Events

Loading Events

Yn y gweithdy hwn, byddwn yn archwilio sut y gall sefydliadau undod byd-eang bach yng Nghymru a grwpiau yn Affrica ddefnyddio offer digidol i gefnogi addysg a dysgu, gan gynnwys mewn ysgolion a thrwy addysg gyhoeddus.

Bydd y siaradwyr gwadd yn cynnwys Khosi Mofolisa, athro ysgol gynradd dan hyfforddiant ac ar hyn o bryd Swyddog Llên Dolen Cymru Wales Lesotho Link; a Tabitha Ndiaye, Sylfaenydd a Chadeirydd Rhwydwaith Niokolo.

Ariennir y digwyddiad hwn gan The Waterloo Foundation.

Cofrestrwch

Siaradwyr Gwadd

Khosi Mofolisa

Mae Khosi Mofolisa yn athro ysgol gynradd wrth ei alwedigaeth. Ar hyn o bryd mae’n gweithio i Dolen Cymru Wales Lesotho Link fel Swyddog Llên. Mae’n gweithio gydag athrawon eraill ar draws Lesotho i godi safonau mewn addysg llythrennedd ac mae wedi bod yn gweithio gydag offer digidol i gefnogi rhwydweithiau o athrawon i wella’u sgiliau a’r modd y cyflwynir cyrsiau.

Tabitha Ndiaye

Tabitha Ndiaye yw Sylfaenydd a Chadeirydd Niokolo Network sy’n gweithio gyda chymunedau yn Senegal. Treuliodd Tabitha ei gyrfa gynnar yn astudio ecoleg ac ymddygiad anifeiliaid gan gynnwys ym Mharc Cenedlaethol Niokolo-Koba yn Senegal. Mae Rhwydwaith Niokolo wedi bod yn arloesi gyda defnydd o offer digidol ac animeiddio i gefnogi addysg gyhoeddus a datblygiad cymunedol.

Go to Top