Ymunwch â ni am berfformiadau gwefreiddiol ac ymgysylltiol gan Circus Zambia.
Mae Circus Zambia yn gwmni syrcas cymdeithasol ifanc a bywiog sydd yn rhoi sgiliau syrcas a bywyd i bobl ifanc o gefndiroedd bregus yn Zambia tra’n darparu cyfleoedd addysgol a chyflogaeth. Maent yn gwneud hyn er mwyn i bobl ifanc allu blodeuo ac ysgogi newid yn eu cymunedau.