Ydych chi wedi cofrestru ar gyfer Siarter Gwrth-hiliaeth Hub Cymru Africa? Neu a ydych yn syml eisiau cyngor ar sut i sicrhau bod eich gwaith yn lleihau niwed anfwriadol posibl?
Bydd y sesiwn 90-munud gyda’r Panel Cynghori Is-Sahara yn cyflwyno’r Siarter a beth mae’n bwriadu ei gyflawni. Bydd yn esbonio pwy all elwa o ymuno â’r Siarter Gwrth-Hiliaeth; archwilio hanes y sector datblygu a’r heriau y mae’r Siarter yn ceisio mynd i’r afael â hwy; crynhoi’r deuddeg Pwynt Siarter a’u hegwyddorion; a dangos sut mae’r Siarter yn gysylltiedig â Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru.
Bydd Lucy Nkatha, Cadeirydd Cymuned Ymarfer Gwrth-Hiliaeth Hub Cymru Africa, a Nicola Pulman, Cyfarwyddwr Maint Cymru, yn siarad am yr hyn y mae ymrwymo i’r Siarter wedi’i olygu iddyn nhw, a bydd mynychwyr yn cael cynnig digon o amser i ofyn cwestiynau a gofyn am gefnogaeth.
Mae hiliaeth yn bodoli yn y sector datblygu, fel mewn cymdeithas ehangach. Felly, mae’n rhaid inni gydnabod sut mae’n dod i’r amlwg, a chymryd camau i fynd i’r afael â’r effeithiau negyddol y gall eu cael arnom ni ein hunain, ein cydweithwyr, a’r cymunedau rydym yn gweithio gyda nhw. Mae’r sector cymorth yn bodoli i liniaru tlodi, ond gall dynameg pŵer cymorth atgyfnerthu strwythurau pŵer a systemau a dyfodd drwy drefedigaethu. Mae’n rhaid inni gydnabod hyn, a gweithio gyda’n partneriaid yn agored ac yn onest i fynd i’r afael â hiliaeth.
Mae rhaglen Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru yn ceisio cynyddu undod a phartneriaeth yn fyd-eang. Nid yw’n ddigon i beidio â bod yn hiliol; dylem symud ymlaen i fod yn sector gwrth-hiliol gweithredol, a sicrhau nad ydym yn parhau ag ymddygiad a systemau hiliol wrth weithio gyda chymunedau wedi’u hilioli, yng Nghymru ac yn Affrica Is-Sahara.
Mae’r siarter hon ar gyfer elusennau bach a grwpiau cymunedol yng Nghymru, sy’n gweithio’n rhyngwladol, yn enwedig gyda phartneriaid anllywodraethol a grwpiau cymunedol yn Affrica Is-Sahara, ar brosiectau a gweithgareddau datblygu neu undod.
Rydym yn annog pob grŵp ac unigolyn sy’n gweithio yn y sector hwn i gyflawni’r ymrwymiadau yn y siarter gwrth-hiliol hwn, ac ymrwymo i’r siarter. Gall Hub Cymru Affrica a Phanel Cynghori Is-Sahara gefnogi grwpiau ac unigolion i wireddu nodau’r siarter, drwy’r pecyn cymorth isod a sesiynau hyfforddi blynyddol am ddim.
Agenda
10:00 Cyflwyniadau a chadw tŷ
10:10 Deallt y Siarter Gwrth-hiliaeth
10:25 Jane Hutt AS (wedi’i recordio) a Chymru Wrth-hiliol
10:30 Lucy Nkatha, Cadeiryddes Cymdeithas Ymarfer Gwrth-hiliaeth
10:40 Nicola Pulman, Cyfarwyddwr Maint Cymru
10:50 Cwestiynnau i Lucy a Nicola
11:00 Egwyddorion y Siarter
11:10 Cwestiynnau i Hub Cymru Africa a’r Panel Cynghori Is-Sahara
11:20 Barnau ac adborthion y cynilleidfa
11:30 Pôl a chau