Ar gyfer pwy mae’r hyfforddiant hwn?
- Staff, a gwirfoddolwyr sefydliadau sy’n gweithio mewn partneriaeth yng Nghymru ac Affrica, ac sydd eisiau g wella eu polisi a’u harferion diogelu.
- Staff, gwirfoddolwyr neu ymddiriedolwyr sy’n teithio, neu sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau rhaglenni sy’n cario unrhyw risg diogelu.
- Mae staff partner yn Affrica yn cael eu hannog hefyd i fynychu os yw hyn yn bosibl.
Lefel y hyfforddiant
- Pobl sydd heb gwblhau hyfforddiant Diogelu gyda Hub Cymru Africa yn y ddwy flynedd diweddarach, ac sydd eisiau gloywi eu gwybodaeth o Ddiogelu.
- Pobl sydd heb gwblhau hyfforddiant Diogelu gan ddarparwr arall yn y ddwy flynedd diweddarach, ac sydd eisiau gloywi eu gwybodaeth.
Beth fyddwch chi’n ei ddysgu?
Bydd yr hyfforddiant hwn yn edrych ar brif feysydd o ymarferion Diogelu da, gan gynnwys termau a diffiniadau pwysig, safonau Diogelu, a’r cylch Diogelu. Byddwn wedyn yn edrych ar astudiaethau achos i ddefnyddio’r wybodaeth hwn at sefyllfaoedd.
Mae croeso i gyfranogwyr anfon astudiaethau achos eu hun i’w drafod os hoffan nhw drafod maes ymarfer arbennig (e-bostiwch advice@hubcymruafrica.org.uk)
Bydd amser ar gyfer cwestiynau a thrafodaeth. Byddwn yn rhannu adnoddau a phatrymluniau i fod yn sail i ymerferion gorau o rwystro, ymateb a hysbysu Diogelu.
Mae angen i sefydliadau sy’n gwneud cais am ffrwd ariannu Cymru Affrica Llywodraeth Cymru/CGCG fod wedi cwblhau hyfforddiant Diogelu (Hanfodion, neu Gloywi) yn y 2 flynedd ddiwethaf i fod yn gymwys am grant. I bobl nad ydynt wedi cwblhau cwrs hyfforddi Diogelu Hub Cymru Africa (neu gyfwerth) eto, cofrestrwch ar gyfer Hyfforddiant Hanfodion Diogelu ar 20 Chwefror 2024.
Mae’r hyfforddiant hwn yn digwydd ar-lein drwy Zoom, ac mae’n hyfforddiant cyfranogol.