Cyfathrebu Adnoddau
Yma gallwch ddod o hyd i adnoddau’n ymwneud â chyfathrebu. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os ydych chi am wneud cais am adnoddau eraill, mae croeso i chi e-bostio communiations@hubcymruafrica.org.uk.



Mae Rheoli eich Cyfathrebu yn weithgaredd allweddol i grwpiau a mudiadau Datblygu Rhyngwladol a Masnach Deg.
Gall gweithgareddau o’r fath amrywio o gynlluniau cyfathrebu strategol i reoli’ch cyfryngau cymdeithasol neu dynnu lluniau o’ch gwaith.
Nod y wybodaeth ar y dudalen hon yw eich darparu â dolenni ac arfau defnyddiol a all eich helpu i reoli a datblygu eich cyfathrebiadau’n effeithiol. Mae’r erthygl hon gan BOND hefyd yn tynnu sylw at rai arfau defnyddiol.
Mae’r ffordd rydyn ni’n siarad am ddatblygu rhyngwladol a’n partneriaid yn cael effaith enfawr.
Yn draddodiadol, caiff ein Partneriaid yn y Deheudir eu portreadu fel eneidiau diobaith sydd mewn angen dybryd am achubiaeth (croenwyn) o’r Gorllewin / Hemisffer y Gogledd i’w hachub rhag tlodi a diffyg datblygiad.
Mae ymchwil yn awgrymu bod hyn nid yn unig yn foesol anghywir ac amharchus i’n partneriaid, ond ei fod hefyd yn gwaethygu agweddau’r
cyhoedd tuag at ddatblygiad rhyngwladol.
Mae mudiadau yn ein sector wedi buddsoddi amser ac adnoddau er mwyn newid y naratif. Mae’r Narrative Project, o Unol Daleithiau America, wedi creu’r cyflwyniad fideo defnyddiol hwn ynghylch newid y naratif a symud cefnogaeth y cyhoedd.
Adnoddau pellach:
Further resources:
Efallai nad ydych chi’n meddwl y gallai eich mudiad chi gael sylw yn y wasg – fodd bynnag, mae newyddiadurwyr yn aml yn chwilio am straeon sy’n cynnwys mudiadau nid-er-elw sy’n gwneud gwahaniaeth ledled y byd, ac mae’n bosib y bydd eich mudiad chi’n gallu cynnig stori na all unrhyw un arall ei rhoi.
Mae adeiladu perthnasoedd â’r wasg, ysgrifennu datganiadau i’r wasg a chynnig straeon i newyddiadurwyr i gyd yn ffyrdd y gallwch chi adeiladu proffil eich mudiad a chael cydnabyddiaeth am eich gwaith.
Ysgrifennu datganiad i’r wasg
Os oes gennych chi rywfaint o newyddion gan eich mudiad y credwch y dylid ei gynnwys yn y wasg, ysgrifennu datganiad i’r wasg yw’r ffordd orau o gael sylw a sicrhau bod y wybodaeth gywir yn cyrraedd newyddiadurwyr yn gyflym.
Straeon newyddion byr, ffeithiol, wedi’u hysgrifennu yn y trydydd person yw datganiadau i’r wasg, a chânt eu rhoi i newyddiadurwyr i’w galluogi nhw i’w troi yn stori newyddion neu eitem nodwedd yn hawdd ac yn gyflym, heb fod angen gormod o ysgrifennu ychwanegol.
Gall datganiad o’r fath ymwneud ag unrhyw beth, ond i fod yn effeithiol, dylai fod yn werth rhoi sylw iddo. Er enghraifft:
- Lansiad rhaglen newydd
- Diweddariad sylweddol i’ch rhaglen neu wasanaethau presennol
- Agor swyddfa newydd neu ail-frandio
- Cyflwyno partner neu roddwr newydd
- Digwyddiad codi arian mawr, neu garreg filltir mewn codi arian
- Derbyn gwobr
- Cysylltu â digwyddiad cenedlaethol, fel Diwrnod Rhyngwladol y Menywod
Mae’r rhan fwyaf o newyddiadurwyr yn cael eu peledu â dwsinau o ddatganiadau i’r wasg bob dydd. Oherwydd hyn, dylech ofalu bod eich datganiad chi yn y fformat cywir, a’i fod yn glir ac yn hawdd ei ddeall.
Ysgrifennwch bennawd gwych
Bydd newyddiadurwr yn bwrw golwg sydyn dros hwn yn gyntaf, ac yna’n ffurfio barn yn gyflym ynghylch a ddylid parhau i ddarllen. Dylai eich pennawd fachu sylw a chrynhoi eich stori mewn un frawddeg. Dylai grynhoi’r stori a chadw diddordeb pobl.
Meddyliwch i chi’ch hun – beth sydd am y pennawd hwn fydd yn gwneud i bobl fod eisiau darllen mwy? Cadwch ef o dan 140 o nodau os
gallwch chi.
Er enghraifft, yn hytrach na “Mudiad nid-er-elw yng Nghymru’n cyrraedd deg”
“Mudiad nid-er-elw yng Nghymru’n dathlu pen-blwydd arwyddocaol trwy gynorthwyo deg ysgol yn Affrica i gael mynediad at ddŵr glân”
Meddyliwch am eich bachyn
Er mwyn i’ch stori gael sylw yn y wasg, mae’n rhaid iddi fod o ddiddordeb i’r cyhoedd. Wrth ysgrifennu eich datganiad, gofynnwch i’ch hun bob amser, ‘pam mae hyn yn ddiddorol i rywun y tu allan i fy mudiad i?’ Os nad ydyw, ystyriwch newid gogwydd y stori fel ei bod o ddiddordeb i eraill.
Crynhowch y stori yn y paragraff cyntaf
Cyflwynwch y pwynt yn gyflym, a defnyddiwch y paragraffau dilynol i ychwanegu manylion. Defnyddiwch baragraffau ychwanegol tuag at ddiwedd y datganiad i siarad am bwy ydych chi fel mudiad, a beth rydych chi’n ei wneud.
Dylech gynnwys dyfyniad
Bydd hyn yn helpu i ddod â’r stori’n fyw, a’i gwneud hi’n haws i’r newyddiadurwr ei hysgrifennu, oherwydd gall olygu na fydd angen iddynt gysylltu â chi am ddyfyniad Er enghraifft, os ydych chi’n cynnal digwyddiad, gofynnwch i aelod o’ch bwrdd neu bennaeth y mudiad am ddyfyniad i’w gynnwys yn y datganiad am yr hyn y mae’r digwyddiad yn gobeithio’i gyflawni.
Cadwch hwn yn gryno ac yn berthnasol.
Gwnewch yn sicr fod eich datganiad i’r wasg yn cadw at y pwnc, ac nad yw’n cynnwys gormod o wybodaeth ddiangen. Mae ei gyfyngu i un ochr o A4 yn ffordd dda o aros ar y trywydd iawn.
Ychwanegu gwerth
Allwch chi gael gafael ar astudiaeth achos a all helpu’ch stori i ddod yn fyw? Neu ddelweddau y gellid eu defnyddio gyda’r stori? A yw’ch sylfaenydd ar gael ar gyfer cyfweliad? Dylech greu adran ‘Nodiadau i Olygyddion’ ar ddiwedd y datganiad i’r wasg a rhoi manylion unrhyw beth ychwanegol y gallwch ei gynnig a fyddai’n perswadio newyddiadurwr i roi sylw i’r stori.
Mae’n bwysig cynnwys pwy, beth, pam, ble, pryd a sut
Dylai eich datganiad i’r wasg fod yn stori gyflawn – cofiwch gynnwys pwy, beth, pam, ble, pryd a sut
- Am bwy mae’r datganiad i’r wasg?
- Beth yw’r stori?
- Pam bod datganiad i’r wasg am y pwnc
hwn? - Ble mae’r stori wedi’i lleoli?
- Pryd mae’r stori’n digwydd?
- Sut mae’r stori hon yn ychwanegu gwerth
i’r darllenydd?
Addaswch y datganiad yn dibynnu ar ble rydych chi’n ei anfon
Treuliwch amser yn golygu eich datganiad ychydig yn seiliedig ar ble rydych chi’n bwriadu ei anfon. Os ydych chi’n targedu’r wasg leol, rhowch fwy o sylw i’r agwedd leol, a pham fod y stori o ddiddordeb i bobl leol. Os ydych chi’n ei anfon i bapur cenedlaethol, adolygwch yr iaith a ddefnyddir i sicrhau bod y stori’n berthnasol i bawb yn genedlaethol.
Cyflwyno datganiad i’r wasg
Mae cymryd yr amser i adeiladu perthynas â newyddiadurwyr allweddol yn rhywbeth a fydd yn gwneud eich datganiad i’r wasg yn fwy
tebygol o gael ei ddefnyddio. Gall estyn allan a gofyn beth maen nhw’n gweithio arno, ac a oes unrhyw beth y gallwch chi ei wneud i helpu (er enghraifft, darparu astudiaethau achos) sicrhau mwy o sylw.
Chwiliwch am y cysylltiadau allweddol mewn gwahanol bapurau newydd a gwefannau newyddion, gan gynnwys y ddesg newyddion, digwyddiadau a gohebwyr lleol. Os nad ydyn nhw wedi’u rhestru ar-lein, ffoniwch y ddesg newyddion cyffredinol neu’r switsfwrdd, a gofynnwch pwy yw’r cysylltiadau mwyaf perthnasol ar gyfer gwahanol adrannau.
Anfonwch e-bost personol gyda’r datganiad i bob cyswllt, a gwnewch yn siŵr eich bod chi’n esbonio’n gyflym beth yw pwrpas y datganiad a pham ei fod o ddiddordeb i’w darllenwyr. Gwnewch eich e-bost yn gryno, yn gyfeillgar ac yn berthnasol. Dylech gynnwys eich manylion cysylltu, rhag ofn bod ganddyn nhw unrhyw gwestiynau.
Ar gyfer datganiadau pwysig, ystyriwch ddilyn eich e-bost â galwad ffôn drannoeth, i weld a oes unrhyw ddiddordeb ac a oes mwy o wybodaeth yr hoffent ei chael.
Os ydych chi am drafod unrhyw anghenion cyfathrebu penodol neu drefnu cymorth cyfathrebu wedi’i deilwra ar eich cyfer, e-bostiwch: communications@hubcymruafrica.org.uk
Mae’r APJD yn fenter sy’n cael ei phweru gan World Press Photo Foundation ac Everyday Africa gyda’r nod o gysylltu newyddiadurwyr gweledol o Affrica â’r diwydiant byd-eang ac annog cynrychiolaeth fwy amrywiol o’r cyfandir. Gobeithiwn y bydd y rhestr hon yn arwain at gydweithrediadau proffesiynol newydd i chi.
Sylwch fod dau dab gwahanol ar y gwaelod: un ar gyfer ffotograffwyr profiadol ac un ar gyfer ffotograffwyr sy’n dod i’r amlwg; gwnewch yn siŵr eich bod yn ticio’r ddau dab.
Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn arf allweddol ar gyfer cyfleu’ch neges, ac adeiladu’ch proffil. Fodd bynnag, gall hefyd fod yn ddryslyd ac mae angen gwybodaeth fanwl i’w defnyddio’n effeithiol. Mae’n bosib na fydd dim ond bod â phroffil cymdeithasol ar gyfer eich mudiad yn eich helpu i gyflawni eich amcanion – serch hynny, gall ei ddefnyddio yn y ffordd iawn eich helpu i ennill dilynwyr newydd, codi proffil eich mudiad, a hyd yn oed datblygu cyfleoedd ar gyfer codi arian.
Felly sut allwch chi sicrhau eich bod chi’n gwneud y gorau o’ch gweithgareddau ar gyfryngau cymdeithasol?
Penderfynwch ar y platfform sy’n iawn i chi
Mae Facebook yn arf gwych ar gyfer siarad ag unigolion sy’n ei ddefnyddio’n bersonol. Mae postio fideos, sefydlu Grwpiau Facebook i ymgysylltu â grŵp o bobl o amgylch pwnc, neu ddefnyddio ychydig bach o arian i hybu negeseuon pwysig fel bod mwy o bobl yn eu gweld, i gyd yn ffyrdd y gallwch chi wneud y gorau o Facebook. Gallwch ddarganfod mwy am ddechrau defnyddio Facebook a threfnu rhyddhau negeseuon.
Mae Instagram yn ffordd arbennig o dda ar gyfer dweud eich stori yn weledol. Os oes gennych chi fynediad at lawer o ffotograffau gwych, gall sefydlu cyfrif Instagram fod yn ffordd dda o ddangos yr hyn rydych chi wedi bod yn ei wneud. Mae’r nodwedd Stori hefyd yn ddefnyddiol ar gyfer rhannu eich newyddion diweddaraf. Defnyddiwch ddigonedd o hashnodau yn eich cynnwys er mwyn i’ch negeseuon gyrraedd y bobl iawn. Gallwch ganfod sut i ddefnyddio Instagram fel mudiad nid-er-elw yma.
Mae Twitter yn ddelfrydol ar gyfer diweddariadau cryno, rheolaidd sydd â’r nod o gysylltu ag unigolion, sefydliadau a chyrff swyddogol, gan feithrin perthnasoedd â’r cyfrifon hyn, â’r nod o godi’ch proffil a chynyddu’r niferoedd sy’n eich dilyn. Nid yw Twitter yn dilyn algorithm fel y mae Facebook ac Instagram yn ei wneud, felly mae eich cynnwys yn fwy tebygol o gael ei weld gan fwy o bobl. Gallwch ganfod sut i ddefnyddio Twitter fel mudiad nid-er-elw, a rhai enghreifftiau o’r defnydd gorau nid-er-elw o’r platform.
Ydych chi am ddwyn sylw at eich taith a’ch stori mewn modd proffesiynol, er mwyn helpu i gynyddu ceisiadau am swyddi neu sefydlu cysylltiadau proffesiynol? Gallai LinkedIn fod yn iawn ar gyfer yr amcan hwn. Gallwch ganfod sut i ddefnyddio LinkedIn fel mudiad nid-er-elw yma.
Os oes gennych chi fynediad at lawer o ddeunydd fideo, yna mae cychwyn sianel YouTube yn ffordd dda o’i storio a’i drefnu yn ôl categori. Gallwch chi gyrraedd cynulleidfaoedd newydd trwy sicrhau eich bod chi’n tagio eitemau â’r allweddeiriau cywir y bydd pobl yn eu defnyddio i chwilio’r platfform. Cewch ragor o wybodaeth am ddefnyddio YouTube yma.
Mae yna lawer o lwyfannau newydd eraill yn dod i’r amlwg yn gyflym, ac mae’n werth cadw’n gyfoes â pha rai allai fod yn ddefnyddiol ar gyfer siarad â’r gynulleidfa rydych chi am ei thargedu. Er enghraifft, mae Snapchat a TikTok yn wych os ydych chi am gysylltu â phobl ifanc. Cadwch yn gyfoes â’r newyddion cyfryngau cymdeithasol yma.
Amseru rhyddhau deunydd
Trwy ddefnyddio offer amseru, gallwch fod yn fwy effeithlon gyda’ch defnydd o gyfryngau cymdeithasol a rhyddhau amser i’w ddefnyddio yn rhywle arall. Er ei bod yn bwysig gwirio eich cyfrifon yn ddyddiol, er mwyn ateb unrhyw gwestiynau a allai fod wedi cael eu postio a dal i fyny â newyddion gan eich sector, mae amseru cynnwys yn fwy effeithlon ac yn golygu y gallwch chi gynllunio’ch deunydd o flaen amser.
Mae defnyddio offer fel Buffer, Hootsuite a Tweetdeck i amseru eich deunydd o flaen llaw hefyd yn golygu y gallwch chi bostio ar adegau o’r dydd pan fydd eich cynulleidfa ar-lein, ond efallai na fyddwch chi. Mae fersiwn am ddim ar gael ar gyfer rhai mathau o offer amseru, neu fersiwn sydd angen talu amdani sy’n cynnig mwy o nodweddion. Mae’n werth rhoi cynnig ar sawl un i weld pa un sy’n fwyaf addas i’ch mudiad.
Creu deunydd i’w gynnwys
Defnyddiwch amryw o wahanol fathau o ddeunydd i gadw pethau’n ddiddorol, ond gwnewch yn siŵr bod y cynnwys rydych chi’n ei ddefnyddio yn gweddu i’r llwyfan rydych chi’n ei bostio arno.
Er enghraifft, mae fideos yn gweithio orau ar Facebook oherwydd bydd y llwyfan yn eu blaenoriaethu dros ddelweddau fel rhan o’r algorithm sy’n penderfynu beth i’w ddangos ar dudalennau pobl. Delweddau sgwâr sy’n gweithio orau ar Instagram, ac mae GIFs yn bachu sylw ar Twitter.
Cymerwch gipolwg ar yr erthygl hon a fydd yn eich helpu i ddod o hyd i’r meintiau perffaith ar gyfer delweddau ar bob llwyfan.
Ceisiwch bostio gyda delwedd neu fideo bob amser, ac nid dim ond testun, oherwydd ar bob llwyfan mae testun yn unig yn tueddu i gyrraedd llai o bobl a chael llai o sylw.
Ydych chi am greu eich delweddau eich hun? Gall golygyddion ar-lein fel Canva neu Piktochart eich helpu i greu delweddau sy’n edrych yn broffesiynol yn gyflym gan ddefnyddio templedi, ac mae fersiynau am ddim, a rhai sy’n rhaid talu amdanynt, ar gael i’ch helpu i greu posteri, graffeg, ffeithluniau a hyd yn oed fideos wedi’u hanimeiddio.
Gweithredwch
Er mwyn cynyddu nifer eich dilynwyr a gwella ymwybyddiaeth ynghylch eich mudiad, mae angen i chi neilltuo amser bob dydd ar gyfer eich cyfryngau cymdeithasol. Mae postio, ymateb i sylwadau a chwestiynau, dod o hyd i gyfrifon newydd i’w dilyn a rhyngweithio â nhw, yn ogystal â chynllunio’r hyn rydych chi’n mynd i fod yn ei wneud yn ystod yr wythnosau nesaf, i gyd yn bethau pwysig i’w gwneud er mwyn cadw’ch tudalennau cyfryngau cymdeithasol yn fyw ac yn ddeniadol i ymwelwyr, gobeithio, benderfynu eich dilyn chi.
Mae treulio deg munud ar ddechrau a diwedd pob diwrnod i edrych dros eich tudalennau cymdeithasol yn ffordd hawdd o gadw’n gyfoes â phethau. Mae’n bosib y byddwch chi am drefnu rota o fewn eich tîm, neu ddyrannu sianel gymdeithasol benodol i wahanol aelodau o’r tîm ofalu amdani.
Gwerthuswch yr hyn rydych chi’n ei wneud
Gall bod yn weithgar ar gyfryngau cymdeithasol a gwneud y gwaith sy’n angenrheidiol sicrhau canlyniadau gwych, ond os nad ydych yn monitro sut y mae pethau’n mynd ac yn dysgu o’r hyn yr ydych yn ei wneud, mae’n bosib na fyddwch chi mor effeithlon ag y gallech fod.
Treuliwch amser yn edrych ar adran ddadansoddeg pob platfform rydych chi’n weithredol arno – bydd cadw’n gyfoes â’r ystadegau yn yr adran hon yn eich helpu i ddynodi pa negeseuon sydd wedi perfformio orau, gan ganiatáu i chi ailadrodd y canlyniadau hynny eto. Er enghraifft, efallai y byddwch chi’n darganfod bod eich cynulleidfa yn ei hoffi orau pan fyddwch chi’n gofyn llawer o gwestiynau
uniongyrchol, neu ei bod yn well ganddynt ryngweithio â deunydd fideo o gymharu â delweddau. Gallai treulio amser bob mis i edrych ar yr adran ddadansoddeg eich helpu i gael canlyniadau gwell yn y dyfodol.
Bydd llawer o lwyfannau yn caniatáu i chi gael cipolwg ar ganlyniadau ar gyfer y mis, gan ei gwneud hi’n haws fyth gweld beth sy’n gweithio a’r hyn sydd ddim yn gweithio.
Gallwch ganfod mwy am ddadansoddeg cyfryngau cymdeithasol yma.
Gallwn helpu eich mudiad i gael gafael ar hyfforddiant a chyngor ar farchnata trwy’r cyfryngau cymdeithasol. I gael gwybod mwy a chael cyngor wedi’i deilwra’n benodol, e- bostiwch communications@hubcymruafrica.org.uk.
Mae datblygu strategaeth ar gyfer eich cyfathrebiadau yn ffordd wych o’ch helpu i gadw ar y trywydd cywir a chanolbwyntio’ch cyfathrebiadau, fel eu bod bob amser yn eich helpu i weithio tuag at amcanion cyffredinol eich mudiad.
Mae strategaeth gyfathrebu yn gosod allan sut rydych chi’n bwriadu defnyddio gwahanol offer cyfathrebu, fel cyfryngau cymdeithasol, blogiau, datganiadau i’r wasg, eich gwefan a marchnata trwy e-bost i weithio tuag at gyflawni eich amcanion. Fe’i defnyddir fel bod pawb sy’n gweithio yn eich mudiad yn ymwybodol o sut y bydd cyfathrebu’n gweithio i chi.
Dyma restr fer o sut y gallwch chi ddatblygu a gweithredu strategaeth gyfathrebu ar gyfer eich mudiad:
Creu datganiad o bwrpas
Er mwyn i gyfathrebiadau eich helpu i gyflawni eich amcanion, mae o fudd os ydych chi’n nodi mewn un paragraff yr hyn y mae eich mudiad yn ceisio ei gyflawni trwy greu strategaeth gyfathrebu. Trwy osod hyn allan yn glir yn y ddogfen, mae gennych chi rywbeth i gyfeirio’n ôl ato wrth ddatblygu syniadau, ac mae’n atgoffa eraill yn eich tîm a allai fod yn cynorthwyo gyda chyfathrebu yn y dyfodol.
Amlinellwch amcanion eich mudiad
Trwy amlinellu amcanion eich mudiad yn glir, byddwch wedyn yn gallu awgrymu sut y bydd cyfathrebu’n eich helpu i gyflawni’r rhain. Fel rhan o’r adran hon, meddyliwch am 4-5 neges allweddol y byddech chi am eu cyfleu ynghylch amcanion, pwrpas a gweithgareddau eich mudiad, a chyfeiriwch yn ôl at y rhain yn eich holl weithgareddau cyfathrebu.
Gweithiwch allan gyda phwy rydych chi’n siarad
Efallai eich bod yn bwriadu cysylltu ag ystod eang o bobl trwy eich cyfathrebiadau – mudiadau eraill, partneriaid, y cyhoedd, gwleidyddion ac unigolion neu sefydliadau cyhoeddus. Ar ôl i chi fapio’r gwahanol gynulleidfaoedd rydych chi am gysylltu â nhw, meddyliwch pa negeseuon rydych chi am eu hanfon atynt.
Gweithiwch allan ble byddwch chi’n siarad â nhw
Mae’n werth meddwl sut rydych chi’n bwriadu cysylltu â’r gwahanol gynulleidfaoedd hyn trwy wahanol ffrydiau cyfathrebu. Er enghraifft, ydych chi’n bwriadu siarad â phartneriaid trwy farchnata e-bost, a’r cyhoedd trwy ddatganiadau i’r wasg? Yna gallwch chi ychwanegu hyn at eich cynllun, fel ei bod yn glir i chi gyda phwy rydych chi’n siarad, beth rydych chi’n ei ddweud wrthyn nhw, a ble rydych chi’n cysylltu â nhw.
Cynlluniwch sut y byddwch chi’n defnyddio pob sianel gyfathrebu mewn mwy o fanylder.
Byddwch eisoes wedi meddwl am bwy rydych chi’n eu targedu gyda phob sianel gyfathrebu, ond nodwch yn fanylach yma sut rydych chi’n bwriadu eu defnyddio. Er enghraifft, ai e-bost a’r we fydd eich prif sianel? A fyddwch chi’n defnyddio datganiad i’r wasg dim ond pan fydd gennych chi ddigwyddiad sylweddol ar y gweill, neu a fyddwch chi’n ceisio meddwl am ffyrdd eraill o gael sylw yn y wasg yn ystod y flwyddyn?
Creu calendr
Fel rhan o’ch cynllun, mapiwch eich holl ddyddiadau allweddol am y chwe mis nesaf, neu hyd yn oed y flwyddyn nesaf, gan edrych ar eich cerrig milltir a’ch dyddiadau allweddol, yn ogystal ag unrhyw rai allanol perthnasol, fel Diwrnod Iechyd y Byd, neu’r Nadolig. Nodwch ble a phryd y bydd gennych chi lefel uchel o weithgaredd o ran cyfathrebiadau, ac unrhyw ddyddiadau cylchol, fel bwletinau e-bost misol, ynghyd â syniad bras o ble byddwch chi’n dyrannu unrhyw arian ar gyfer cyfathrebu.
Gwerthusiad
Mae’n bwysig iawn cynnwys gwerthuso yn eich cynllun cyfathrebu – sut olwg sydd ar lwyddiant, a pha amcanion ydych chi am eu cyflawni yn ystod y flwyddyn? Mae dynodi’r hyn rydych chi am ei gyflawni, a sut byddwch chi’n monitro ac yn gwerthuso’ch gweithgareddau yn erbyn yr amcanion hyn, yn allweddol i sicrhau eich bod chi’n gweithio tuag at eich nodau. Gallai hyn fod yn syml (e.e. gosod targed ar gyfer nifer y bobl fydd yn agor eich e-byst am y flwyddyn) neu’n gymhleth (e.e. a ydych chi wedi codi proffil eich mudiad trwy gael sylw mewn rhai cyhoeddiadau penodol?). Dylech gynnwys pa mor aml rydych chi’n mynd i wirio cynnydd, p’un a yw hynny’n wythnosol, yn fisol neu’n chwarterol.
Os ydych chi am drafod unrhyw anghenion cyfathrebu penodol neu drefnu cymorth cyfathrebu wedi’i deilwra ar eich cyfer, e-bostiwch: communications@hubcymruafrica.org.uk.
Dywedir yn aml fod llun werth mil o eiriau – mae cael delweddau sy’n adlewyrchu’ch gwerthoedd a’ch gwaith yn hanfodol wrth ddangos yr effaith rydych chi’n ei chreu. Mae treulio amser yn cael hyn yn iawn yn ymarfer gwerth chweil, yn enwedig gan y gellir eu defnyddio mewn sawl ffordd, o ddatganiadau i’r wasg a chyfryngau cymdeithasol i greu adroddiadau ar eich gwaith neu i gynorthwyo gweithgareddau codi arian.
Mae’r Narrative Project yn cynnig awgrymiadau ar sut i dynnu lluniau a defnyddio’r delweddau hynny ar gyfer eich sianeli cyfathrebu – rydym wedi eu crynhoi yma.
The Hub Cymru Africa photo guidance downloadable sheet has this guidance in PDF form.
Pa fath o luniau sy’n gweithio orau?
Defnyddiwyd y themâu hyn i archwilio pa syniadau gweledol sy’n gwneud pobl yn fwy tebygol o gefnogi datblygiad, o’r rhai mwyaf tebygol i’r lleiaf tebygol o ennill cefnogaeth.
Thema 1: Potensial
Canfuwyd bod ffotograffau sy’n dangos bod rhaglenni datblygu yn helpu pobl i gyrraedd eu potensial yn effeithiol o ran darbwyllo aelodau o’r cyhoedd sydd â diddordeb yn y maes hwn. Mae’r math yma o ddelwedd hefyd yn atgyfnerthu’r syniad bod datblygiad yn helpu pobl i gyflawni annibyniaeth yn y tymor hir.
Thema 2: Cynnydd
Mae delweddau “cyn ac ar ôl” sy’n dangos newidiadau diriaethol mewn cymunedau lleol yn ei gwneud hi’n glir bod rhaglenni datblygu yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y byd.
Thema 3: Grymuso
Mae delweddau sy’n dangos bod pobl mewn gwledydd sy’n datblygu yn rhannu ein gwerthoedd – fel sicrhau addysg neu ddarparu ar gyfer eu teulu – yn creu cysylltiadau dynol ac yn cyfleu’r syniad bod datblygiad yn helpu pobl i adeiladu’r sylfeini ar gyfer annibyniaeth.
Thema 4: Trugaredd
Er bod delweddau sy’n cyfleu trueni yn gallu creu ymateb emosiynol mewn rhai pobl, nid ydynt yn hyrwyddo’r syniad bod pobl mewn gwledydd sy’n datblygu yn bartneriaid gweithredol yn y datblygiad hwnnw.
Thema 5: Gobaith
Delweddau o bobl nad ydynt yn dangos y cyd-destun y maent yn byw ynddo oedd leiaf effeithiol wrth ddenu cefnogaeth ar gyfer datblygu. Mae pobl yn teimlo’n dda wrth weld lluniau o blant hapus, ond nid yw’n cael yr un effaith â lluniau sy’n cynnwys themâu potensial neu gynnydd.
Beth yw egwyddorion sylfaenol tynnu lluniau?
Rheol un-rhan-o-dair
Mae angen gosod yr elfennau pwysicaf ar neu o amgylch y llinellau a’r pwyntiau croestoriad. Dychmygwch fod eich delwedd wedi’i rhannu’n naw segment cyfartal â dwy linell fertigol a dwy linell lorweddol. Ceisiwch leoli’r elfennau pwysicaf yn eich llun ar hyd y llinellau hyn, neu yn y mannau lle maen nhw’n croestorri. Bydd gwneud hynny yn ychwanegu cydbwysedd a diddordeb i’ch llun. Mae rhai camerâu hyd yn oed yn cynnig opsiwn i arosod grid rheol un-rhan-o-dair dros y sgrin LCD, gan ei gwneud hi’n haws fyth i’w defnyddio.
Cydbwyso Elfennau
Mae gosod eich prif bwnc y tu allan i ganol eich llun, fel gyda rheol un-rhan-o-dair, yn creu delwedd fwy diddorol, ond gall adael gwagle mewn rhan arall, a all wneud i’r llun deimlo’n wag. Dylech gydbwyso prif destun eich llun trwy gynnwys gwrthrych arall o bwysigrwydd llai i lenwi’r lle hwnnw.
Llinellau Arweiniol
Pan edrychwn ar lun mae ein llygaid yn cael eu tynnu’n naturiol ar hyd llinellau. Trwy feddwl sut rydych chi’n gosod llinellau yn eich ffotograff, gallwch chi effeithio ar y ffordd rydyn ni’n edrych ar y ddelwedd, gan ein tynnu ni i mewn i’r llun, tuag at y pwnc, neu ar daith ‘trwy’r’ olygfa.
Cymesuredd a Phatrymau
Rydym wedi ein hamgylchynu gan gymesuredd a phatrymau, rhai naturiol a rhai o waith dyn, a gallant greu cyfansoddiadau trawiadol iawn, yn enwedig mewn sefyllfaoedd lle nad oes disgwyl iddynt fod.
Safbwynt
Cyn tynnu llun o’ch pwnc, cymerwch amser i feddwl o ble y byddwch chi’n ei dynnu. Yn hytrach na thynnu llun o lefel y llygad yn unig, ystyriwch dynnu lluniau o safbwynt uwchlaw’r testun, o lefel y ddaear, o’r ochr, o’r cefn, o bell i ffwrdd, neu’n agos iawn, a.y.b.
Cefndir
Sawl gwaith ydych chi wedi tynnu’r hyn roeddech chi’n meddwl byddai’n llun gwych, dim ond i ddarganfod bod y ddelwedd derfynol yn brin o effaith oherwydd bod y pwnc yn ymdoddi i gefndir prysur? Chwiliwch am gefndir plaen ac anymwthiol, fel nad yw’n ymyrryd nac yn tynnu sylw oddi wrth y pwnc.
Creu Dyfnder
Oherwydd bod ffotograffiaeth yn gyfrwng dau ddimensiwn, mae’n rhaid i ni ddewis ein cyfansoddiad yn ofalus i gyfleu’r ymdeimlad o ddyfnder a oedd yn bresennol yn yr olygfa sydd dan sylw. Gallwch greu dyfnder mewn llun trwy gynnwys gwrthrychau yn y blaendir, y tir canol a’r cefndir.
Fframio
Mae’r byd yn llawn gwrthrychau sy’n gwneud fframiau naturiol perffaith, fel coed, bylchau bwa a thyllau mewn waliau. Trwy osod y rhain o amgylch ymyl y llun rydych chi’n helpu i ynysu’r prif bwnc o’r byd y tu allan.
Tocio
Trwy docio’r llun, mae sylw’r gwyliwr yn canolbwyntio’n llawn arno. Trwy docio’n dynn o amgylch y pwnc, rydych chi’n dileu’r ‘sŵn’ cefndirol, gan sicrhau bod y pwnc yn cael sylw di-wahan y gwyliwr.
Golygu eich delweddau
Weithiau, rydych chi’n tynnu llun da, ond mae angen i chi ei docio neu ei fywiogi ychydig. Mae yna lawer o wahanol raglenni golygu lluniau a meddalwedd ar-lein a all helpu i ddyrchafu’ch delweddau. Mae golygyddion ar-lein fel Pixlr Express yn ddefnyddiol, ynghyd ag apiau golygu ar gyfer eich ffôn fel Snapseed.
Os ydych chi am drafod unrhyw anghenion cyfathrebu penodol neu drefnu cymorth cyfathrebu wedi’i deilwra ar eich cyfer, e-bostiwch: communications@hubcymruafrica.org.uk.