Y sesiwn hon yw’r cyntaf o ddau weithdy byw ar-lein sydd wedi’u cynllunio ar gyfer y rhai sy’n dychwelyd i wirfoddoli neu sy’n newydd i waith Datblygu Rhyngwladol / Undod Byd-eang.
Mae’r sesiwn gyntaf hon yn gyflwyniad i rai themâu allweddol i’w hystyried wrth weithio neu wirfoddoli gyda phartneriaid dramor, gyda ffocws ar wledydd Affrica Is-Sahara:
- Hanes byr o ddatblygiad rhyngwladol a chyflwyniad i’r term “Undod Byd-eang”
- Rhai enghreifftiau o arfer gwael mewn prosiectau a beth i’w osgoi
- Gwirfoddoli ac arfer da.
Mae’r sesiwn am ddim a bydd yn para dwy awr. Mae’n agored i ymddiriedolwyr, gwirfoddolwyr a myfyrwyr.