Meddyliau ar #SummerUndod2022 Abertawe

Categories: NewyddionPublished On: 30th July, 2022926 words4.7 min read

Meddyliau ar #SummerUndod2022 Abertawe

Categories: NewyddionPublished On: 30th July, 202242.2 min read

Roedd yr haul yn gwenu yn Abertawe ar gyfer ein trydydd #UndodHaf2022

Bywoliaethau Cynaliadwy oedd y pwnc ar gyfer yr olaf un o’n digwyddiadau rhwydweithio rhanbarthol y tymor, a gynhaliwyd ar 15fed Gorffennaf yn Theatr y Grand Abertawe dan oleuad yr haul.

Mae rhannau o Affrica yn wynebu problemau difrifol: mae COVID-19 wedi arwain at argyfyngau economaidd, iechyd a lles; mae effeithiau newid hinsawdd yn gwaethygu; ac mae goresgyniad Rwsia o’r Wcráin wedi anfon prisiau tanwydd a bwyd yn uchel.

Felly beth mae sefydliadau ac unigolion yn ei wneud i sicrhau bod bywoliaethau cynaliadwy yn bosibl?

Tim Coggan

Rhoddodd Tim Coggan, Cydlynydd Rhaglenni Gorllewin Affrica yn United Purpose, gyflwyniad ar waith ei sefydliad yn ystod y pandemig COVID-19 yng Ngorllewin Affrica. Mae United Purpose wedi ariannu prosiect ymateb COVID a pharodrwydd brechlyn yn Nigeria, Gambia, Senegal a Gini, a oedd yn cwmpasu gofal iechyd a hyfforddiant, goresgyn amheuaeth brechlynnau, helpu i ailadeiladu’r economi a hyrwyddo twf economaidd cynaliadwy. Cyrhaeddodd y prosiectau hyn amcangyfrif o 4.4 miliwn o bobl.

Roedd cyfathrebu yn rhan fawr o’r prosiect. Er mwyn hysbysu pobl am ledaeniad y coronafirws ac i rymuso cymunedau i’w atal, bu United Purpose yn gweithio gyda’r cerddor o Nigeria, Sunny Neji, i gynhyrchu’r gân “Together We Will Beat Coronavirus”, a gafodd ei lledaenu trwy’r radio a’r cyfryngau cymdeithasol.

Paul Lindeowood

Trafododd Paul Lindeowood o Anabledd yng Nghymru ac Afrrica sut mae ei sefydliad yn meithrin undod rhwng pobl fyddar ac anabl yng Nghymru ac Affrica. Mae ei brosiect “Rhannu Ein Stori”, neu #SOS, wedi taflu goleuni ar y gwahaniaethau a’r tebygrwydd rhwng profiadau unigolion a chymunedau o’r fath, a sut mae pobl ag anableddau yn Affrica yn ceisio newid polisïau ac ymddygiad yn y gymdeithas ehangach.

Yng Nghenia, er enghraifft, gofynnwyd i grŵp o bobl anabl fonitro etholiadau ond daethant ar draws sawl mater hygyrchedd. Aethant at sefydliad lleol, a wnaeth dechrau talu costau cludo unigolion ag anableddau i fythau pleidleisio i bleidleisio. Hyd yn hyn, mae #SOS wedi casglu 30 straeon o Ddwyrain Affrica, Gorllewin Affrica a Chymru.

Paul Lindeowood o Anabledd yng Nghymru ac Africa yn cyflwyno ar “Share Our Story”

Janet Lowere

Eglurodd Janet Lowere o Bees for Development sut y gall cadw gwenyn leihau tlodi, cynyddu bioamrywiaeth a ffurfio bywoliaethau cynaliadwy. O Ethiopia i Zimbabwe i Uganda, mae mêl a chŵyr gwenyn a gynhyrchir gan wenynwyr wedi darparu ffynonellau incwm mwy a mwy sefydlog. I ffermwyr, mae cadw gwenyn yn dod yn ffurf ddefnyddiol ar arallgyfeirio i wrthbwyso costau cynyddol ac ansicrwydd mewn mannau eraill a achosir gan newid yn yr hinsawdd a digwyddiadau daear-wleidyddol.

Rhannodd Janet stori Steven, dyn o Ghana a hyfforddodd fel gwenynwr ac sydd bellach yn ei ymarfer yn llawn amser. Mae ganddo 450 o gytrefi ac mae’n cadw rhai o’i wenyn mewn perllan cashiw gerllaw, sy’n ei wasanaethu ef a pherchennog y berllan, sydd angen y gwenyn i beillio’r coed.

Elen Jones

Siaradodd Elen Jones am Jenipher’s Coffi, menter gymdeithasol a enwyd ar ôl Jenipher Wettaka, is-gadeirydd y cwmni cydweithredol o ffermwyr sy’n cydweithio ar lethrau Mynydd Elgon yn nwyrain Wganda i gynhyrchu’r coffi hardd hwn. Mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio’n wael ar y rhanbarth oherwydd llithriadau llaid sy’n niweidio’r pridd a’r cnydau, gan fygwth dyfodol cynhyrchu coffi.

Mae’r coffi yn cael ei dyfu 100% Masnach Deg ac mae’r premiwm yn sicrhau bod Jenipher bob amser yn derbyn pris teg er gwaethaf amrywiadau yn y farchnad. Daeth cyllid cychwynnol ar gyfer y fenter gan Lywodraeth Cymru, sydd bellach yn cyflenwi’r coffi yn ei ffreuturau a’i gweithleoedd. Roedd y pandemig COVID-19 yn golygu bod angen newid model busnes Jenipher’s Coffi, fodd bynnag, gyda gwerthiannau manwerthu yn dod yn bwysicach o lawer na chyfanwerthu. Yn sydyn, roedd angen brandio a phecynnu fel y gellid mwynhau’r coffi mewn cartrefi yn hytrach na swyddfeydd.

Dr Krijn Peters

Rhoddodd Dr Krijn Peters, Athro Cyswllt Gwleidyddiaeth, Athroniaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Abertawe, gyflwyniad ar yr heriau a wynebir gan gymunedau gwledig yn Liberia a achosir gan seilwaith gwael a diffyg ffyrdd. Mae gofal iechyd yn bell i ffwrdd ac mae ysgolion a marchnadoedd yn anodd eu cyrchu, sy’n effeithio’n negyddol ar fenywod a phlant yn arbennig.

Trwy Brifysgol Abertawe, arweiniodd Krijn Tracks for Progress: Mobility for Livelihoods in Rural Liberia, prosiect a ymchwiliodd i anghenion symudedd yr ardal. Drwy wneud penderfyniadau a yrrir gan y gymuned, mae’r prosiect wedi helpu i uwchraddio llwybrau troed gwledig i draciau tacsis beiciau modur.

Fadhili Maghiya, Prif Weithredwr Panel Cynghori Is-Sahara, ac Altaf Hussain AS, Gweinidog yr Wrthblaid dros Gydraddoldeb yn y Senedd, gyda Claire O’Shea, Pennaeth Partneriaeth Hub Cymru Africa

Ar ôl seibiant a chyfle i rwydweithio, bu Carol Adams o’r Panel Cynghori Is-Sahara a Food Adventure, yn cadeirio trafodaeth banel ar fywoliaethau cynaliadwy yn Affrica yn yr oes ôl-COVID-19.

[Darllenwch mwy am ein Sesiwn Trafodaeth Banel yma]

Daeth y noson i ben gyda bwyd blasus Nigeriaidd gan Twale Cuisine a cherddoriaeth anhygoel gan Ify Iwobi a N’famady Kouyaté.

Pum Pwynt Dysgu Allweddol:

  • Mae arallgyfeirio yn rhan hanfodol o fywoliaethau cynaliadwy, a bydd yn bwysicach fyth yn y dyfodol
  • Mae gan lawer o bobl yr adnoddau i greu bywoliaethau cynaliadwy ond nid oes ganddynt yr hyfforddiant angenrheidiol
  • Rhaid cynnwys cymunedau wrth gynllunio prosiectau newydd sy’n effeithio arnynt, yn enwedig menywod, gan mai nhw sydd â’r mwyaf i’w ennill yn aml
  • Dylai fod gan gynhyrchwyr lwyfan i adrodd eu straeon eu hunain i ddefnyddwyr
  • Mae angen mwy o gyllid i gefnogi prosiectau hirdymor, gan gynnwys o fewn Cymru

Gwelwch mwy o luniau o’r digwyddiad yn ein halbwm Flickr.