Ymgysylltu pobl ag anableddau trwy’r celfyddydau a chwaraeon
Archwiliwch y ffordd y gellir defnyddio’r celfyddydau a chwaraeon i helaethu safbwyntiau gwahanol, cefnogi newid a herio stigma a stereoteipio sydd yn gysylltiedig â phobl ag anableddau yng Nghymru a thu hwnt.
Yn ystod y gweithdy hwn, byddwch yn clywed gan weithredwyr lleol yng Nghymru ac yn Affrica ar y ffordd y maent wedi defnyddio’r celfyddydau a chwaraeon yn eu rhaglenni; yr effaith ar unigolion a chymunedau sydd yn gysylltiedig â photensial y gweithgareddau hyn i ysgogi newid.
Siaradwyr:
• Ruth Fabby MBE, Disability Arts Cymru
• Kevin Waldie, overseas director purple field productions
• Sally Feyi-Waboso – Sight 2020