Events

Loading Events

Mae strategaeth codi arian yn gallu eich helpu i flaenoriaethu a chanolbwyntio eich ymdrechion codi arian, ac eich helpu i fod yn fwy cynaliadwy. Fodd bynnag, mae’n gallu ymddangos fel proses frawychus mewn sefydliad bach. Bydd y cwrs hwn (dros ddau weithdy hanner diwrnod) yn edrych ar sut i ddatblygu eich strategaeth codi arian. Bydd yn darparu map ffordd strwythuredig ac adnoddau perthnasol i’ch galluogi i lunio a gweithredu strategaeth codi arian yn eich sefydliad. Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer unrhyw un sydd eisiau datblygu neu adnewyddu eu strategaeth codi arian.

8 Chwe 2022 | Gweithdy 1:

Erbyn diwedd y cwrs hwn, bydd cyfranogwyr yn gallu:

  • Disgrifio pwrpas y strategaeth codi arian a lle mae’n cyd-fynd â strategaethau a chynlluniau sefydliadol eraill
  • Nodi elfennau allweddol strategaeth codi arian
  • Defnyddio adnoddau cynllunio strategol i adolygu eu sefyllfa codi arian presennol, a dewis opsiynau codi arian priodol.

22 Chwe 2022 | Gweithdy 2:

Erbyn diwedd y cwrs hwn, bydd cyfranogwyr yn gallu:

  • Datblygu strategaeth codi arian a chynllun gwaith ar gyfer eu sefydliad eu hunain
  • Gweithredu strategaeth codi arian gyda phroses fonitro ac adolygu ar waith
  • Nodi heriau a rhwystrau posibl wrth ddatblygu a gweithredu eu strategaeth codi arian, a chael help gan gyfoedion ar sut i fynd i’r afael â’r rhain.

📣 MAE ANGEN PRESENOLDEB AR Y DDAU DDIWRNOD 📣


Cofrestru

Go to Top