Ymunwch â ni ar gyfer Cynhadledd Flynyddol Rhwydwaith Cysylltiadau Iechyd Cymru ac Affrica 2023!
Paratowch ar gyfer diwrnod cyffrous o gydweithio, dysgu a rhwydweithio gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o Gymru ac Affrica. Cynhelir y digwyddiad personol hwn ddydd Llun 9 Hydref 2023 yn sparc|spark, Heol Maendy, Caerdydd, CF24 4HQ.
Nod ein cynhadledd yw meithrin partneriaethau, rhannu gwybodaeth, a gwella arferion gofal iechyd rhwng Cymru ac Affrica. Mae’n gyfle gwych i gysylltu ag unigolion o’r un anian, cyfnewid syniadau, ac archwilio dulliau arloesol ym maes gofal iechyd.
Egnioli ac Ehangu Partneriaethau mewn Iechyd Byd-eang fydd thema eleni, a bydd y prif siaradwyr yn cynnwys Ilora Finlay, y Farwnes Finlay o Landaf.
Trwy gydol y dydd, byddwch yn cael y cyfle i fynychu sesiynau diddorol, cymryd rhan mewn gweithdai rhyngweithiol, a chlywed gan siaradwyr enwog sy’n arbenigwyr yn eu priod feysydd. Byddwn yn ymdrin ag ystod eang o bynciau, gan gynnwys heriau gofal iechyd, datblygiadau ymchwil, ac atebion gofal iechyd cynaliadwy.
P’un a ydych chi’n weithiwr gofal iechyd proffesiynol, yn ymchwilydd, yn fyfyriwr, neu’n angerddol am ofal iechyd, mae’r gynhadledd hon ar eich cyfer chi! Peidiwch â cholli’r cyfle anhygoel hwn i ehangu eich gwybodaeth, adeiladu cysylltiadau gwerthfawr, a chyfrannu at wella systemau gofal iechyd yng Nghymru ac Affrica.
Hoffech chi arddangos poster neu gael stondin yn y digwyddiad hwn? Anfonwch e-bost at enquiries@hubcymruafrica.org.uk am ragor o wybodaeth.
Marciwch eich calendrau ac ymunwch â ni yng Nghynhadledd Flynyddol Rhwydwaith Cysylltiadau Iechyd Cymru ac Affrica 2023! Allwn ni ddim aros i’ch gweld chi yno!