Events

Loading Events

Bydd y sesiwn hwn yn canolbwyntio ar Siarter Gwrth-Hiliaeth Hub Cymru Africa, yn benodol, sut y gallwn fodloni Pwynt Siarter Rhif 3:

“Byddwn yn gweithio mewn ffordd sy’n cydnabod ac yn blaenoriaethu arbenigedd a gwybodaeth yn y wlad i arwain ein gwaith, ac yn cefnogi hyn gyda strwythur cyflog teg.”

Bydd Sophie Kange gyda ni yn ystod y sesiwn hwn, sef Cyfarwyddwraig Weithredol y Development Network of Indigenous Voluntary Associations (DENIVA). Sefydliad anllywodraethol yn Wganda yw DENIVA sy’n cynnig platfform ar gyfer cyd-ystyried, gweithrediad a llais i cymdeithasau lleol gwirfoddoli ac i ddadlau dros ddatblygiad yn Wganda sy’n gyfrifol a chynaliadwy. Mae Sophie hefyd yn gweithio fel Is-gadeirydd ar fwrdd Comisiwn Cenedlaethol Wganda UNESCO ac yn cyd-gadeirio’r grwpiau gwaith Cyfreithlondeb, Tryloywder ac Atebolrwydd yn CIVICUS World Alliance/AGNA. Mae Sophie wrth ei bodd yn galluogi cymunedau i greu atebion eu hun drwy newyddbethau, partneriaethau a chydweithrediad.

I’r rhai sydd heb ddod i gyfarfod o’r blaen, dyma i chi crynodeb:

Beth yaw’s Gymuned Ymerfer Gwrth-Hiliaeth?

Mae’r grŵp agored a chyfeillgar hwn yn cyfarfod i drafod a myfyrio ar effaith hiliaeth yn y sector undod byd-eang, ac i gefnogi ei gilydd i gydnabod a herio hiliaeth yn ein gwaith. Mae pob sesiwn yn canolbwyntio ar un pwynt yn Siarter Gwrth-Hiliaeth Hub Cymru Africa: https://hubcymruafrica.cymru/siarter-gwrth-hiliaeth/

Cofrestru

Go to Top