Events

Loading Events

Ar gyfer pwy mae’r hyfforddiant hwn?

  • Staff, a gwirfoddolwyr sefydliadau sy’n gweithio mewn partneriaeth yng Nghymru ac Affrica, ac sydd eisiau g wella eu polisi a’u harferion diogelu.
  • Staff, gwirfoddolwyr neu ymddiriedolwyr sy’n teithio, neu sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau rhaglenni sy’n cario unrhyw risg diogelu.
  • Mae staff partner yn Affrica yn cael eu hannog hefyd i fynychu os yw hyn yn bosibl.

Lefel y hyfforddiant

  • Pobl sydd heb gwblhau hyfforddiant Diogelu gyda Hub Cymru Africa yn y ddwy flynedd diweddarach, ac sydd eisiau gloywi eu gwybodaeth o Ddiogelu.
  • Pobl sydd heb gwblhau hyfforddiant Diogelu gan ddarparwr arall yn y ddwy flynedd diweddarach, ac sydd eisiau gloywi eu gwybodaeth.

Beth fyddwch chi’n ei ddysgu?

Bydd yr hyfforddiant hwn yn edrych ar brif feysydd o ymarferion Diogelu da, gan gynnwys termau a diffiniadau pwysig, safonau Diogelu, a’r cylch Diogelu.

Byddwn wedyn yn edrych ar astudiaethau achos i ddefnyddio’r wybodaeth hwn at sefyllfaoedd.

Mae croeso i gyfranogwyr anfon astudiaethau achos eu hun i’w drafod os hoffan nhw drafod maes ymarfer arbennig (e-bostiwch advice@hubcymruafrica.org.uk)

Bydd amser ar gyfer cwestiynau a thrafodaeth.

Byddwn yn rhannu adnoddau a phatrymluniau i fod yn sail i ymerferion gorau o rwystro, ymateb a hysbysu Diogelu.

Mae’r hyfforddiant hwn yn digwydd ar-lein drwy Zoom, ac mae’n hyfforddiant cyfranogol.

Arbedwch y dyddiad hyfforddiant nesaf yma:

Cofrestrwch

Go to Top