Codi Arian Adnoddau
P’un a ydych chi eisiau cynyddu eich ymdrechion eich codi arian yn y gymuned, neu am wneud cais i fudiadau, ymddiriedolaethau a sefydliadau sy’n dyrannu grantiau – yma fe welwch gymorth ac awgrymiadau defnyddiol.
Canllaw i ddechreuwyr i helpu â dechrau cynllunio eich dull o godi arian a gwneud y gorau o’ch amser. Bydd y daflen awgrymiadau hon yn eich helpu i ddynodi’ch blaenoriaethau ar gyfer Codi Arian.
Mae llawer o Ymddiriedolaethau, Sefydliadau a mudiadau sy’n dyrannu grantiau yn gofyn am lythyr neu nodyn cysyniad wrth wneud cais am arian. Mae’r daflen awgrymiadau hon yn eich cyflwyno i’r syniadau allweddol y dylech eu cynnwys wrth wneud cais agored.
Cofiwch ddilyn canllawiau’r sefydliad penodol rydych chi’n gwneud cais iddo bob amser.
Mae’n bwysig eich bod yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol wrth fynd ati i godi arian, yn enwedig wrth gymryd rhoddion gan y cyhoedd. Dilynwch y ddwy ddolen isod i sicrhau eich bod yn meddu ar y wybodaeth gyflawn.
Cofiwch:
Yn benodol, “ni ddylech chi na’r deunyddiau codi arian rydych chi’n eu defnyddio gamarwain neb, ac ni ddylent fod yn debygol o gamarwain unrhyw un, naill ai trwy hepgor gwybodaeth neu trwy fod yn wallus neu’n amwys neu trwy or-bwysleisio manylion.”
Felly, ystyriwch sut rydych chi’n cyfathrebu’ch neges codi arian a beth fyddwch chi’n ei wneud â’r arian a godir os na allwch chi gyflawni’r gweithgaredd (er enghraifft, os nad ydych chi’n codi digon o arian ar gyfer prosiect).
Cod Ymddygiad ar gyfer Codi Arian – Rheoleiddiwr Codi Arian
Mae’r canllaw hwn gan Sefydliad Siartredig Codi Arian Cymru yn rhoi cyflwyniad i godi arian gan ymddiriedolaethau a sefydliadau.
Mae’r canllaw hwn gan Sefydliad Siartredig Codi Arian Cymru yn cynnig 5 awgrym i wneud i’ch cais am arian sefyll allan.
Mae’r canllaw hwn gan Sefydliad Siartredig Codi Arian Cymru yn rhoi 5 o hintiau handi ar gyfer rheoli perthnasoedd.
Mae yna lawer o fudiadau a gwefannau a all eich helpu i ddod o hyd i gyllidwyr. Gallwch weld ein rhestr yma i ddod o hyd i fwy o gyfleoedd cyllido.
Cyfleoedd cyllido â mynediad am ddim
Tudalen Gyllido Hyb Cymru Affrica – Rhestr am ddim o ffynonellau cyllido sy’n berthnasol i’r rhai sy’n gweithio ym maes Datblygu Rhyngwladol. Caiff ei diweddaru’n fisol.
bond.org.uk/hubs/funding-opportunities – Cyfleoedd cyllido wedi’u rhestru yn nhrefn eu terfynnau amser.
funding.cymru – platfform am ddim ar gyfer chwilio am gyllido, wedi’i greu gan fudiad Cymorth Trydydd Sector Cymru. Gallwch chwilio trwy gannoedd o gyfleoedd cyllido ar ffurf grant a benthyciadau o ffynonellau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. O grantiau bach i brosiectau cyfalaf mawr, gallwn eich helpu i ddod o hyd i’r cyllido sydd ei angen arnoch.
insidephilanthropy.com/grants-for-global-development – Rhestr am ddim o gyllidwyr datblygu byd-eang.
fundingcentral.org.uk – cyfeiriadur ar-lein am ddim o gynlluniau grant a therfynau amser ar gyfer ymgeisio
grantmakersonline.com – gwasanaeth ar-lein am ddim yn cynnig gwybodaeth am grantiau sydd ar gael ledled y DU a thu hwnt.
gov.uk/government/organisations/charity-commission – Gwefan y Comisiwn Elusennau – bydd yn cynnwys gwybodaeth am yr holl elusennau cofrestredig.
opencharities.org – Gwybodaeth am ddim am roddwyr grantiau ac ymddiriedolaethau elusennol.
Mynediad at gyfleoedd cyllido sydd angen talu amdano
trustfunding.org.uk – cyfeiriadur ar-lein arbenigol sy’n cynnwys gwybodaeth am 4,500 o ymddiriedolaethau a sefydliadau, dadansoddiad llawn o adroddiad blynyddol a chyfrifon pob ymddiriedolaeth, ynghyd â chanllawiau a gweithdrefnau ymgeisio a rhestrau o’r rheiny sydd wedi elwa’n ddiweddar o gyfraniad gan y sefydliad hwnnw. Y gost am hyn yw £295 cyn TAW am danysgrifiad blynyddol
grantsonline.org.uk – gwasanaeth tanysgrifio tebyg i Trustfunding.org sy’n cynnig gwybodaeth am grantiau cymunedol ac ymddiriedolaeth yn y DU a thu hwnt. Maent yn cynnig tanysgrifiad 7 diwrnod am ddim.
governmentfunding.org.uk – gwasanaeth tanysgrifio yn darparu gwybodaeth am gynlluniau cyllido lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.
fundinginformation.org – gwasanaeth tanysgrifio yn darparu gwybodaeth am gynlluniau grant. Maent yn cynnig rhagflas cychwynnol am ddim a thanysgrifiad un mis (£40) i weld a fydd yn addas i chi.
fundsonline.org.uk – Gwasanaeth cyfeiriadur Newid Cymdeithasol, lle gallwch gael gafael ar gyllido ar gyfer unigolion a mudiadau gan elusennau, cwmnïau a darparwyr statudol sy’n dyrannu grantiau, i gyd mewn un lle. Mae’n cynnig tanysgrifiadau wythnosol a blynyddol.
socialpartnershipmarketing.co.uk/purchase-publications – Dogfen yn rhestru Dyranwyr Grant Anweledig 2019. £150 am gopi PDF.