Events

Loading Events

Digwyddiad dysgu ar y cyd

Ydych chi’n breuddwydio am gael cymorth gan wirfoddolwyr fel y gallwch roi cynnig ar rywbeth newydd neu gyflawni eich nodau?

Mae rhaglen wirfoddoli Hub Cymru Affrica yn helpu sefydliadau Cymru Affrica a Masnach Deg i gynyddu eu capasiti, drwy recriwtio a meithrin gwirfoddolwyr newydd. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae 16 o wirfoddolwyr wedi cyfrannu at waith 11 o sefydliadau.

Ymunwch â ni ar gyfer y Digwyddiad Dysgu ar y Cyd hwn, i glywed gan sefydliadau sydd wedi ffynnu gyda gwirfoddolwyr newydd, a gwirfoddolwyr Hub Cymru Affrica, ynghylch beth sy’n gwneud profiad da i wirfoddolwyr.

Byddwch yn gadael yn deall yr effaith mae gwirfoddoli wedi’i gael ar sefydliadau a gwirfoddolwyr fel ei gilydd a hefyd, sut i fanteisio i’r eithaf ar y potensial ar gyfer canlyniadau da. Gallwch rannu eich profiadau eich hun o ymgysylltu a rheoli gwirfoddolwyr, a dysgu gan wirfoddolwyr eu hunain.


Mae’r digwyddiad hwn ar agor i bob unigolyn, grŵp cymunedol, neu elusen yng Nghymru sy’n gweithio neu’n cefnogi gwaith dramor.


Unwaith y byddwch wedi cyflwyno’ch cofrestriad, gwiriwch eich inbocs a’ch spam ar gyfer yr e-bost cadarnhaol. Mae gan hwn ddolen sy’n unigryw i chi y bydd ei hangen arnoch er mwyn cael mynediad i’r digwyddiad. Bydd angen i chi gael eich llofnod mewn i’r un cyfrif Zoom y gwnaethoch gofrestru gyda chi i ddefnyddio’r ddolen.


Mae Hub Cymru Africa yn bartneriaeth sy’n cefnogi cymuned Cymru ac Affrica, gan ddwyn ynghyd waith Rhwydwaith Cysylltiadau Iechyd Cymru ac Affrica, Panel Cynghori Is-Sahara a Chymru Masnach Deg.

Rydym yn cynrychioli’r sector undod rhyngwladol yng Nghymru.

Cefnogir Hub Cymru Africa gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU ac fe’i cynhelir gan Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd.

Go to Top