Lliniaru a dileu rhwystrau i addysg ac iechyd i ferched ifanc yn Kumi, Wganda
Y mis hwn, bydd cyfranogwyr yn cael cyfle i glywed Teams4U Uganda.
Mae Teams4U Uganda wedi bod yn gweithio yn rhanbarth Teso ers 2006. Mae’r Rhaglen Urddas, a ddechreuodd yn 2015, wedi’i neilltuo i helpu merched i aros mewn addysg, osgoi priodas gynnar neu briodas dan orfod, beichiogrwydd yn yr arddegau, a thrais ar sail rhywedd. Maent yn mynd i’r afael â thlodi mislif, yn darparu addysg mislif a rhyw, yn hyfforddi athrawon mewn diogelu ac yn hwyluso grwpiau cymorth cymheiriaid. Maent yn gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion, rhieni, arweinwyr cymunedol a llywodraeth leol i ddod â newid cymdeithasol cynaliadwy.
Y siaradwr fydd Benson Omoding, Cyfarwyddwr Prosiect Wganda yn Teams4U, lle mae’n rheoli timau o wirfoddolwyr, yn cynllunio ac yn paratoi rhaglenni ac yn goruchwylio pob prosiect yn Wganda. Cyfrifydd cyhoeddus trwy hyfforddiant, mae Benson wedi gweithio ym maes datblygu ers dros 20 mlynedd.
Gweithredwyd y prosiect mewn partneriaeth â Teams4U a’i ariannu drwy Grant Grymuso Merched HCA.
Os ydych chi’n ymuno â’n Cymuned Rhywedd am y tro cyntaf:
Mae Cymuned Ymarfer Rhywedd HCA yn grŵp agored o ymarferwyr sydd â diddordeb mewn cydraddoldeb rhywiol a gwaith grymuso, sy’n dod at ei gilydd bob yn ail fis i hwyluso cymorth cymheiriaid, cyfnewid a dysgu.