Llywodraethiant a Threfniadaeth
Yma gallwch ddod o hyd i adnoddau amrywiol i gynorthwyo llywodraethiant eich mudiad. Ewch i’r adrannau canlynol i ddarllen mwy ac i ddod o hyd i’r dolenni perthnasol.
Mae’r daflen awgrymiadau hon yn nodi’r ffynonellau gwybodaeth hanfodol, ystyriaethau allweddol ac yn amlinellu’r camau i sefydlu elusen neu gwmni buddiannau cymunedol (CBC). Nid yw wedi’i fwriadu fel cyngor cyfreithiol, ond yn hytrach fel man cychwyn i’w ystyried trwy dynnu sylw at wybodaeth berthnasol.
Mae hwn wedi’i gynllunio i fod yn ganllaw hunan-fyfyriol i’ch helpu chi i asesu ble rydych chi fel mudiad. Fe’i datblygwyd ar gyfer Hyb Cymru Affrica gan y partneriaid a sefydlodd y mudiad a’i gydrannau: WCIA, WCVA, Panel Cynghori Is-Sahara a Rhwydwaith Cysylltiadau Iechyd Cymru ac Affrica, ar y cyd â Rhwydwaith Cynghrair Datblygu Rhyngwladol yr Alban a BOND. Bydd yn eich helpu i nodi cryfderau a gwendidau eich mudiad.
Mae’r dangosyddion wedi’u haddasu o Becyn Cymorth Effeithiolrwydd BOND a NIDOS.
Mae’n cynnwys 12 maes allweddol o effeithiolrwydd sefydliadol:
- Trefniadaeth a Chennad
- Cyllido a Chodi Arian
- Codi Ymwybyddiaeth yng Nghymru
- Cyfathrebu â phartneriaid
- Cynnwys y bobl / gwirfoddolwyr cywir
- Ymweliadau Cyfnewid
- Cyfranogiad cymunedol mewn prosiectau
- Capasiti a pherchnogaeth gan wledydd Deheuol
- Monitro, gwerthuso a dysgu
- Tryloywder a llywodraethiant agored
- Diogelu
- Amrywioldeb a chynhwysiad
Mae’n anodd gwneud cynllunio strategol yn dda. Nid oes gan lawer o gyrff anllywodraethol gynlluniau strategol, ac nid ydynt yn siŵr iawn beth ydyn nhw. Mae hefyd yn bosib y bydd gan eraill rai sy’n ddogfennau hir, llawn jargon, sy’n casglu llwch ar silff mewn swyddfa. Anaml iawn ydyn nhw’n ddogfennau byw sy’n helpu i roi cyfeiriad ystyrlon i benderfyniadau.
Defnyddiwch yr adnoddau isod i wella strategaeth eich sefydliad:
Cyn ffurfio partneriaeth â mudiad newydd, mae’n ddoeth gofyn amryw o gwestiynau gwerthusol er mwyn sicrhau ein bod yn mynd i fod yn gweithio gyda phartner addas, a bod y penderfyniad hwn yn seiliedig ar ddadansoddiad o dystiolaeth a phrofiad.
Dyma fframwaith ar gyfer cwestiynau i asesu risg weithredol, ariannol, allanol ac o ran enw da’r mudiad, yn ogystal â chydymffurfiad â’r gyfraith a chanllawiau arfer gorau. Yn y pen draw, mae angen i chi sicrhau eu bod yn addas ac yn ddiogel ar gyfer gweithio mewn partneriaeth â nhw.