Mynnwch Gymorth
Cyngor 1-i-1
Beth rydyn ni’n ei wneud a sut i gysylltu â ni.
Mae ein tîm yn cynnwys pedwar Rheolwr Cymorth Datblygu, a’u rôl nhw yw helpu i ddatblygu sgiliau mewn unigolion a sefydliadau, yn ogystal â chryfhau’r sector Datblygu Rhyngwladol yng Nghymru’n gyffredinol. Rydym yn gwneud hyn trwy:
- Allgymorth rhagweithiol ar gyfer grwpiau sy’n ymwneud â gweithgareddau prosiect.
- Sesiynau canllaw un-i-un ar brosiectau unigol a phob agwedd ar gylchred rheoli prosiectau.
- Cynllun mentora blynyddol ar gyfer 2-5 o fudiadau gwahanol eu maint sy’n gwneud gwaith blaenllaw.
- Digwyddiadau dysgu ar y cyd i annog dysgu ymysg cymheiriaid a dangos arferion gorau.
- Sesiynau hyfforddi ar faterion sy’n berthnasol i grwpiau bach, dan arweiniad gwirfoddolwyr.
Rydym yn meithrin perthnasoedd parhaus cryf gydag unigolion a grwpiau, gan gynnwys cysylltiadau iechyd, elusennau bach a grwpiau Masnach Deg mewn trefi.
I gysylltu â’r tîm Cymorth Datblygu, e-bostiwch advice@hubcymruafrica.org.uk a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi i gynnig cymorth.assist.
Mentora
Ydych chi’n gymwys ar gyfer ein rhaglen fentora?
Mae ceisiadau ar gyfer rhaglen 2021 yn nawr ar agor!
Bydd Rhaglen Ddwys Hyb Cymru Affrica yn helpu’ch mudiad i wella eu gallu a’u potensial. Mae’r rhaglen hon, sy’n cael ei chynnal mewn 3 gwahanol ffurf, ar gael i hyd at bump o fudiadau yng Nghymru bob blwyddyn.
Hyfforddiant
Gallwn gynnig hyfforddiant proffesiynol ar gyfer datblygiad proffesiynol / sefydliadol.
I siarad ag un o’n Rheolwyr Cymorth Datblygu a chanfod pa gyfleoedd hyfforddi sydd ar gael ar gyfer eich prosiect neu grŵp, e-bostiwch advice@hubcymruafrica.org.uk.