Events

Loading Events

Mae Rhwydwaith Cysylltiadau Iechyd Cymru ac Affrica yn cynnal ei gynhadledd flynyddol ar 7fed Hydref 2022 yn y Deml Iechyd a Heddwch yng Nghaerdydd.

Dyma’r digwyddiad cyntaf mewn person ers 2019, ac rydym yn edrych ymlaen at ddod â chi i gyd at eich gilydd o amgylch y thema ‘Empathi; o ryngbersonol i fyd-eang’.

Empathi yw sylfaen gofal iechyd llwyddiannus; i adlewyrchu hyn mae gennym raglen o areithiau, gweithdai a thrafodaethau a fydd yn ein helpu i archwilio’r ffyrdd y gall empathi ein helpu i gyflawni ein partneriaethau rhyngwladol a sut mae’n amlygu fel gwerth drwy agwedd Gymru at iechyd byd-eang.

Ynghyd â siaradwyr o bob rhan o’r sector iechyd byd-eang yng Nghymru a thu hwnt, hwn fydd y cyfle cyntaf i’r Athro Kelechi Nnoaham, Cadeirydd Rhwydwaith Cysylltiadau Iechyd Cymru ac Affrica a benodwyd yn ddiweddar, i nodi ei uchelgeisiau ar gyfer ei dymor. Bydd Kelechi, ynghyd â’r Athro Julia Terry, Is-Gadeirydd newydd y Rhwydwaith, yn cynnal paneli a thrafodaethau i gefnogi cysylltiadau iechyd ledled Cymru i gyflawni gwaith empathig wrth i ni ddod allan o gamau mwyaf heriol COVID-19.

Ochr yn ochr â’r rhaglen gynhwysfawr bydd cyfleoedd rhwydweithio, bwyd gwych Nigeriaidd ac amser i archwilio gwaith eich cydweithwyr o bob rhan o Gymru.

Mae cofrestriad ar gyfer y digwyddiad hwn eisioes wedi cau


Amserlen

9:00 Cofrestriad a Rhwydweithio
10:00 Cyfarch agoriadol – Yr Athro Kelechi Nnoaham
11:15 Gweithdai – I’w gadarnhau
12:30 Cinio
13:30 Cyfarch y prynhawn – Dr. Julia Terry a Tebello Lepheane
14:10 Digwyddiad Dysgu ar y Cyd – “Empathi mewn partneriaethau iechyd”
15:15 Sgyrsiau panel – Gill RichardsonTina Fahm, Prof. Kalechi NnoahamSue Tranka
16:30 Gorffen

Rhaglen Llawn

Go to Top