Adnoddau digidol i helpu gyda’ch gwaith
Adnoddau digidol i helpu gyda’ch gwaith
Gall adnoddau digidol eich helpu i reoli eich gwaith a’ch sefydliad. Mae llawer o adnoddau ar gael. Defnyddiwch y canllaw hwn i’ch helpu i ddod o hyd i’r atebion gorau i chi.
Naw platfform i’ch helpu i gyfarfod a chydweithio
- Mae Microsoft Teams yn blatfform cyfathrebu busnes am ddim. Mae’n cynnig sgwrsio lleoliad gwaith, fideo-gynadledda, storio ffeiliau, a chydweithio â byrddau gwyn. Mae Teams yn disodli platfformau negeseuon busnes a chydweithredu eraill sydd yn cael eu rhedeg gan Microsoft, gan gynnwys Skype for Business a Microsoft Classroom
- Mae Slack yn blatfform cyfathrebu sy’n cynnig llawer o nodweddion sgwrsio mewn amser real, sy’n cynnwys ystafelloedd sgwrsio parhaus (sianeli) a drefnir yn ôl pwnc, grwpiau preifat a negeseuon uniongyrchol. Mae’n dda iawn am gael llawer o wahanol bobl i gyfrannu at drafodaethau â thema.
- Mae gan Google suite amrywiaeth o adnoddau cydweithredu sydd ar gael ar gyfer cyfarfodydd, sgwrsio, rheoli prosiectau, calendr, e-bost, sleidiau, rhannu dogfennau, cydweithio â byrddau gwyn (bwrdd Jam) a thaenlenni. Mae’r rhan fwyaf ar gael i’w defnyddio am ddim, er eu bod yn gofyn am dâl am rai swyddogaethau
- Mae Zoom yn gweithredu fel cyfleuster fideo-gynadledda a negeseuo syml ar draws unrhyw ddyfais. Mae’n boblogaidd iawn ar draws y byd a chyn pen dim, hon oedd y dechnoleg ddewisol ar gyfer cyfarfodydd a chynadleddau yn 2020. Mae’n rhad ac am ddim i’w ddefnyddio ar gyfer cyfarfodydd syml, ond bydd angen i chi dalu am gyfrif am gyfarfodydd hirach gyda mwy o bobl
- Mae WhatsApp yn cael ei ddefnyddio gan bron pob un o grwpiau Cymru Affrica. Mae’n wasanaeth negeseuo traws-blatfform a llais dros y rhyngrwyd rhadwedd, sy’n eiddo i Facebook. Mae’n caniatáu i ddefnyddwyr anfon negeseuon testun a negeseuon llais, gwneud galwadau llais a fideo, a rhannu lluniau, dogfennau, lleoliadau defnyddwyr, a chyfryngau eraill
- Mae IMO yn boblogaidd mewn rhannau helaeth o Affrica, ac mae’n ap galw a negeseua gwib tebyg i WhatsApp, gyda galwadau sain a fideo, negeseua gwib, sgyrsiau grŵp, rhannu dogfennau a ffeilia
- Mae Teamwork yn adnodd rheoli prosiect ar-lein sy’n caniatáu i ddefnyddwyr gydweithio ar ddatblygu prosiectau, edrych ar amserlenni a dyrannu tasgau. Mae fersiwn am ddim ar gael ar gyfer prosiectau bach
- Mae Evernote yn gymhwysiad hyblyg am ddim y gellir ei ddefnyddio ar-lein ac all-lein ac sydd ar gael ar gyfrifiadur, Mac, Android ac iPhone/iPad (IOS). Ymhlith ei ddefnyddiau mae rheoli prosiectau, rheoli tasgau, rhestrau cyswllt, gwybodaeth i randdeiliaid, cynllunio cynnwys hyfforddiant, nodiadau mentora, rhannu adnoddau, nodiadau ymchwil, neu gellir ei ddefnyddio i gadw golwg ar ddigwyddiadau a chyfranogwyr
- Mae Asana yn adnodd am ddim sy’n eich galluogi i greu cynllun prosiect ac ystod o dasgau y gellir eu neilltuo i aelodau eich tîm. Ar ôl cwblhau pob tasg, gellir eu gwirio, sy’n rhoi safbwynt clir i chi am y ffordd mae eich prosiect yn datblygu, a’r ffordd mae pob aelod o’r tîm yn cyfrannu at lwyddiant y prosiect. Mae aelodau’r tîm yn rhydd i atodi ffeiliau a gadael sylwadau hefyd.
Beth sydd orau?
- Ar gyfer negeseuon testun: WhatsApp or IMO
- Ar gyfer cyfarfodydd fideo: Zoom or Microsoft Teams
- Ar gyfer rheoli prosiectau: Teamwork or Evernote
- Ar gyfer grwpiau trafod: Slack or WhatsApp
- Ar gyfer storio a rhannu ffeiliau: Microsoft Teams or Google Docs
Gellid cyflwyno rhywfaint o hyfforddiant, addysgu a thiwtorialau syml yn defnyddio adnoddau cyfarfod, negeseua a chydweithredu.
I lawer o ddysgwyr sy’n dilyn cyrsiau mwy cymhleth, gallai defnyddio platfform dysgu digidol helpu. Mae’r rhain yn galluogi myfyrwyr i ymgysylltu’n weithredol â chynnwys addysgol drwy rannu dogfennau, fideo, darlithoedd a thiwtorialau. Mae addysgwyr yn defnyddio platfformau dysgu digidol fel rhan o’u cyfarwyddyd i wneud dysgu’n fwy diddorol a rhyngweithiol i fyfyrwyr, ac i gynnig gwersi y gellir eu personoli ar gyfer pob dysgwr.
Pum System Rheoli Dysgu Fforddiadwy ar gyfer Sefydliadau Bach
- BrainCert yn blatfform hyfforddi sy’n cyflawni pob swyddogaeth, ac sy’n galluogi sefydliadau i gynnal hyfforddiant personol ar-lein fel darparu cyrsiau cyfunol hunan-amseru, arholiadau ardystio, fideo-gynadledda a chydweithredu mewn amser real yn defnyddio ystafell ddosbarth rithwir, integredig. Mae ganddo gyfrifon am ddim i ddechreuwyr, ac mae’r cyfrifon uwch yn fforddiadwy
- Mae Moodle yn System Rheoli Dysgu ar-lein am ddim, sy’n rhoi datrysiad ffynhonnell agored i addysgwyr ar draws y byd ar gyfer e-Ddysgu sy’n raddadwy, yn addasadwy ac yn ddiogel, gyda’r detholiad mwyaf o weithgareddau sydd ar gael
- Mae Panopto yn darparu gwasanaeth recordio darlithoedd, sgrin-gastio, ffrydio fideo, a meddalwedd rheoli cynnwys fideo, sydd yn cael ei ddefnyddio yn aml mewn amgylcheddau E-ddysgu. Mae’n eich galluogi i reoli eich darlithoedd wedi’u recordio yn ganolog, a fideos ystafell ddosbarth ychwanegol. Mae’r fideo yn ganolog i Panopto. Mae ganddo gyfrifon sylfaenol am ddim a chyfrifon proffesiynol fforddiadwy
- Mae Google Classroom yn wasanaeth am ddim ar y we sydd wedi cael ei ddatblygu gan Google ar gyfer ysgolion sydd eisiau symleiddio creu, dosbarthu a graddio aseiniadau. Prif ddiben Google Classroom ydy symleiddio’r broses o rannu ffeiliau rhwng athrawon a myfyrwyr. Amcangyfrifir bod rhwng 40 a 100 miliwn o ddefnyddwyr yn defnyddio Google Classroom
- Mae Learning@Wales yn blatfform e-ddysgu cenedlaethol sydd yn cael ei reoli gan Dîm Dysgu Digidol Cymru. Mae tîm Dysgu Digidol Cymru yn gyfrifol am ddatblygu a rheoli cyrsiau E-ddysgu cenedlaethol y GIG i Gymru hefyd. Gall cyrff anllywodraethol yng Nghymru ychwanegu cynnwys i sicrhau bod cyrsiau ar gael ar-lein.
Mae llawer o adnoddau ar gael i’ch helpu i gofnodi a rheoli gwybodaeth.
Os ydych chi’n casglu ac yn prosesu gwybodaeth am bobl, mae materion moesegol a chyfreithiol y dylech fod yn ymwybodol ohonynt. Bellach, mae gennym fwy o ffyrdd o gasglu, storio, rhannu, trosglwyddo, dadansoddi a chyhoeddi data nag erioed o’r blaen. Mae Rheoli Data’n Gyfrifol yn ymwneud â thrin data â pharch, a chynnal hawliau pobl sydd â’u data gennym. Mae Rheoli Data’n Gyfrifol yn canolbwyntio ar drin gwybodaeth pobl â pharch ac urddas, ac am sicrhau ein bod ni bob amser yn gweithredu er eu lles gorau.
Tri Adnodd Defnyddiol ar Adnoddau Data Cyfrifol
1. Rheoli Data’n Gyfrifo.
Pecyn hyfforddi gan Oxfam ar gyfer sefydliadau dyngarol ar reoli data rhaglenni yn unol ag arferion gorau.
2. Rhestr o Adnoddau Data Cyfrifol
Mae’r rhestr hon o adnoddau (a elwid gynt yn “Hackpad Data Cyfrifol) yn cael ei churadu a’i chynnal gan MERL Tech a The Engine Room.
3. The Gendersec Curriculum
Adnodd sy’n cyflwyno safbwynt cyfannol, ffeministaidd i hyfforddiant diogelwch digidol a phreifatrwydd.
Monitro a Gwerthuso
Mae llawer o ganllawiau a phecynnau cymorth ardderchog ar-lein sy’n eich cyflwyno i Fonitro a Gwerthuso. Er eu bod i gyd yn ddefnyddiol, mae’r rhan fwyaf yn gweithio ar y rhagdybiaeth bod gennych amgyffrediad eithaf da o Fonitro a Gwerthuso yn barod.
Mae’r pecyn cymorth 1-2-3 yn tybio y gallech fod yn dechrau o’r dechrau neu fod gwir angen gloywi arnoch. Mae’n symleiddio’r derminoleg, ac yn cynnig enghreifftiau gweithiedig. Yn anad dim, mae’n awgrymu dull tri cham, y Dull 1-2-3.
Mae M&E Universe yn adnodd ar-lein am ddim sydd wedi cael ei ddatblygu gan INTRAC i gefnogi ymarferwyr datblygu gyda monitro a gwerthuso. Mae’n gyfres o bapurau byr ar bynciau perthnasol. Gellir cael mynediad iddo drwy blatfform ar-lein (intrac.org/universe) sy’n gydwedd â’r rhan fwyaf o borwyr gwe.
Gyda’r heriau o newid yn yr hinsawdd a pandemigau byd-eang cynyddol, mae gallu monitro prosiectau o bell a rheoli’r cyfleoedd a’r cyfyngiadau’n effeithiol yn hanfodol. Mae’r canllaw defnyddiol hwn i gymdeithas sifil yn amlygu sut i weithio gyda’ch partneriaid i’w wneud yn llwyddiant.
Adnoddau i helpu gyda chasglu data
Mae KoBoToolbox yn gyfres o adnoddau am ddim ar gyfer casglu data maes i’w defnyddio mewn amgylcheddau heriol. Mae’r feddalwedd yn un ffynhonnell agored, am ddim. Mae’r rhan fwyaf o’i ddefnyddwyr yn bobl sy’n gweithio mewn argyfyngau dyngarol, yn ogystal â gweithwyr cymorth proffesiynol ac ymchwilwyr sy’n gweithio mewn gwledydd sy’n datblygu. Mae’n rhad ac am ddim, a gallwch fewnbynnu data all-lein.
Mae Rukovoditel yn gymhwysiad rheoli prosiectau ffynhonnell agored ar y we, am ddim. Mae ei opsiynau addasu yn caniatáu i ddefnyddwyr greu endidau ychwanegol, addasu a nodi’r berthynas rhyngddynt, a chynhyrchu’r adroddiadau angenrheidiol. Mae’r platfform yn galluogi defnyddwyr i lunio’u cymhwysiad eu hunain sydd wedi’i deilwra’n benodol ar gyfer eu gweithgaredd. Mae fersiwn am ddim ar gael. Codir tâl ychwanegol am unrhyw ychwanegion.
Mae Salesforce yn cael ei ddefnyddio gan elusennau sy’n gorfod delio â llawer o ddata gan lawer o bartneriaid neu brosiectau. Mae Salesforce yn ddatrysiad rheoli cysylltiadau cwsmeriaid sy’n dod â chwmnïau a chwsmeriaid at ei gilydd. Mae’n blatfform Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid sengl, integredig a all roi darlun sengl, a rennir o bob partner i bawb yn eich sefydliad. Mae’r prisiau’n dechrau ar £20 y mis.
Mae Open Data Kit yn eich galluogi i adeiladu ffurflenni all-lein pwerus i gasglu’r data sydd ei angen arnoch ble bynnag y mae. Gallwch ddefnyddio’r ap ffôn symudol neu’r ap gwe. Mae ffurflenni a chyflwyniadau’n cael eu syncroneiddio pan ganfyddir cysylltiad. Mae fersiwn y telir amdano ar gael sy’n dod gyda chanllawiau a chymorth. Mae’r gymuned ODK-X yn cynhyrchu meddalwedd ffynhonnell agored am ddim ar gyfer casglu, rheoli a defnyddio data mewn amgylcheddau sy’n gyfyngedig o ran adnoddau.
Mae Epicollect5 yn gymhwysiad ffôn symudol a gwe ar gyfer casglu data yn hawdd, ac am ddim. Mae’n darparu’r cymhwysiad ar y we a’r cymhwysiad ffôn symudol ar gyfer cynhyrchu ffurflenni (holiaduron) a gwefannau prosiect wedi’u gwesteia am ddim ar gyfer casglu data. Mae data’n cael eu casglu (gan gynnwys GPS a’r cyfryngau) yn defnyddio dyfeisiau lluosog, a gellir gweld yr holl ddata ar weinydd canolog (trwy gyfrwng map, tablau a siartiau).
Mae Teamscope yn blatfform casglu data diogel a hawdd ei ddefnyddio, wedi’i gynllunio’n arbennig ar gyfer data sensitif ac ymchwil glinigol. Mae Teamscope yn caniatáu i ymchwilwyr greu ffurflenni ffôn symudol pwerus, casglu data ansoddol a meintiol all-lein, a’u delweddu gydag ychydig o gliciau. Mae ganddo gynlluniau fforddiadwy ac adnodd casglu gwybodaeth all-lein effeithiol.
Mae REDCap yn ddatrysiad diogel ar gyfer cipio data electronig (EDC) (gwe, ffôn clyfar, tabled ac iPad) ar gyfer adeiladu ffurflenni adroddiadau achos electronig a rheoli cronfeydd data. Mae’r ap yn galluogi i ddata gael eu casglu mewn mannau sydd â rhyngrwyd araf neu ddim rhyngrwyd. Gall sefydliadau nid-er-elw ymuno â chonsortiwm REDcap a derbyn trwydded am ddim o’r feddalwedd.
Cymhwysiad cofnodidata symudol yw Magpi sy’n caniatáu i ddefnyddwyr greu ffurflenni symudol ar-lein ac all-lein o fewn munudau. Mae ei ddefnydd yn ymestyn drwy’r sectorau iechyd, amaethyddiaeth, yr amgylchedd a diwydiant, lle mae dargludo cyflym ac isel o ran arolygon ffôn symudol yn galluogi ymchwil graddadwy a syml. Mae ganddo gyfrifon sylfaenol am ddim, ac mae’n caniatáu cofnodi data all-lein.
Mae’r cymhwysiad ffôn symudol Jotforms yn caniatáu i ddefnyddwyr gasglu gwahanol fathau o ddata, fel recordiadau llais, codau bar, geoleoliadau a llofnodion electronig ac yna adeiladu, gweld, cyrchu, didoli, llenwi, rhannu a threfnu’r holl ddata hyn mewn un lle. Mae ganddo gyfrifon sylfaenol am ddim ac mae’n caniatáu cofnodi data all-lein.
Cyhoeddi i IATI
Mae angen i lawer o gyrff anllywodraethol gyhoeddi data cymorth yn unol â’r safon IATI ond, yn enwedig i sefydliadau bach, mae hyn yn gallu bod yn rhy dechnegol a chymhleth. Yn ffodus, mae AidStream yn gadael i chi anwybyddu’r data XML drwy lenwi ffurflen yn lle hynny, y mae wedyn yn ei throsi i’r cod cywir.
Rhannu Ffeilia
Mae WeTransfer yn wasanaeth trosglwyddo ffeiliau cyfrifiadurol ar y rhyngrwyd. Mae cyfrif am ddim yn eich galluogi i anfon ffeiliau hyd at 2GB. Mae cyfrif proffesiynol fforddiadwy yn eich galluogi i anfon ffeiliau hyd at 20GB o faint.
Mae MailBigFile yn ffordd gyflym o anfon hyd at 5 ffeil o 2GB yr un at un person ar y tro am ddim. Rydych chi’n llusgo’r ffeil(iau) i mewn i’r bocs ar y wefan ac yn nodi’r derbynnydd ac yn ysgrifennu eich neges iddyn nhw. Maen nhw’n derbyn y neges a dolen i’w llawrlwytho ar gyfer y ffeil.
Mae Hightail yn caniatáu i bobl anfon ffeil yn defnyddio dolen e-bost hefyd. Mae’n rhaid i chi gofrestru ar gyfer y cyfrif am ddim. Gallwch anfon ffeiliau o hyd at 250Mb at nifer o dderbynwyr. Mae Hightail yn integreiddio â Microsoft Outlook, ac mae ganddo ddatrysiad storio a rhannu ffolderi hefyd sy’n debyg i Dropbox.
Cymorth gyda chyfathrebu digidol
Mae Google Ad Grants yn cynnig gofod hysbysebu am ddim i gyrff anllywodraethol cymwys ar Google, ac yn caniatáu i chi arddangos neges ddewisol eich elusen yn strategol i bobl sy’n chwilio’n weithredol am gyrff anllywodraethol. Gall unrhyw elusen gofrestredig yn y DU dderbyn tua £8,000 mewn hysbysebion AdWords bob mis am ddim.
Casglu Lluniau
Mae Flickr yn cael ei ddefnyddio gan lawer o sefydliadau i roi eu lluniau ar-lein – edrychwch ar DFID, EU ECHO ac UN Women i ddechrau. Gellir defnyddio llawer o’r delweddau, ond nid pob un, yn rhad ac am ddim dan amodau Creative Commons, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio’r drwydded.
Pedair ffynhonnell lluniau sy’n rhydd o freindaliadau
Dylunio Graffig
Tri Adnodd am Ddim i Helpu gyda Graffig
Mae Canva yn adnodd hawdd ar gyfer creu graffig, ac mae’r cyfan yn cael ei wneud drwy lusgo a gollwng felly does dim angen unrhyw sgiliau technegol arnoch. Mae’n arbennig o ddefnyddiol i’r cyfryngau cymdeithasol, ond gellid ei ddefnyddio ar gyfer gwahoddiadau i ddigwyddiadau, eiconau gwefannau neu ffeithluniau hefyd. Ac ar ben hynny, gall elusennau gael y fersiwn premiwm am ddim.
Mae Pablo yn rhad ac am ddim i elusennau, ac mae ei luniau safonol, blychau testun a maint ei gynnwys yn berffaith i’r rheiny sy’n awyddus i lanlwytho i’r cyfryngau cymdeithasol ar unwaith. Mae gan Pablo dros 600,000 o luniau i ddewis ohonynt, neu gall elusennau lanlwytho eu lluniau eu hunain. Ar ôl eu dewis, gellir haenu lluniau gyda thestun, a’u haddasu yn ôl maint ar gyfer Pinterest, Instagram, Facebook, neu Twitter.
Mae Adobe Spark yn adnodd ar-lein ar gyfer creu graffig deniadol yn gyflym gydag amrywiaeth o nodweddion a lluniau wedi’u hadeiladu mewn. Gydag ystod o dempledi o negeseuon cyfryngau cymdeithasol i daflenni, gall y rheiny sydd ddim yn ddylunwyr greu graffig sy’n edrych yn broffesiynol mewn munudau.
Adeiladu eich gwefan eich hun
Does dim angen i chi dalu rhywun i ddylunio eich gwefan. Os ydych chi eisiau rhywbeth syml, gallwch ei wneud eich hun.
Pedwar adeiladwr gwefan rhad a rhwydd
Mae Blogger, o Google, yn ffordd hawdd o greu gwefan seiliedig ar flogio. Nid oes angen unrhyw sgiliau dylunio gwe arnoch, ac mae’n rhad ac am ddim i’w ddefnyddio.
Mae Wix yn hawdd i’w ddefnyddio ac yn dda ar gyfer gwefannau bach, lle mae dylunio da yn bwysig. Mae pecynnau am ddim ar gael.
Mae Weebly yn hawdd iawn i’w ddefnyddio ac mae’n gallu delio â gwefannau mwy. Mae ganddynt opsiynau am ddim a phecynnau fforddiadwy eraill. Arbennig o dda os ydych chi’n gwerthu pethau.
Mae Webnode yn un o’r opsiynau rhad gorau ar gyfer datblygu gwefannau amlieithog. Mae’n un o’r adeiladwyr gwefannau sydd yn cael ei ddefnyddio fwyaf aml ar draws y byd, yn enwedig ymhlith defnyddwyr Ewrop. Dim yn dda os ydych chi eisiau gwerthu pethau. Mae pecynnau am ddim ar gael.
Cyfryngau cymdeithasol
Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn rhad ac am ddim ac yn hawdd i’w defnyddio, ac mae llawer o’ch cynulleidfa yn defnyddio’r rhain yn barod.
Dysgwch fwy am y cyfryngau cymdeithasol i elusennau.
Pum Platfform Cyfryngau Cymdeithasol y dylech eu hystyrie
Mae Facebook yn boblogaidd ar draws y DU ac Affrica, a bydd llawer o’ch cysylltiadau ar Facebook yn barod. Gallwch greu tudalen yn hawdd i hyrwyddo eich gwaith, ac i gael gwirfoddolwyr neu roddion.
Mae Twitter yn dda ar gyfer eiriolaeth, a chael eraill i chwyddleisio eich neges, ac i rwydweithio gyda phobl a sefydliadau ar draws y byd hefyd.
Mae Instagram fod y platfform gorau i chi os oes gennych luniau gwych i’w rhannu o’ch gwaith. Mae Instagram yn gallu helpu i feithrin ymgysylltiad a gyrru pobl i’ch gwefan.
Mae LinkedIn yn ddefnyddiol ar gyfer adeiladu a chynnal rhwydweithiau o gysylltiadau proffesiynol.
Mae YouTube ydy’r lle i ddangos fideos gwych o’ch gwaith.
Golygu ffilm a sain
Rheoli Cymunedol
Mae Mobilize yn cynnig ffordd hawdd o reoli eich perthnasau a gwneud i bobl weithredu. Ni ddylai hwn ddisodli eich cylchlythyr e-bost, ond gallai fod yn ffordd well o weithio gyda’ch cefnogwyr mwyaf ymroddedig. Mae fersiwn am ddim ar gael, yn ogystal â rhaglen grantiau gyfyngedig.
Cynnal Arolygon
Tri Adnodd am ddim ar gyfer Arolygon Ar-lein
Mae SmartSurvey yn ddatrysiad arolwg digidol sy’n helpu unrhyw un i greu arolygon, adeiladu holiaduron a dadansoddi’r canlyniadau.
Mae Google Forms i ddylunio ffurflenni ar-lein sy’n arbed data i ap taenlenni Sheets Google.
Mae Survey Monkey yn adnodd arolwg ar-lein poblogaidd a soffistigedig iawn, ac mae llawer o sefydliadau’n ei ddefnyddio. Fodd bynnag, os mai dim ond y cynllun am ddim rydych chi’n ei ddefnyddio, mae’n eich cyfyngu’n sylweddol.
Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau a chefnogwyr
Mae MailChimp yw un o’r cymwysiadau a ddefnyddir fwyaf i anfon swmp-gyfathrebiadau e-bost neu e-gylchlythyrau. Mae’n dechrau am ddim, ond mae’n gallu mynd yn ddrud wrth i chi gael mwy o gysylltiadau, ond maen nhw’n rhoi gostyngiadau i elusennau.
Mae Sendgrid yn e-bost swmp arall sydd â chyfrifon am ddim ar gyfer negeseuon bach, er y gallwch wneud mwy gyda swyddogaethau â thâl.
Mae SendX yn blatfform hawdd ei ddefnyddio, yn fforddiadwy ac yn llawn nodweddion ar gyfer anfon negeseuon e-bost torfol. Mae’n olygydd llusgo a gollwng, sy’n gwneud creu negeseuon e-byst yn hawdd ac yn gyflym iawn.
Nid yw manteision adnoddau digidol newydd yn cael eu rhannu’n gyfartal ar draws y byd nac o fewn gwledydd. Mae’n bwysig dysgu sut y gall defnyddio technoleg wneud anghydraddoldeb ac allgáu yn waeth.
Chwe Safbwynt Pwysig ar Adnoddau Digidol
The Principles for Digital Development – naw canllaw byw sydd wedi’u cynllunio i helpu i integreiddio arferion gorau mewn rhaglenni a weithredir gan dechnoleg. Maen nhw’n cynnwys canllawiau ar gyfer pob cam o gylch bywyd y prosiect, ac maen nhw’n rhan o ymdrech barhaus ymhlith ymarferwyr datblygu i rannu gwybodaeth a chefnogi dysgu parhaus.
The Digital Divide is Not Binary – y Pump A o ran Mynediad i Dechnoleg. Mae deall mwy am wir natur y rheiny sydd heb gysylltiadau, y rheiny sydd â’r cysylltiadau lleiaf, a’r rheiny sydd â chysylltiadau gwael yn hanfodol i’r sawl sy’n dymuno sicrhau bod dinasyddiaeth ddigidol yn cynnwys cymunedau difreintiedig.
Feminist Principles of the Internet – cyfres o ddatganiadau sy’n rhoi ffocws hawliau rhywiol a rhywedd ar hawliau hanfodol sy’n gysylltiedig â’r rhyngrwyd.
Do’s and Don’ts for using Digital Tools in the Covid-19 response – LDysgu o’r maes ICT4D.
Tactical Tech – corff anllywodraethol rhyngwladol sy’n ymgysylltu â dinasyddion a sefydliadau cymdeithas sifil i archwilio a lliniaru effeithiau technoleg ar gymdeithas.
The Digital Impact Alliance (DIAL) – yn datblygu cynhwysiant digidol i gyflawni’r Nodau Datblygu Cynaliadwy, fel y gall pob menyw, dyn a phlentyn elwa o wasanaethau digidol symudol sy’n gwella bywydau.
Pedair Ffordd o Gael Cymorth a Chyngor ar Faterion Digidol
Bydd grŵpiau trafod Reddit yn gadael i chi bostio cwestiynau a chael cyngor gan arbenigwyr ac ymarferwyr.
Mae gan Hub Cymru Africa sianel drafod Slack ar weithio’n ddigidol i gael trafodaeth gyda phobl sy’n gweithio yn y sector yng Nghymru. I ymuno a’r sianel, cysylltwch â ni ar advice@hubcymruafrica.org.uk.
Mae THET – Technology for Effective Partnership Collaboration yn darparu trosolwg ardderchog o sut i ddefnyddio offer digidol wrth redeg partneriaethau iechyd rhyngwladol, ond mae ganddo wersi ar gyfer prosiectau eraill.
Mae Digital Candle isyn wasanaeth am ddim i elusennau sydd eisiau galwad ffôn awr o hyd gydag arbenigwr digidol. Gall elusennau gael cyngor ar unrhyw agwedd ar farchnata digidol, o strategaeth ddigidol i Google Ads, ac o ddarparu gwasanaethau o bell i gyfryngau cymdeithasol.
Platfformau codi arian ar-lein
Mae platfformau codi arian ar-lein yn eich galluogi i gyflwyno a hyrwyddo eich ymgyrchoedd codi arian, i gasglu arian ac i fonitro eich cynnydd.
Pump o’r platfformau codi arian ar-lein mwyaf poblogid:
Just Giving oedd un o’r platfformau cyntaf ar gyfer codi arian ar-lein, ac mae’n parhau i fod yn un o’r mwyaf. Ar hyn o bryd, mae ganddo 22 miliwn o ddefnyddwyr ar draws y byd. Mae elusennau’r DU yn talu ffi danysgrifio fisol ac yna, canran o roddion.
Mae Virgin Money Giving yn blatfform nid-er-elw a grëwyd gan Virgin Money i helpu elusennau i godi mwy o arian ar-lein. Hyd yn hyn, maen nhw wedi helpu 18,000 o elusennau’r DU a 890,000 o godwyr arian i godi mwy na £685 miliwn.
Mae CAF Donate gan Charities Aid Foundation (CAF). Mae’n caniatáu i ddefnyddwyr greu ffurflenni rhoi arian a botymau ar-lein a’u hychwanegu’n hawdd i wefannau, negeseuon e-bost a thudalennau Facebook. Yn gyntaf, bydd angen i chi gofrestru ar gyfer adnodd adrodd CAF, sef CAF Charity Dashboard, ond yna cewch fynediad at adroddiadau manwl am eich ymgyrchoedd, rhoddwyr a rhoddion.
Mae The Good Exchange yn fudiad dielw sy’n cyflwyno prosiectau sydd angen cyllid i’r rheiny sydd â grantiau i’w rhoi drwy baru awtomataidd tryloyw â sefydliadau corfforaethol, busnesau ac unigolion. Mae pob prosiect yn gallu derbyn rhoddion cyhoeddus hefyd.
Mae GoFundMe wedi ffurfio partneriaeth â PayPal Giving Fund i ddarparu cyllid. Mae rhoddion yn cael eu prosesu gan PayPal a GoFundMe cyn cael eu hanfon i PayPal Giving Fund – sefydliad dielw sy’n eu casglu a’u dosbarthu i’r elusen ddewisol. Mae’r holl elusennau sydd wedi’u cofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau yn y DU yn cael eu rhestru yng nghyfeirlyfr elusen GoFundMe, ac mae arian yn cael ei anfon yn awtomatig i’r elusen gan PayPal Giving Fund.
Pedwar lle i ddod o hyd i arian grant ar-lein:
Adnoddau Arian Grant gan Hub Cymru Africa.
Cyfleoedd Cyllid gan Hub Cymru Africa.
Cyfleoedd Cyllid Undod Byd-eang gan BOND.
Chwiliad Cyllid Datblygu Rhyngwladol Llywodraeth y DU.
Crynodeb:
Mae pandemig Covid-19 wedi amlygu a phwysleisio’r angen am grwpiau undod rhyngwladol yng Nghymru er mwyn defnyddio technolegau sy’n dod i’r amlwg wrth weithio gyda phartneriaid tramor. Comisiynodd Hub Cymru Africa’r ymchwil hon i hwyluso’r defnydd gorau o offer digidol yn y gymuned. Mae’r papur hwn yn nodi arferion da yn ogystal â chyfleoedd a heriau i grwpiau a chyllidwyr fel ei gilydd.