Events

Loading Events

Mae Andrew Ogun yn gerddor, yn awdur, yn gyfarwyddwr creadigol ac yn drefnydd cymunedol o Gasnewydd sydd wedi’i leoli ar hyn o bryd yng Nghaerdydd. Ef yw prif drefnydd y mudiad Black Lives Matter yng Ngwent. Am ei rôl fel Asiant dros Newid Cyngor Celfyddydau Cymru, dywed Andrew:

Nid yw gwneud newid yn orchest hawdd ac nid ydym bob amser yn mynd i’w gael yn iawn ond mae’n waith hanfodol, hanfodol ac mae’n rhaid i rywun ei wneud, ar ba bynnag gost. Credaf yn y celfyddydau fel cyfrwng ar gyfer trawsnewid, ysbrydoliaeth a hunanfynegiant, credaf yn y celfyddydau fel cyfrwng ar gyfer newid cymdeithasol a chyfiawnder cymdeithasol…

Ymunwch â ni wrth i Andrew drafod taith Cyngor Celfyddydau Cymru i greu newid er daioni a thynnu cyffelybiaethau i’n Siarter Gwrth-hiliaeth.

Bydd y sesiwn yn canolbwyntio ar y pwyntiau siarter isod:

2. Byddwn yn defnyddio ein sefyllfaoedd i herio hiliaeth lle’r ydym yn ei weld, ac i feddwl yn feirniadol am y strwythurau hiliol rydym yn eu cynnal yn ddiarwybod, a’u datgymalu nhw

4. Byddwn yn ymrwymo i ddatblygu ein dealltwriaeth ddyfnach ein hunain o faterion hiliaeth, a sut maen nhw’n effeithio ar ein ffordd o feddwl

5. Rydym yn sefydliad sy’n croesawu adborth beirniadol, gyda’r bwriad o ddysgu a gwella ein gwaith. Byddwn yn gweithredu heb fod yn amddiffynnol nac yn negyddol i’r rheini sy’n tynnu sylw at arferion hiliol neu drefedigaethol, ac yn creu prosesau atebolrwydd o fewn ein gwaith

9. Byddwn yn sicrhau bod ein holl waith yn mabwysiadu ymagwedd cyfiawnder cymdeithasol, i hyrwyddo hunangynhaliaeth yr holl bartneriaid, gan gynnwys tegwch mewn cyfleoedd

 

Cofrestrwch

fcgcfc

Go to Top