Events

Loading Events

Bod yn gyfrifol yn fyd-eang: cydweithio er lles

Mae’r byd yn fwyfwy rhanedig a senoffobig; mae drwgdybio ‘pobl sydd yn wahanol i ni’ yn rhemp. Beth allwn ei wneud?

Yn y sesiwn hon byddwn yn trafod ffyrdd o wahodd pobl i ymuno â ni ar daith i adfywio a gwneud y byd yn lle gwell ar gyfer pob un ohonom (yn economaidd, yn gymdeithasol, yn amgylcheddol ac yn ddiwylliannol).

Bydd yn trafod y pwysigrwydd o adnabod ein hunain, deall eraill a sut i greu sefyllfaoedd anfeirniadol ar gyfer trafod pynciau sy’n polareiddio ac sy’n gallu achosi tramgwydd mewn cymdeithas sy’n cael ei gyrru gan gyfryngau cymdeithasol. Y ‘norm’ yw fod popeth ‘yn gymysg oll i gyd’.

Mae bod yn gyfrifol yn fyd-eang yn golygu cydnabod y gorffennol, dod i delerau â’r presennol a chydweithio i gyd-greu dyfodol gyda gostyngeiddrwydd.

Hwyluswyd gan Dr Einir Young, Cyn Gyfarwyddwr Cynaliadwyedd, Prifysgol Bangor

Go to Top