrdd y gall unigolion a grwpiau ddefnyddio eu sefyllfa unigryw o bŵer a/neu fraint i gryfhau gwaith ymhellach mewn undod byd-eang yn gynaliadwy.

Yn olaf, byddwn yn hwyluso trafodaethau i helpu i ddatblygu pwyntiau gweithredu, ar sail dysgu, yn benodol i feysydd gwaith unigolion a grwpiau.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at Cath: cathmoulogo@hubcymruafrica.org.uk

COFRESTRU

Go to Top