Yn y gweithdy hwn, byddwn yn archwilio sut y gall sefydliadau bach ddefnyddio offer digidol i gefnogi cydweithredu â phartneriaid yn Affrica.
Bydd y siaradwyr gwadd yn cynnwys Giacomo Ciriello, Rheolwr Prosiect a Chydlynydd Cwrs yn Bees for Development, elusen fyd-eang sydd wedi’i lleoli yn Nhrefynwy sy’n hyrwyddo ffyrdd cynaliadwy o gadw gwenyn i frwydro yn erbyn tlodi, adeiladu bywoliaethau gwydn a bod o fudd i fioamrywiaeth.
Ariennir y digwyddiad hwn gan The Waterloo Foundation.
Siaradwyr Gwas
Giacomo Ciriello
Mae Giacomo yn gweithio gyda Bees for Development a gyda sefydliadau anllywodraethol yng Ngana a Simbabwe, yn cefnogi pobl yng nghymunedau gwledig i gynhyrchu incwm drwy gadw gwenyn a gwerthi fêl a chwyr gwenyn. Arbenigodd mewn datblygu cadwyn werth amaethyddol yn ei astudiaethau doethuriaeth ym Mhrifysgol Bryste. Mae’n wenynwr a garddwriaethwr sy’n byw yn ne Cymru.