Mae Hub Cymru Africa, WCIA a’r BOMB yn cynnal Marchnad Gŵyl Foesegol ar 25ain a 26ain o Dachwedd rhwng 11yb a 4yp, i ddathlu mentergarwch Cymreig ac undod byd-eang.
Dewch i siopa am anrhegion o bwtigau a stondinau marchnad na allwch weld ar y stryd fawr. Bydd stondinau bwyd, anrhegion o waith law a phethau bach i lenwi hosanau Nadolig, cynhyrchion di-blastig, moethau prydferthwch a daioni, nwyddau ail-law a chrefftau a bwydydd Marchnad Deg.
Ar ddydd Sadwrn 26ain Tachwedd, byddwn yn cynnal sgwrs panel ar brynwriaeth foesegol, cael ein difyrru gan dalent leol, a chroesawu Siôn Corn, a fydd yn cymryd amser o’i amserlen brysur i ymweld â’r Deml Heddwch.
Bydd Siôn Corn yn ei ogofty ar ddydd Sadwrn o 11yb tan 4yp. Bydd eich plentyn yn derbyn siocled Masnach Deg a byddwch yn cael llun digidol am ddim. Gadwch wybod i ni os ydych chi am gwrdd â Siôn Corn drwy glicio ar y botwm isod.
Beth yw prynwriaeth foesegol? A gall ein dewisiadau wir wneud gwahaniaeth? Dyma’r cwestiynau y bydd pedwar panelwyr yn ceisio ateb ar ddydd Sadwrn am 1yp. Byddant yn rhannu eu sïon sicr am bwy i gefnogi, lle i brynu nwyddau, a beth i foicotio, wrth awgrymu pethau syml y gallwn ni gyd eu gwneud er mwyn taclo anghydraddoldeb, anghyfiawnder a newid hinsawdd.
Nid ychydig o bobl sy’n byw bywyd perffaith heb ddim gwastraff o gwbl sydd angen, ond miliynau o bobl sy’n ei gwneud yn amherffaith. — Anne Marie Bonneau.
I arbed eich lle yn y sgwrs panel hon, cliciwch ar y botwm isod.
Hefyd ar ddydd Sadwrn, bydd y gantores 11-oed Luchia Ellul-Alimikhena a’r artist gair llafar Amaris Powell yn ein diddanu wrth i ni siopa.
Gallwch yn dal gofyn am stondin drwy’r ffurflen ar-lein hon neu drwy e-bostio enquiries@hubcymruafrica.org.uk gyda’ch enw a’ch rhif ffôn.