Events

Loading Events

Beth ddylai cysylltiadau Cymru-Wganda ei wybod a beth allwn ni ei wneud i gefnogi hawliau LHDTRh?

Ar ddiwedd mis Mai 2023, llofnododd yr Arlywydd Yoweri Museveni un o gyfreithiau gwrth-LHDTRh llymaf y byd, gan gynnwys y gosb eithaf am “gyfunrywioldeb gwaethygedig” a dedfrydau carchar am “hyrwyddo neu annog cyfunrywioldeb”. Mae’r gyfraith yn cynnwys sancsiynau ar gyfer sefydliadau sy’n caniatáu i eiddo gael ei ddefnyddio ar gyfer gweithgareddau anghyfreithlon ac yn darparu cosbau i bobl nad ydynt yn rhoi gwybod i’r awdurdodau am eu hamheuon.

Bydd y gyfraith newydd hon â goblygiadau i grwpiau cymdeithas sifil yn Wganda ac i’w partneriaid yng Nghymru.

Yn y gweminar hwn, bydd actifydd blaenllaw o Wganda, cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru a sefydliadau eraill sy’n gweithio yn Wganda yn ymuno â ni. Mae wedi’i anelu at sefydliadau Cymreig sy’n gweithio yn Wganda yn ogystal â chynrychiolwyr eu sefydliadau partner.

Nodau

  • Mae sefydliadau Cymreig sy’n gweithio yn Wganda yn deall yn well y cyd-destun presennol a’r risgiau posibl i’w staff a’u gwirfoddolwyr ac yn barod i reoli’r risgiau hynny;
  • Grwpiau Cymreig yn clywed pryderon grwpiau Affricanaidd LHDTRh am eu hawliau dynol.

PWYSIG

Anogir sefydliadau yng Nghymru sy’n gweithio mewn partneriaeth yn Wganda yn gryf i fynychu. Er mwyn amddiffyn hunaniaeth unigolion a sefydliadau yn Wganda, gweminar Zoom fydd y digwyddiad hwn, nid cyfarfod. Dylai mynychwyr sydd eisiau siarad neu ddefnyddio’r swyddogaeth sgwrsio ystyried defnyddio enw dienw. Mae mynychwyr yn cymryd rhan yn y weminar hon ar eu menter eu hunain. Ni fydd y rhestr o fynychwyr yn cael ei rhannu.

COFRESTRU

Panelwyr

Gloria Dhel

Gloria Dhel yw Cyfarwyddwr Rhaglenni yn Freedom and Roam Uganda, ffeminydd a gwneuthurwraig cwiar, actifydd LHDTRhCAP++, aelod o fwrdd Transgender Equality Uganda ac All Out, a churadur Uganda Lesbian Forum.

Alessandro Ceccarelli

Dr Alessandro Ceccarelli (ef) yw Pennaeth Polisi LHDTC+ Llywodraeth Cymru, gan arwain ar ddatblygu a gweithredu Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru a chyfrannu at Gynllun Gweithredu Cymru ar HIV.

Jon Townley

Jon Townley yw Pennaeth Cymru ac Affrica ac mae’n rhan o dîm Cysylltiadau Rhyngwladol Llywodraeth Cymru.

Go to Top