Fframweithiau Polisi Allanol
Isod mae polisïau allanol perthnasol ar gyfer cyrff anllywodraethol ac elusennau sy’n gweithredu o Gymru neu mewn partneriaeth â mudiadau yng Nghymru.
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015)
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ddarn arloesol o ddeddfwriaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru weithio’n well gydag eraill (gan gynnwys ei gilydd a chymunedau) a chymryd agwedd fwy cydgysylltiedig, hirdymor fel bod eu penderfyniadau’n cael effaith gadarnhaol ar bobl fydd yn byw yn y dyfodol, yn ogystal â’r rhai sy’n byw heddiw.
Mae’r Ddeddf yn sefydlu egwyddor y mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus ei dilyn, ynghyd â saith nod y mae’n rhaid iddynt weithio tuag atynt er mwyn cyflawni ‘Datblygiad Cynaliadwy’.
Mae’r ffeithlenni hyn ar gyfer y trydydd sector yn cyflwyno Egwyddor Datblygiad Cynaliadwy, yn ogystal â’r weledigaeth gyffredin a fynegir trwy’r Saith Nod.
Beth all cyrff cyhoeddus ei wneud i weithredu ar y nodau byd-eang?
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn berthnasol i 44 o Gyrff Cyhoeddus ledled Cymru. Pwrpas y nod byd-eang yw eu galluogi i gydnabod y gall yr hyn a wnawn yng Nghymru gael effeithiau cadarnhaol neu andwyol y tu allan i Gymru, mewn byd sydd bellach mor rhyng-gysylltiedig
Dyma lythyr (a anfonwyd mewn ymateb i ymgynghoriad cyhoeddus ar gynlluniau Llesiant lleol) sy’n amlinellu’r hyn y gall cyrff cyhoeddus ei wneud i gyfrannu at y nod byd-eang: