Mae’r hyfforddiant hwn ar gyfer staff, gwirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr sefydliadau sy’n gweithio mewn partneriaeth yn y sector Cymru ac Affrica, sydd am wella eu polisi a’u harferion diogelu.
Mae’r hyfforddiant hwn ar gyfer pobl nad ydynt eto wedi cwblhau hyfforddiant Diogelu gyda Hub Cymru Africa. Os ydych wedi cwblhau hyfforddiant o’r blaen, cofrestrwch ar gyfer y Cwrs Gloywi Diogelu ar 20 Gorffennaf.
Mae cwblhau’r hyfforddiant hwn yn ofynnol i grantwyr sy’n derbyn dyfarniad drwy gynllun grant CGGC Cymru Affrica. Bydd yr hyfforddiant hwn yn mynd â chyfranogwyr drwy’r arferion diogelu hanfodol a’r gofynion ar gyfer sefydliadau sy’n gweithio mewn undod byd-eang â phartneriaid yn Affrica.
Bydd yr hyfforddiant hwn yn:
- Diffinio diogelu o fewn cyd-destun rhyngwladol
- Esbonio safonau diogelu byd-eang a sut i’w bodloni
- Trafod sefyllfaoedd ac ymddygiadau sy’n peri pryder diogelu
- Esbonio’r tair colofn atal, adrodd ac ymateb a sut i gymhwyso’r rhain yn eich sefydliad
- Rhannu offer i asesu risg, a nodi bylchau yn ymarferol
- Rhannu templedi ar gyfer dogfennau allweddol y bydd angen i chi eu cael i ategu arfer gorau o ran atal, ymateb ac adrodd
Unwaith y byddwch wedi cyflwyno’ch cofrestriad, gwiriwch eich mewnflwch a’ch post sothach ar gyfer yr e-bost cadarnhau. Mae gan hwn ddolen sy’n unigryw i chi y bydd ei hangen arnoch er mwyn cael mynediad i’r digwyddiad. Bydd angen i chi gael eich llofnodi i’r cyfrif Zoom y gwnaethoch gofrestru gyda chi i ddefnyddio’r ddolen.
Ydych chi wedi cwblhau hyfforddiant Diogelu gyda HCA (neu gyfwerth e.e. BOND, SWIDN) yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf?
YDYN – (Efallai y bydd yn ddefnyddiolach i chi fynychu’r hyfforddiant Gloywi Diogelu yma: https://us02web.zoom.us/meeting/register/tZEtduGppjMsH9SQ15qAPBsLXnA821MpLWO_
NACYDYN – ewch ymlaen i gofrestru