Cynhwysiad

Rydyn ni yn Hyb Cymru Affrica yn hyrwyddo, annog a chefnogi mudiadau datblygiad rhyngwladol sydd â’u gwreiddiau yng Nghymru i sicrhau bod anabledd wrth galon y prosiectau maen nhw’n eu cynnal. Yma gallwch ddod o hyd i adnoddau i helpu â gwella cynhwysiad yn eich mudiad.

Nid yw Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau (CRPD) yn ceisio diffinio anabledd. Yn hytrach, mae’n disgrifio anabledd fel cysyniad sy’n ‘esblygu’, a bod ‘anabledd yn deillio o’r rhyngweithio rhwng pobl â nam a rhwystrau amgylcheddol ac o ran agwedd sy’n atal eu cyfranogiad llawn ac effeithiol mewn cymdeithas ar sail gyfartal ag eraill’.

Mae 80% o bobl anabl (tua 500 miliwn) yn byw yng ngwledydd tlotaf y byd. Mae’r Nodau Datblygu Cynaliadwy (NDC) yn cydnabod bod cysylltiad annatod rhwng anabledd a datblygiad, a bod datblygiad sy’n gynhwysol o ran anabledd yn ganolog i sicrhau bod y nodau hyn yn cael eu cyflawni.

Rydyn ni, yn Hyb Cymru Affrica, yn credu bod cynhwysiad anabledd yn rhan hanfodol o unrhyw brosiect datblygu. Rydyn ni felly’n hyrwyddo, annog a chefnogi mudiadau datblygiad rhyngwladol o Gymru i sicrhau bod anabledd wrth galon y prosiectau maen nhw’n eu cynnal. Credwn fod effaith allgau pobl ag anabl o raglenni datblygu yn arwain at eu hynysu yn gymdeithasol, yn wleidyddol ac yn amgylcheddol. Rydyn ni’n rhoi cefnogaeth i weithgareddau amrywiol trwy grantiau, cymorth datblygu, gwella capasiti a chynnal digwyddiadau cyhoeddus.

Rydyn ni o blaid yr egwyddor o ‘adael neb ar ôl’, a’n huchelgais yw dileu tlodi yn ei holl ffurfiau erbyn 2030.

,

Mae anabledd wedi’i gynnwys yn y Nodau Datblygu Cynaliadwy canlynol:

Amcan 4: Sicrwydd o addysg gyfartal a hygyrch trwy adeiladu amgylcheddau dysgu cynhwysol a darparu’r cymorth sydd ei angen
ar gyfer pobl ag anableddau.

Amcan 8: Hyrwyddo twf economaidd cynhwysol, cyflogaeth lawn a chynhyrchiol sy’n caniatáu i bobl ag anableddau gael mynediad llawn i’r farchnad swyddi.

Amcan 10: Pwysleisio cynhwysiad cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol pobl ag anableddau

Amcan 11: Creu dinasoedd ac adnoddau dŵr sy’n hygyrch, systemau trafnidiaeth fforddiadwy sy’n hygyrch a chynaliadwy, a bod gan bawb fynediad i fannau cyhoeddus diogel, cynhwysol, hygyrch a gwyrdd.

Amcan 17: Tanlinellu pwysigrwydd casglu data a monitro’r NDC, gyda phwyslais ar ddata ar wahân ar gyfer pobl anabl.

Llawlyfr hyfforddiant ar gyfer grwpiau Cymru ac Affrica ar ddatblygiad sy’n gynhwysol o anabledd.

Trainer manual to deliver disability-inclusive development training to Wales and Africa groups.

Enghreifftiau o sut y gall grwpiau Cymru ac Affrica ymgysylltu â’r Adran er Datblygiad Rhyngwladol; y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu; a mudiadau Pobl Anabl yn y gwledydd unigol.

Canfyddiadau adolygiad polisi gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol / Adran er Datblygiad RhyngwladoI.

Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf Cyngor Gweithredol Fforwm Anabledd Affrica (FfAA) sy’n cynnwys 9 aelod, sef cymdeithas aelodaeth y Mudiadau Pobl Anabl (MPA) yn Affrica, ar 14-15 Mawrth 2016 yn Addis Ababa.

Yn ystod y cyfarfod, cymeradwyodd y Cyngor 8 o Fudiadau Pobl Anabl Cyfandirol, 4 Ffederasiwn MPA Is-Ranbarthol a 34 Ffederasiwn MPA Cenedlaethol ar gyfer aelodaeth o Fforwm Anabledd Affrica, fel a ganlyn:

MPA Cyfandirol:

  • African Down Syndrome Network (ADSN) 
  • African Federation of the DeafBlind (AFDB) 
  • African Union of the Deaf (AUD) 
  • African Youth with Disabilities Network (AYWDN) 
  • Disabled Women in Africa (DIWA) 
  • Inclusion Africa 
  • Pan African Federation of the Disabled (PAFOD) 
  • Pan African Network of People with Psychosocial Disabilities (PANUSP).

Ffederasiynau MPA Is-Ranbarthol:

  • Eastern Africa Federation of the Disabled (EAFOD) 
  • Central Africa Federation of Persons with Disabilities (CAFOD) 
  • Southern Africa Federation of the Disabled (SAFOD) 
  • West Africa Federation of Persons with Disabilities (WAFOD).

Ffederasiynau / Rhwydweithiau MPA Cenedlaethol:

  1. Algeria – Fédération Nationale Algérienne des Personnes Handicapées (FNAPH) 
  2. Angola – Associacâo Nacional de Deficientes Angolanos (ANDA) 
  3. Benin – Fédération des Associations des Personnes Handicapées du Bénin (FAPHB) 
  4. Botswana – Botswana Federation of the Disabled (BOFOD) 
  5. Burkina Faso – Fédération Burkinabé des Associations des Personnes Handicapées (FEBAH) 
  6. Burundi – Union des Personnes Handicapées du Burundi 
  7. Cameroon – Plateforme Inclusive Society for Persons with Disabilities 
  8. Chad – Union Nationale des Associations des Personnes Handicapées du Tchad 
  9. Congo Brazzaville – Union Nationale des Associations des Personnes Handicapées du Congo (UNHACO) 
  10. Equatorial Guinea – ASSONAMI 
  11. Ethiopia – Federation of Ethiopian National Associations of Persons with Disabilities (FENAPD) 
  12. Gabon – Fédération Nationale des Associations des Personnes Handicapées du Gabon (FNAPHG) 
  13. Gambia – Gambia Federation of the Disabled (GFD) 
  14. Ghana – Ghana Federation of the Disabled (GFD) 
  15. Guinea – Fédération Guinéen des Associations de/pour les personnes handicapées (FEGUIPAH) 
  16. Ivory Coast – Confédération des Organisations des Personnes Handicapées de Cote d’Ivoire (COPHCI) 
  17. Kenya – United Disabled Persons of Kenya (UDPK) 
  18. Lesotho – Lesotho National Federation of Organizations of the Disabled (LNFOD) 
  19. Malawi – Federation of Disability Organizations of Malawi (FEDOMA) 
  20. Mali – Fédération Malienne des Associations de Personnes Handicapées (FEMAPH) 
  21. Mauritania – Fédération Mauritanienne des Associations Nationales de Personnes Handicapées (FEMANPH) 
  22. Mauritius – Mauritius Federation of Disabled Persons Organizations 
  23. Mozambique – Mozambique Federation of the Disabled (FAMOD) 
  24. Namibia – National Federation of People with Disabilities in Namibia 
  25. Niger – Fédération Nigérienne des Personnes Handicapées (FNPH) 
  26. Nigeria – Joint National Association of Persons with Disability (JONAPWD) 
  27. Rwanda – National Union of Disability Organizations of Rwanda (NUDOR) 
  28. Sao Tome – Associação dos Deficientes de SaoTomé e Príncipe (ADSTP) 
  29. Senegal – Fédération Sénégalaise des Associations de Personnes Handicapées (FSAPH) 
  30. Somalia – Somalia/Somaliland Disability Network (SOSODIN) 
  31. Tanzania – Tanzania Federation of Disabled Peoples Organizations (SHIVYAWATA) 
  32. Togo – Fédération Togolaise des Personnes Handicapées (FETAPH) 
  33. Uganda – National Union of Disabled Persons of Uganda (NUDIPU) 
  34. Zambia – Zambia Federation of the Disabled (ZAFOD).

Yn ogystal, cymeradwyodd y Cyngor y canlynol ar gyfer aelodaeth Gysylltiol FfAA:

  • Albinism Society of South Africa 
  • Consortium of African Diasporas in the United States for the Social and Economic Inclusion of People with Disabilities (CADUS) 
  • Ethiopian National Disability Action Network (ENDAN) 
  • National Paralympics Committee of Congo Brazzaville 
  • Universal Design Africa.

The ADF Executive Council Chairperson, Mr. Shuaib Chalklen, welcomed the DPOs and organizations to formal membership in ADF, and urged national DPO federations in other African countries to apply for ADF membership. He also encouraged interested organizations sharing ADF principles and objectives to apply for ADF Associate membership. 

Executive Council members were informed that the Board of the International Disability Alliance (IDA) had granted ADF full IDA membership, and the Council approved ADF membership in IDA. The Council also approved the ADF 2016 Work Plan and Budget and thanked IDA, the UN Partnership Fund for Promoting the Rights of Persons with Disabilities (UNPRPD) and Disabled Persons Organizations of Denmark (DPOD) for their continuing partnership and support. 

Observing the Council meeting were 4 ADF interns presently in Addis Ababa for an orientation to ADF and to African regional institutions. They include: 

  • Ms. Betty Najjemba, Uganda (East Africa), 27, hearing impairment 
  • Ms. Tchotchom Virginie, Cameroun (Central Africa), 28, mobility impairment 
  • Mr. Thabiso Maysenyetsi, Lesotho (Southern Africa), 28, visual impairment 
  • Mr. Sissoko Mamadou, Mali (West Africa), 33, albinism.

I gael rhagor o wybodaeth am Fforwm Anabledd Affrica ac aelodaeth FfAA, cysylltwch â: africandisabilityforum@gmail.com 

Gwledydd sydd heb arwyddo’r Cytundeb: Western  Sahara, Botswana, Eritrea, Lesotho, São Tomé and Príncipe, Somalia, South Sudan. 

Gwledydd sydd wedi arwyddo’r Cytundeb: Libya, Comoros 

Wedi arwyddo’r Cytundeb a’r Protocol: Chad, Cameroon, Central African Republic 

Wedi Cadarnhau’r Cytundeb: Algeria, Egypt, Sierra Leone, Liberia, Ivory Coast, Senegal, Guinea Bissau, Ethiopia, Kenya, Gabon, Zambia, Malawi Lesotho, Cape Verde, Madagascar, Mauritius, Morocco, Tunisia, Suda, Niger, Mali, Mauritania, Burkina Faso, Guinea, Ghana, Togo, Benin, Nigeria, Congo, Congo DRC, Uganda, Rwanda, Burundi, Tanzania, Uganda, Angola, Mozambique, Zimbabwe, South Africa, Swaziland, Namibia, Djibouti, Reuniion Islands 

Mae yna wahanol ffyrdd o wneud gwybodaeth yn hygyrch i bobl ag anabledd dysgu. Y ffordd orau o ddarganfod y fformat sy’n gweithio orau yw gofyn i’r person neu’r bobl a fydd yn gynulleidfa.

Mae cyflwyniadau ar-lein a seminarau ar y we (gweminarau) yn dod yn fwyfwy cyffredin wrth i sefydliadau addysgol a darparwyr hyfforddiant chwilio am ffyrdd mwy effeithlon o gynnig cymorth i ddysgwyr. Ond sut mae gweminarau yn gweithio i bobl ag anableddau? Mae’r ddogfen hon yn edrych ar sut i gael y gorau o gynnal gweminarau.

Adroddiad ar rwystrau, cyfleoedd a heriau sy’n atal pobl anabl rhag bod yn rhan o raglen Cymru ac Affrica.

Ffilm a ddefnyddir i addysgu cymunedau am hawliau anabledd. Mynd i’r afael â’r stigma sy’n perthyn i anabledd yn Affrica mewn ffordd wahanol. Trwy estyn allan mewn ffordd wahanol – ffilm – rhywbeth cofiadwy a fyddai’n peri i bobl fynd i ffwrdd a meddwl am y broblem a siarad amdani am amser hir – rhywbeth a fyddai wir yn newid ymddygiad.

Amcan cyffredinol yr ymchwil hwn yw deall yn well sut mae datblygiad rhyngwladol yn cael ei weld a’i ddeall o fewn cymunedau alltud er mwyn annog cefnogaeth ymysg y cyhoedd.