Using the THET GESI toolkit
Mae Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau a Chynhwysiant Cymdeithasol (GESI) yn cael eu cydnabod yn gynyddol fel elfennau hanfodol i fodloni’r uchelgeisiau a nodir yn yr SDG a chyrraedd y poblogaethau â’r angen mwyaf.
Yn y sesiwn hon byddwn yn archwilio’r hyn y mae GESI yn ei olygu, pam y mae’n bwysig, a’r offer y gellir eu defnyddio i ddylunio a chyflwyno prosiectau mwy cynhwysol a theg. Trwy gyfuniad o gyflwyniadau ac ymarferion ymarferol byddwch yn cael cyfle i herio eich hun ac eraill, cyn adlewyrchu ar y ffyrdd y gellir integreiddio’r cysyniadau a’r offer a rennir yn y sesiwn i’ch gwaith.
Please see THET GESI toolkit.
Speakers:
- Summer Simpson, THET
Summer yw Swyddog Cyfathrebu THET lle mae’n gweithio i godi ymwybyddiaeth o’r heriau a wynebir ym maes iechyd byd-eang a’r gwaith sydd yn cael ei wneud gan Bartneriaethau Iechyd i greu byd iachach a mwy cyfartal i bawb. Mae ar hyn o bryd yn datblygu strategaethau ar gyfer cyfathrebu effeithiol gyda rhanddeiliaid amrywiol ar bwysigrwydd mynd i’r afael ag anghydraddoldeb rhwng y rhywiau ar draws y byd. Mae’n Cyd-gadeirio Gweithgor Cydraddoldeb Rhwng y Rhywiau THET sydd yn cyfrannu at brosesau gwneud penderfyniadau gweithredol y sefydliad ac yn helpu i lunio ei flaenoriaethau strategol. Yn flaenorol, roedd Summer wedi cynnal prosiectau ymchwil ar effaith gwrthdaro ar y rhywiau ac wedi cyd-awduro pennod ar arweinyddiaeth menywod mewn iechyd byd-eang. Mae wedi cyflwyno cyfres o weithdai ar themâu cydraddoldeb a braint.
- Sara Mahjoub, THET
Sara yw’r Swyddog Monitro, Gwerthuso, Dysgu (MEL) a Pholisi yn THET lle mae’n cynorthwyo’r gwaith o ddylunio rhaglenni newydd yn ogystal â rhoi cyngor technegol a mewnbwn ar y gwaith monitro, gwerthuso a dysgu mewn rhaglenni presennol. Mae’n sicrhau bod cyfathrebu allanol a gwaith polisi (ar bob lefel) wedi eu llywio gan, ac yn cynrychioli ein sail dystiolaeth yn gywir. Mae Sara wedi arwain hyfforddiant mewnol ar Becyn Cymorth GESI ac mae’n helpu timau i integreiddio GESI i raglenni ac ymchwil yn THET.
- Raquel Perez, THET
Raquel yw’r Cydlynydd Ymgysylltu Allanol yn THET, yn gweithio ar draws meysydd cyfathrebu, codi arian a datblygu busnes. Mae hefyd yn gyd-Gadeirydd Gweithgor Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau yn THET, sydd yn ysgogi strategaeth a chynllunio sefydliadol ynghylch sut i brif ffrydio’r rhywiau ar draws timau a rhaglenni. Mae gan Raquel brofiad yn cynorthwyo’r gwaith o gyflwyno ymchwil a datblygu offer mewn perthynas â Chydraddoldeb rhwng y Rhywiau yn Affrica Is-Sahara ac yn y DU, yn ogystal â hwyluso gweithdai a thrafodaethau ar GESI.