Dydd Sadwrn, 26 Tachwedd, 1pm, Siambr y Cyngor (ail lawr – bydd arwyddion)
Mae dewis beth i’w brynu a sut i wario ein harian mewn ffordd sy’n cael effaith bositif ar
ein cymuned leol a byd-eang, yn aml yn gallu teimlo’n heriol. O deimlo wedi’ch llethu gan
y materion niferus a welwn heddiw, i deimlo’n bryderus am ein cyllid personol ein hunain – dydy penderfynu sut i weithredu er budd ni ein hunain a’r byd ehangach – ddim mor syml ag yr hoffem iddo fod.
Fel rhan o Farchnad Moesegol yr Ŵyl, mae Hub Cymru Affrica yn cynnal trafodaeth
amser cinio awr o hyd ar y thema Cydsefyll, ac yn gofyn ‘A fedrwn ni wneud
gwahaniaeth go iawn?’
Bydd pedwar panelydd yn ‘cyflwyno’ eu prif argymhellion i brynwyr ar bwy i Gefnogi, ble i Brynu, a beth i Foicotio, cyn ateb cwestiynau’r
gynulleidfa, a rhoi rhywfaint o gamau syml y gallwn eu cymryd i fynd i’r afael ag
anghydraddoldeb, anghyfiawnderau, a newid hinsawdd.
“We don’t need a handful of people doing zero waste perfectly. We need millions of
people doing it imperfectly.” Anne Marie Bonneau.