Coda dy lais dros Gymorth Tramor

Mae llawer o ymgyrchwyr ar hyd a lled Cymru wedi ymuno yn yr alwad ar lywodraeth y DU i ymrwymo i darged y CU o 0.7% ar gyfer cymorth datblygu dramor, fel y diogelwyd yn y gyfraith yn Neddf Datblygu Rhyngwladol 2015.

Yn anffodus, y Gwanwyn hwn, cyhoeddodd Canghellor y DU y byddai’r Llywodraeth yn lleihau’r gyllideb ar gyfer datblygu rhyngwladol yn sylweddol, gan ddadlau bod costau ymdrin â phandemig coronafeirws yn golygu bod toriad dros dro yn angenrheidiol.

Yn unol â chynlluniau’r Llywodraeth, mae gwariant ar gymorth dramor wedi cael ei leihau o 0.7 % i 0.5 % o’r Incwm Gwladol Gros (GNI).  Mae’n golygu bod y gyllideb datblygu rhyngwladol wedi gostwng o ryw draean, o £15.2 biliwn yn 2019 i ryw £10 biliwn yn 2021.  Cyrhaeddwyd y targed o 0.7 y cant bob blwyddyn ers 2013, ac roedd wedi ei ddiogelu yn y gyfraith ers 2015.

Bydd gollwng yr ymrwymiad hwn i gymorth a datblygiad yn tanseilio yn sylweddol nodau llywodraeth y DU o fod yn “rym cadarnhaol yn y byd”, a bydd yn tanseilio ein gallu i gyflawni’r Nodau Datblygu Cynaliadwy erbyn 2030.  Mae cymorth y DU yn ymrwymiad i’r bobl hynny sydd ar y cyrion yn ein byd; mae’n achub bywydau trwy ddatblygu dyfodol gwell, yn ogystal â mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd a dileu clefydau.

Mae’r bygythiad yma o doriadau i gyllideb cymorth y DU wedi dod ar adeg anodd iawn i wledydd tlotaf y byd. Mae’r CU yn rhagweld y bydd 207 miliwn o bobl yn cael eu gwthio i dlodi difrifol erbyn 2030 oherwydd effaith hirdymor difrifol pandemig Covid-19. Ac mae sefydlogi cyllideb cymorth y DU i’r GNI yn rhoi dull wedi ei sefydlu o ddiogelwch lle mae’r gyllideb sydd ar gael yn tyfu ac yn crebachu gyda’r economi – fyddai’n lleddfu’r angen am y toriadau hyn.

Many campaigners around Wales got involved to call on the UK government to commit to the UN target of 0.7% for overseas development aid, as enshrined in law in the 2015 International Development Act.

Sadly, this Spring, the UK Chancellor announced the Government would significantly reduce the budget for international development, arguing that the costs of dealing with the coronavirus pandemic meant a temporary cut was necessary.

Under the Government’s plans, overseas aid spending has been reduced from 0.7% to 0.5% of Gross National Income (GNI). It means the international development budget falling by around a third, from £15.2 billion in 2019 to around £10 billion in 2021. The 0.7 per cent target had been met every year since 2013, and enshrined in law since 2015.

Dropping this commitment to aid and development will severely undermine the UK government’s aims of being “a force for good in the world” and undermine our ability to achieve the Sustainable Development Goals by 2030. UK aid is a commitment to the world’s most marginalised people; it saves lives and builds better futures, as well as tackling climate change and eradicating disease.

These threatened cuts to the UK’s aid budget could not come at a worse time for the world’s poorest countries. The UN projects that 207 million people will be pushed into extreme poverty by 2030 due to the severe long-term impact of the Covid-19 pandemic. And, pegging the UK aid budget to the GNI provides a built-in safety mechanism whereby the available budget grows and shrinks with the economy – which would mitigate the necessity for these cuts.

Mae cymorth y DU yn gweithio: Mae cymorth y DU yn chwarae rôl hanfodol yn gwella bywydau pobl yn rhai o wledydd tlotaf y byd. Mae gan Brydain enw da am effaith ac effeithiolrwydd ei rhaglenni cymorth.

Bydd y toriadau i’r gyllideb gymorth yn arwain at golli bywydau:

Y pandemig byd-eang yw’r argyfwng dyngarol mwyaf mewn cenhedlaeth, ac amcangyfrifir ei fod eisoes wedi gwthio 150 miliwn o bobl yn fyd-eang i dlodi eithafol. Ar yr adeg dyngedfennol hon, mae angen mwy, nid llai, o gymorth rhyngwladol.

Cadw ein haddewidion yw’r peth iawn i’w wneud. Mae’r ymrwymiad o 0.7% wedi bod yn destun cytundeb trawsbleidiol ers 15 mlynedd, er gwaetha’r cwymp ariannol yn 2008-9. Yn 2015, cefnogodd yr holl brif bleidiau ddiogelu’r targed mewn deddfwriaeth am byth. Fe wnaeth y blaid Geidwadol ailddatgan ei hymrwymiad i gynnal y gyllideb gymorth yn ei maniffesto etholiadol yn 2019, ac eto pan unwyd yr Adran Datblygu Rhyngwladol â’r Swyddfa Dramor yn ystod haf 2020. Byddai torri cymorth yn torri’r addewidion a wnaeth i etholwyr ac i bobl dlotaf a mwyaf agored i niwed y byd.

Mae’r DU wedi bod yn ddylanwadol yn gwthio cymheiriaid i ymrwymo i fwy o gymorth a chymorth gwell – dylem ymfalchïo yn ein harweinyddiaeth fyd-eang. Mae ymrwymiad y DU i 0.7 y cant wedi bod yn gatalydd ar gyfer newid sylweddol yn yr ymdrechion byd-eang i gefnogi datblygiad. Mae o leiaf pum aelod o’r G7 yn bwriadu cynyddu cymorth yn 2021. Yn flaenorol, rydym wedi ymfalchïo yn ein harweinyddiaeth ymysg cymheiriaid yn ein hymrwymiad i gymorth byd-eang – byddwn y tu ôl iddynt nawr.

Y flwyddyn y byddwn yn cynnal G7, dylai’r Llywodraeth sefydlu ei rôl ar gyfer ‘Prydain Fyd-eang’ yn dilyn Brexit.. Mewn blwyddyn pan fydd y DU yn cynnal y G7, Uwchgynadleddau Hinsawdd y CU (COP 26) a’r Uwchgynhadledd Addysg Fyd-eang, dylem fod yn dangos arweinyddiaeth trwy ein hymrwymiad parhaus i ddatblygu rhyngwladol.

Mynd i’r Afael â Heriau Byd-eang trwy Weithredu Rhyngwladol sydd orau i’r DU. Mae’r pandemig byd-eang wedi amlygu ein rhyng-ddibyniaeth byd-eang ymhellach. Mae helpu i ddatblygu cymdeithas decach, fwy diogel lle gallwn i gyd ffynnu, er budd pawb. Bydd codi cyfyngiadau Covid-19 ar ein bywydau ond yn bosibl pan fydd pobl a gwledydd ar draws y byd yn rhydd o’r feirws. Bydd heriau byd-eang eraill, fel y newid yn yr hinsawdd, mudo a gwrthdaro, i gyd yn effeithio ar y DU a dim ond trwy weithredu rhyngwladol y gellir mynd i’r afael â nhw yn effeithiol.

Mae’r ymrwymiad o 0.7 % yn newid gydag amgylchiadau economaidd. Bydd toriadau yn arbed llai nag 1% o’r swm a fenthycwyd eleni. Mae’r ymrwymiad i Gymorth y DU yn cael ei fynegi fel canran o incwm gwladol gros er mwyn ymateb i incwm cenedlaethol a byddai byth yn ‘anfforddiadwy’. Byddai rhaglenni cymorth wedi lleihau am fod economi’r DU wedi lleihau. Er bod benthyciadau cyhoeddus ar lefel uchel, oherwydd cyfraddau llog hanesyddol isel, mae’r gost o wasanaethu’r ddyled honno ar ei lefel isaf ers yr Ail Ryfel Byd, ac yn gostwng. Ar yr un pryd ag y cyhoeddodd y llywodraeth ei bwriad i dorri’r gyllideb gymorth, sefydlodd gynllun i gynyddu gwariant milwrol o £16.5bn dros bedair blynedd. Ond eto, mae’r toriadau hyn i Gymorth y DU yn arbed tua £4bn – llai nag 1% o’r £450bn a fenthycwyd gan y DU eleni, ac yn hyn o beth, ni fydd yn cael unrhyw effaith ar ein diffyg.

Gallwn sicrhau bod y cymorth i gyd yn cael ei wario ar fynd i’r afael â thlodi byd-eang. Mae’n hanfodol wrth drafod yr arian sydd yn cael ei wario ar gymorth ein bod hefyd yn canolbwyntio ar ansawdd y cymorth hefyd. Yn anffodus, cafwyd penawdau yn y cyfryngau yn amlygu ‘cymorth gwael’ – yn cynnwys cam-drin, twyll a chamreolaeth. Gall y straeon hyn yn y cyfryngau gyfrannu at ostyngiad yn ymddiriedaeth y cyhoedd yng nghymorth y DU. Ond ni ddylai hyn olygu ein bod yn torri’r gyllideb gymorth. Yn lle hynny, mae’n golygu y dylem wella’r ffordd yr ydym yn gwario’r cymorth. Fe wnaeth Deddf Datblygu Rhyngwladol 2002 ddiogelu yn y gyfraith bod yn rhaid i’r holl wariant ar gymorth gael ei wario ar drechu tlodi, a dylai hyn barhau yn ffocws ar gyfer cymorth y DU.

Mae penderfyniad y llywodraeth i dorri’r gyllideb yn anghyfreithlon. Er i’r ymrwymiad cyllidebol o 0.7% gael ei ddiogelu yn y gyfraith, mae’r 140+ o erthyglau newyddion negyddol a mynegiant o bryder ASau di-rif wedi roi pwysau ar y llywodraeth i beidio â chyflwyno unrhyw ddeddfwriaeth i newid y gyfraith bresennol o 0.7%. Mae hyn yn newyddion cadarnhaol! Fodd bynnag, mae’r llywodraeth wedi dod i’r casgliad bod toriad dros dro o 0.7% yn cael ei ganiatáu, gan ddychwelyd i 0.7 pan fydd “y sefyllfa gyllidol yn caniatáu” – sydd, y gellir dadlau, yn anghyfreithlon. Yn ogystal, mae penderfyniadau am y toriadau yn cael eu gwneud yn gyflym, heb ymgynghoriad na dadansoddiad priodol a heb graffu seneddol cywir

Mae ysgrifennu ebost neu lythyr personol yn fwy effeithiol na llofnodi ymgyrch ar-lein.  Mae’n fwy tebygol o gael ymateb personol a maent yn fwy tebygol o ymateb i’ch ceisiadau am weithredu.  Mae un neges bersonol wedi ei hysgrifennu’n dda yn werth cant o negeseuon ebost neu lythyrau union debyg ac mae’n dangos i’ch AS eich bod yn poeni’n ddirfawr am y mater penodol hwn.

Gwybod pwy yw eich AS

Gallwch ganfod pwy yw eich AS a chael eu manylion trwy members.parliament.uk/FindYourMP

Bydd angen i chi wybod:

  • Enw eich AS y DU
  • Pa blaid wleidyddol y maent yn ei chynrychioli
  • Eu manylion cyswllt
  • Eu teitl cywir; ydych chi’n cyfeirio atynt fel Mr, Mrs, Ms, Dr, Sr, Gwir Anrh?
  • Rhestr o’u hanes pleidleisio, eu cyfraniadau llafar a’u cwestiynau yn y Senedd.
Gwybod hanes eich AS y DU

Mae’n ddefnyddiol gwneud ychydig o ymchwil gefndirol (sydd yn cael ei chyflwyno gyda’u manylion cyswllt) ar y wefan uchod.  Gallwch weld a ydynt wedi gwneud unrhyw ddatganiadau ar Gymorth y DU neu Gymorth Datblygu Swyddogol (ODA).  Mae rhai ASau yn gefnogol iawn, eraill yn llai cefnogol, ond ni fydd gan lawer ohonynt safbwynt a byddant yn agored i glywed mwy am y mater.

Anfon llythyr neu ebost

Mae ASau yn derbyn llwyth o ohebiaeth yn ddyddiol, felly mae’n ddefnyddiol gwneud eich un chi mor gryno ac effeithiol â phosibl; fydd yn ei wneud yn haws iddynt ei ddarllen yn gyflym a dirnad yr hyn yr ydych yn gofyn iddynt ei wneud.

Treuliwch rywfaint o amser yn ffurfio eich ebost i gynnwys y pwyntiau allweddol:

Eich cyfeiriad (eich côd post o leiaf)

Cyflwynwch eich hun a pham y mae gennych ddiddordeb yn y mater o doriadau i gyllideb Cymorth y DU.  Soniwch am eich gwaith gwirfoddol neu eich profiadau o weithio dramor.

Beth yw’r broblem? Dywedwch wrthynt pam eich bod yn poeni.  Gallech gynnwys rhai o’r pwyntiau trafod hyn (mwy o wybodaeth uchod):

  • Bod gwaith cymorth y DU’n gweithio
  • Bydd y toriadau a gyhoeddwyd yn arwain at golli bywydau ac yn cael eu teimlo ar draws cenedlaethau
  • Y pandemig byd-eang yw’r argyfwng dyngarol mwyaf mewn cenhedlaeth
  • Mae cyllideb Cymorth y DU wedi cael cytundeb trawsbleidiol am 15 mlynedd – dylem gadw ein haddewidion!
  • Mae’r DU wedi bod yn ddylanwadol yn gwthio cymheiriaid i ymrwymo i fwy o gymorth a chymorth gwell – dylem ymfalchïo yn ein harweinyddiaeth fyd-eang
  • Yn ystod y flwyddyn yr ydym yn cynnal G7, dylai’r Llywodraeth DU sefydlu ei rôl ar gyfer ‘Prydain Fyd-eang’ yn dilyn Brexit
  • Mynd i’r afael â Heriau Byd-eang, fel y newid yn yr hinsawdd, trwy weithredu rhyngwladol, sydd orau i’r DU
  • Mae’r ymrwymiad o 0.7 % yn newid gydag amgylchiadau economaidd.  Bydd toriadau yn arbed llai nag 1% o’r swm a fenthycwyd eleni
  • Gallwn sicrhau bod yr holl gymorth yn cael ei wario ar fynd i’r afael â thlodi byd-eang
  • Gellir dadlau bod penderfyniad y Llywodraeth DU i dorri’r gyllideb yn anghyfreithlon
Gofynnwch iddynt wneud y rhain:
  • Codi eu llais am y toriadau hyn yn Senedd y DU
  • Ysgrifennu at y Prif Weinidog yn gofyn i’r Llywodraeth wrthdroi’r toriadau
  • NEU gadarnhau pryd bydd y llywodraeth yn dychwelyd i’r ymrwymiad o 0.7%
  • Ymrwymo i bleidleisio yn erbyn toriadau i’r gyllideb

Diolch a chau. Gorffennwch trwy ddiolch i’ch AS am eu hystyriaeth a mynegwch ddiddordeb yn clywed oddi wrthynt am y mater yn fuan.

Byddwch yn gyfeillgar a chwrtais

Gadewch i’ch angerdd ddod i’r amlwg er mwyn gallu dechrau sgwrs dda rhyngoch chi a’ch AS.  Gallai hyn eich galluogi i ddatblygu perthynas tymor hwy y byddant yn ddiolchgar amdani.  Rhowch wybod iddynt pam y mae gennych ddiddordeb yn hyn yn bersonol a pham eich bod yn teimlo bod y mater yn bwysig.

Rhowch eich cyfeiriad etholiadol

Mae ASau yn cael eu hethol i’ch cynrychioli chi!  Felly cofiwch gynnwys eich cyfeiriad a’ch côd post mewn unrhyw ohebiaeth.  Heb y manylion hynny, bydd eich ebost yn cael ei anwybyddu.

Nid oes angen i chi fod yn arbenigwr

Fel etholwr, does dim angen i chi wybod manylion materion cymhleth.  Y peth pwysicaf yw bod yn chi eich hun ac esbonio pam yr ydych yn poeni.

Byddwch yn bersonol

Mae ASau eisiau clywed am yr hyn sydd yn bwysig i chi fel eu hetholwr a sut gall eu cymorth nhw wneud gwahaniaeth felly cofiwch gynnwys rhywfaint o fanylion am hyn yn eich gohebiaeth.

Dywedwch sut gallant helpu

Y peth cyntaf y bydd AS eisiau ei wybod yw beth rydych eisiau iddynt ei wneud ac yn bennaf, os yn bosibl, byddant yn eich helpu chi neu’n gwneud yr hyn yr ydych yn ei ofyn.  Peidiwch anghofio cynnwys gofyniad yn eich ebost.  Os byddant yn ateb ac yn dweud y byddant yn gweithredu ar eich rhan, peidiwch â bod yn rhy swil i ddilyn trywydd hyn ac, yn bwysig iawn, i ddiolch iddynt os a phan fyddant wedi gwneud hynny.

Cofiwch longyfarch eich hun

Rydych wedi cymryd cam pwysig i helpu i amddiffyn cymorth y DU a diogelu bywydau pobl ar draws y byd.  Gallwch gael anogaeth eich bod wedi cymryd cam i wneud gwahaniaeth a pheidiwch â digalonni os na chawsoch yr ymateb yr oeddech yn gobeithio amdano.  Trwy anfon ebost, rydych wedi cael mewnbwn uniongyrchol i ymdrech ar y cyd i greu newid ac atal deddfwriaeth 0.5.