Arddangosfa: 1-15 Tachwedd, yn amodol ar oriau agor y lleoliad
Mae’r arddangosfa dros dro hon yn rhoi cipolwg ar rôl Cymru mewn undod byd-eang a materion diwylliannol, gwleidyddol a chymdeithasol dros y blynyddoedd.
Mae’r arddangosfa yn arddangos treftadaeth undod byd-eang Cymru gyda gwrthrychau sy’n datgelu’r straeon, y cyfraniadau a’r ymgyrchoedd niferus, sydd yn cael eu mynegi drwy arteffactau a chelfyddydau gweledol sy’n dod â’r hanesion hyn i fywyd.
Mae’r eitemau’n cynnwys Idris y pyped ddraig o ymgyrch Rhoi Terfyn ar Dlodi 2005, dogfen goffa Apêl Heddwch Menywod 1923 o ddeiseb a lofnodwyd gan bron i 400,000 o fenywod o
Gymru, a thecstilau wedi’u gwehyddu â llaw o ‘Deithiau Ffoaduriaid’ a gafodd eu gwneud ym Mhorthaethwy.
Mae’r arddangosfa hon yn rhan o Ymgyrch Achos Dros Undod Hub Cymru Affrica, sy’n ceisio ennyn diddordeb, addysgu a hyrwyddo gweithredoedd o undod byd-eang yng Nghymru. Hefyd, rôl Cymuned Cymru Affrica wrth hyrwyddo Undod Byd-eang. Mae’r gwaith hwn yn cael ei ariannu gan y Swyddfa Dramor, Datblygu a’r Gymanwlad.