Meddyliau ar #SummerUndod2022 Caerdydd

Categories: NewyddionPublished On: 25th July, 2022786 words4.1 min read

Meddyliau ar #SummerUndod2022 Caerdydd

Categories: NewyddionPublished On: 25th July, 202235.9 min read

Dechreuodd #SummerUndod2022 yng Nghaerdydd ym Mhafiliwn Grange

Ar ôl dwy flynedd o uwchgynadleddau rhithwir, roedden ni wrth ein boddau i gynnal ein digwyddiadau rhwydweithio rhanbarthol mewn person unwaith eto, yn dechrau yng Nghaerdydd ar 2ail y thema Cyfiawnder Hinsawdd.

Mae Pafiliwn Grange yn lle cymunedol gwyrdd a bywiog sy’n cefnogi prosiectau sy’n cael eu harwain gan y gymuned. Mae’n lle agored a braf gyda gardd â phum pwll glaw, dôl flodau gwyllt, gardd gwenyn, gardd gymunedol ar osod a lawnt ar gyfer awyr iach a rhwydweithio.

Clywsom gan leisiau o’r cymunedau sy’n cael eu heffeithio’r mwyaf gan yr argyfwng hinsawdd ac am yr ymateb iddo gan Gymru.

Dechreuodd y digwyddiad drwy gyflwyno cadeirydd newydd Hub Cymru Africa, Tina Fahm. Dywedodd Tina ei hanes am ei hetifeddiaeth Nigeriaidd a’i gobeithion ar gyfer gwaith a datblygiad Hub Cymru Africa yn y dyfodol.

Dadleuodd am bwysigrwydd yr alltudiaeth i bontio’r hen Affrica a’r un newydd, gan fod 2.5 miliwn o Affricanwyr alltud yn y DU. Mae Affrica ar ei hol hi gyda brechlynnau coronafeirws a thlodi bwyd ond cawson wedi ein hysbrydoli gan y dyfyniad hwn gan Nelson Mandela:

Mae heriau o’r fath yn teimlo’n amhosib tan eu bod wedi gorffen.

Cawson ein hymuno gan siaradwragedd gwych yn ein sesiwn am Gyfiawnder Hinsawdd, a rhannodd y rheini eu gwaith a’u profiad o bontio Cymru ac Affrica.

Panel siarad Caerdydd

Panel siarad: O’r chwith i’r dde: Claire O’Shea, Clare James, Mari McNeill, Barbara Davies Quy, Beth Kidd; O’r chwith i’r dde ar y sgrîn: Lorna Alum, Deborah Wekesa

Ymunodd Lorna Alum o Mount Elgon Tree Growing Enterprise a Deborah Wekesa o Bumaena Tree Nursery Group â ni o Wganda drwy’r we. Gwnaethon nhw ddweud wrthym am y problemau yn eu gwlad oherwydd newid hinsawdd: mae glaw yn anghyson, sy’n arwain at lifogydd neu sychderau; mae torri coed yn achosi erydiad pridd ac yn atal planhigion rhag cael digon o faetholion i dyfu; mae gwyntoedd cryf yn chwythu tai ac adeiladau i lawr; nad oes digon o fwyd neu dŵr glân; ac mae cymunedau yn ymdrechu i fyw bywydau pob dydd.

Dywedodd Mari McNeill, Pennaeth Cymru Cymorth Cristnogol, am sut mae ei helusen hi yn canolbwyntio yng Nghymru ar roi platfform i brofiadau eu partneriaid yn Affrica a’u model o “Rhoi/Gweithredu/Gweddu” fel ymateb i’r argyfwng hinsawdd.

Siaradodd Clare James o Climate Cymru am y prosiectau yng Nghymru sy’n canolbwyntio ar adeiladu cymunedau gwydn, er enghraifft ynni cynaliadwy a thyfu bwyd i daclo newid hinsawdd. Mae’r Great Big Green Week yn digwydd yr hydref hwn, sy’n ddathliad o weithgareddau cymunedol i daclo newid hinsawdd ac i amddiffyn natur.

Siaradodd Barbara Davies Quy, Dirprwy Gyfarwyddwr Maint Cymru, am sut mae ei helusen hi yn gweithio gyda chymunedau yn Affrica a’r Amason i blannu 25 miliwn goed erbyn 2025 a’i fod eisiau Cymru bod y “genedl dim datgoedwigo” gyntaf. Mae yna symudiad mewn sut rydym ni’n gwario ein harian, yn ôl hi, gan ein bod ni’n prynu mwy o gynhyrchion moesegol a chynaliadwy.

Brodwaith gan Ophelia Dos Santos

Yn sesiynau’r prynhawn, rhedodd Daisy Rees o’r Centre for African Entrepreneurship gylch trafod ar bwnc alltudiaeth a newid hinsawdd, a rhedodd Ophelia Dos Santos, artist gwehyddu a gweithredwraig leol, weithdy ar gynaliadwyedd yn y diwydiant ffasiwn gan ddysgu brodwaith i’r rhai oedd yn cymryd rhan.

Roedd cyfle i weld lluniau buddugol y Gystadleuaeth Ffotograffiaeth 2022 ar y thema “Ailffurfio’r Naratif”, ac arddangosfa ar y thema “Cyfiawnder Hinsawdd” gan Ieuenctid Masnach Deg Bro Morgannwg.

Gwnaethom ni gofyn i bawb sut mae cydymddibyniad bydol yn edrych iddyn nhw. Roedd yr atebion yn cynnwys: cydgenedlaetholdeb, cyfrifoldeb, dod o hyd i dir a chryfder cyffredin, empathi, dewrder, tegwch, cydnabod ein dynoliaeth gyffredin, dad-drefedigaethu elusennau a phartneriaethau.

Cawsom ni cerddoriaeth arbennig gan Blank Face a N’famady Kouyaté a bwyd Nigeriaidd blasus dros ben gan Id’s Place.

N’famady Kouyaté yn chwarae'r balaffon

N’famady Kouyaté yn chwarae’r balaffon

Pum pwynt dysg:

  • Erbyn 2100, Affricanwr/aig bydd un o bob tri pherson.
  • Mae pobl yn canolbwyntio mwy ar dyfu eu bwyd eu hun er mwyn dysgu sgiliau newydd a lleddfu costau byw.
  • Mae gan fenywod rhan fawr i chwarae i daclo newid hinsawdd yn Affrica gan eu bod nhw’n casglu dŵr a choed tân, magu plant a choginio. Mae hyfforddiant garddwriaeth yn angenrheidiol i’u dyfodol.
  • Mae addysg cyllid hinsawdd yn bwysig, gan fod sawl buddsoddwr yn cefnogi cynlluniau sy’n groes i gyfiawnder hinsawdd.
  • Dillad yw’r diwydiant mwyaf llwglyd ar ôl olew. Mae’n creu a chyweirio dillad a’u prynu’n ail law yn bethau pwysig gallwn ni gwneud fel unigolion i helpu taclo’r broblem hon.