Lady Phyll i roi Prif Anerchiad y Bore
Lady Phyll i roi Prif Anerchiad y Bore
Mae’n bleser gennym i gyhoeddi siaradwraig Prif Anerchiad y Bore’r Uwchgynhadledd Undod Byd-eang.
Phyll Opoku-Gyimah yw prif weithredwraig a chyd-sylfaenydd UK Black Pride, dathliad mwyaf Ewrop ar gyfer pobl LHDTC+ o liw. Mae hi hefyd yn brif weithredwraig y Kaleidoscope Trust, elusen flaenllaw’r DU sy’n dadlau dros hawliau dynol pobl LHDTC+ ledled y Gymanwlad.
Mae hi wedi bod yn bennaeth cydraddoldeb ac addysgu yn yr Undeb Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol, wedi eistedd ar bwyllgor cysylltiadau hiliau’r Gyngres yr Undebau Llafur, ac wedi bod yn ymddiriedolwraig ar gyfer yr elusen hawliau LHDTC+ Stonewall.
Mae’n cael ei hadnabod yn eang fel Lady Phyll, yn rhannol oherwydd ei phenderfyniad i wrthod MBE i brotestio rôl Prydain wrth lunio codau cosbi gwrth-LHDTC+ ar draws ei hymerodraeth.
Mae’r Uwchgynhadledd Undod Byd-eang yn dod ag unigolion a sefydliadau o Gymru sy’n gweithio ar brosiectau undod ledled y byd at ei gilydd. O grwpiau cymunedol bach i ganghennau o gyrff anllywodraethol rhyngwladol yng Nghymru, rydym yn codi proffil y sector yng Nghymru.
Cynhelir Uwchgynhadledd 2023 ar ddydd Mawrth 23ain Mai yng Nghanolfan Gynadledda Prifysgol De Cymru yn Nhrefforest ac ar-lein.