Oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu oes angen cyngor a chymorth arnoch chi ar unrhyw agwedd ar eich ymarfer diogelu?
Rydym yn cynnig sesiynau cyngor 1:1 i sefydliadau yng nghymuned Cymru Affrica i drafod pryderon, rhoi adborth ar eich asesiadau risg, polisïau a dogfennau allweddol eraill, a rhoi cyngor arfer gorau ar unrhyw agwedd ar y cylch diogelu.
Defnyddiwch yr Offeryn Diogelu Hunanasesu [SAESNEG] – Hwb Cymorth y Trydydd Sector i nodi bylchau mewn ymarfer, ac unwaith y bydd eich lle wedi’i gadarnhau, rhannwch unrhyw ddogfennau allweddol gyda ni ymlaen llaw i wneud y defnydd gorau o’r amser.
Rydych yn cael eich annof i weithio ar eich ymarfer diogelu gyda’ch partner ac i fynychu’r cyfarfod gyda’ch gilydd os yw hyn yn ymarferol.
Dim ond rhywfaint o lefydd sydd ar gael, ac maen nhw’n cael eu cynnig ar sail y cyntaf i’r felin. Byddwn yn cadw rhestr aros ar gyfer sesiynau yn y dyfodol os bydd y galw’n fwy na’r llefydd sydd ar gael.
Dydd Mercher 22ain o Dachwedd 2023 am 13:00, 14:00 a 15:00 BST
I gofrestru, e-bostiwch advice@hubcymruafrica.org.uk gyda’ch slot amser dewisol