Ar gyfer pwy mae’r hyfforddiant hwn?
- Mae hwn yn hyfforddiant gorfodol ar gyfer swyddogion diogelu sefydliadau sy’n gweithio mewn partneriaeth yng Nghymru ac Affrica, sy’n cynnwys swyddogion diogelu partneriaid yn Affrica, os yw hyn yn bosibl
- Mae Hanfodion Diogelu yn rhagofyniad ar gyfer yr hyfforddiant hwn, oni bai eich bod chi wedi cwblhau hyfforddiant cyfatebol o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf.
Beth fyddwch chi’n ei ddysgu?
Bydd yr hyfforddiant hwn yn adeiladu ar yr hyfforddiant Hanfodion, ac yn canolbwyntio ar:
- Rolau a chyfrifoldebau’r Swyddog Diogelu
- Rolau a chyfrifoldebau’r Ymddiriedolwyr mewn perthynas â Diogelu, gan gynnwys cyfrifoldebau penodol yr Ymddiriedolwr Diogelu
- Arweinyddiaeth, ac ar hwyluso diwylliant sefydliadol diogel
- Ymateb i ddigwyddiad, gan gynnwys rheoli ymchwiliadau
- Adrodd, gan gynnwys adrodd i’r Comisiwn Elusennau
- Ofynion rhoddwyr mewn perthynas â Diogelu
- Rannu templedi ar gyfer dogfennau pwysig y bydd angen i chi eu cynhyrchu i gefnogi’r arferion gorau o ran atal, ymateb ac adrodd.
Bydd yr hyfforddiant hwn yn digwydd ar-lein drwy Zoom, ac mae’n hyfforddiant cyfranogol.