Adnoddau ar gyfer Digwyddiad

Yma gallwch ddod o hyd i’r holl adnoddau a gynhyrchwyd yn sgil digwyddiadau a gynhaliwyd gan Hyb Cymru Affrica yn y gorffennol.

2020
7 Mai
Yn ystod y cyfnod ansicr hwn, mae Hyb Cymru Affrica yma i gynnig cymorth i chi a’ch Partneriaid Deheuol. Felly, aethom ati i gynnal trafodaeth grŵp agored ynghylch yr heriau a’r cyfleoedd sy’n ein hwynebu yn sgil COVID-19.
Anelwyd y sesiwn hon at grwpiau ac unigolion sydd â phrosiectau datblygu yn Affrica yr oedd y sefyllfa bresennol yn effeithio arnynt.
Os nad oeddech yn gallu ymuno â’r sesiwn, neu os ydych chi am ei gwylio eto, cliciwch isod.

22 Mai

Mae pandemig COVID-19 a’r cyfyngiadau symud dilynol yn newid y ffordd rydym yn gweithio gyda’n partneriaid. Gyda hyn, a chydag effaith hirdymor yr argyfwng hinsawdd, mae angen i ni edrych ar ffyrdd newydd o gyfnewid gwybodaeth a dysgu gyda’n partneriaid nad yw’n cynnwys teithio ac addysgu wyneb yn wyneb.

Amlygodd y gweminar hon rai enghreifftiau o fodiwlau dysgu o bell llwyddiannus a ddatblygwyd gyda chynulleidfaoedd y De mewn golwg a siarad drwy rai o’r heriau, gan gynnwys goresgyn yr arwahanrwydd a deimlir yn aml gan ddysgwyr o bell.

Os nad oeddech yn gallu ymuno â’r sesiwn, neu os ydych chi am ei gwylio eto, cliciwch isod.
5 Mehefin
Yn ystod y cyfnod ansicr hwn, mae Hyb Cymru Affrica yma i gynnig cymorth i chi a’ch Partneriaid Deheuol. Felly, aethom ati i gynnal trafodaeth grŵp agored ar yr heriau a’r cyfleoedd sy’n ein hwynebu yn sgil COVID-19.
Anelwyd y sesiwn hon at grwpiau ac unigolion sydd â phrosiectau datblygu yn Affrica yr oedd y sefyllfa bresennol yn effeithio arnynt.
Os nad oeddech yn gallu ymuno â’r sesiwn, neu os ydych chi am ei gwylio eto, cliciwch isod.

26 Mehefin

Roedd y weminar hon yn gyfle i gymuned Cymru ac Affrica rannu profiadau, dysgu, a nodi heriau a datrysiadau cyffredin mewn e-ddysgu. Roedd y digwyddiad yn cynnwys dau gyflwyniad byr:

  1. Mae Learning@wales yn enghraifft o amgylchedd e-ddysgu y gall grwpiau ei ddefnyddio i ddatblygu eu modiwlau eu hunain
  2. Datblygwr sy’n gweithio ar ap i’w ddefnyddio ym maes iechyd cymunedol yn Uganda.

Os nad oeddech yn gallu ymuno â’r sesiwn, neu os ydych chi am ei gwylio eto, cliciwch isod.