Adnoddau Rhywedd a LHDTC+Adnoddau
Mae yma adnoddau i gynorthwyo â chryfhau ymgysylltiad mudiadau â’r gymuned LHDTC+ a hyrwyddo cydraddoldeb rhywedd.
Egwyddorion allweddol ar gyfer ymgysylltu â grŵp sydd wedi’i allgau
Cynllunio ar gyfer buddsoddi mwy o amser ac adnoddau mewn allgymorth ar gyfer grwpiau penodol, sy’n gyfeillgar, yn seiliedig ar gymheiriaid a sensitif o ran rhywedd. Buddsoddi amser mewn deall pam mae grwpiau wedi’u hallgau, dod i ddeall dynameg y grwpiau hynny a sut mae’r systemau a’r strwythurau presennol yn effeithio ar y garfan hon o bobl. Dynodi a denu grŵp penodol o bobl at eich rhaglen, sicrhau cyfranogiad y grŵp targed eu hunain wrth dargedu a chynnig cymorth i’w cynrychiolwyr eu hunain i wneud hynny. Mae ymgysylltiad â’r gymuned a gyda rhieni hefyd yn hanfodol, yn enwedig wrth geisio cyrraedd merched neu bobl ifanc. Dylech ystyried gosod targedau sy’n caniatáu cynnydd arafach yn y flwyddyn gyntaf.
Wrth drefnu grŵp o bobl yn garfan, un egwyddor graidd yw y dylai grwpiau fod yn hunan-ddewisol o fewn cymuned. Fodd bynnag, dylech ystyried y gallai fod gan grŵp ymylol anghenion gwahanol iawn, gan adlewyrchu eu cefndiroedd a’u cyfnodau bywyd. Gellir cryfhau’r broses o ffurfio a rheoli grŵp, yn ogystal â’i ansawdd, trwy ganolbwyntio ar aelodaeth fwy homogenaidd (oedran, cyfnod bywyd, amcanion tebyg) a sicrhau eich bod yn darparu ar gyfer anghenion penodol y grŵp (ystyriaethau hygyrchedd i bobl ag anableddau). Dylid cymryd gofal i beidio ag allgau pobl arbennig o ymylol a bregus a bod yn ymwybodol o’r croestoriadau, er enghraifft person sy’n perthyn i leiafrif ac yn LHDT.
Cynnal dadansoddiad cychwynnol o anghenion, ac yna ymgynghori yn rheolaidd wrth i’r grwpiau rydych chi’n gweithio gyda nhw ennill mwy o brofiad ac maen nhw’n gallu nodi eu dewisiadau a’u hanghenion (esblygol) yn gliriach gydag amser. Addaswch eich dull gweithredu yn unol â hynny.
Mae gweithio mewn cymunedau yn golygu elfen o risg; mae angen cymryd camau i amddiffyn menywod, merched a phobl agored i niwed o’r cychwyn cyntaf trwy nodi sut y byddwch yn ystyried diogelu – hyrwyddo hawliau iechyd rhywiol ac atgenhedlu, adrodd yn ôl ac ymdrin â datgeliadau – ar bob cam o’r rhaglen.
Gall eich ymyriad ddarparu llwyfan cryf ar gyfer hyfforddiant a chymorth wedi’u teilwra i helpu ag adeiladu sgiliau eich grŵp. Darparu hyfforddiant mewn rhifedd, rheoli arian, yn ogystal â hyfforddiant galwedigaethol ac ar gyfer menter a sgiliau bywyd, i helpu pobl ifanc i ddatblygu bywoliaeth gynaliadwy. Sicrhau bod yr hyfforddiant yn gyfeillgar, yn rhyngweithiol, wedi’i gyflwyno’n effeithiol, gyda hyfforddiant gloywi’n cael ei gynnal yn rheolaidd. Ystyriwch gynnwys mentora a hyfforddi hefyd.
Annog eich carfan i neilltuo cronfa gymdeithasol (e.e. ar gyfer ffioedd ysgol, argyfwng iechyd, costau angladd) neu gychwyn grŵp cynilo gwirfoddol i ddarparu amddiffyniad ychwanegol i’r grŵp a rhwyd ddiogelwch i aelodau unigol.
Cysylltwch yn gyfrifol â sefydliadau a rhwydweithiau ffurfiol yn y wlad rydych yn ei thargedu. Mae’n gam nesaf rhesymegol a phwrpasol fel y gall eich carfan gael mynediad at wasanaethau a chyfleusterau a ddarperir gan adrannau neu gyrff anllywodraethol eraill. Gwirio polisïau’r llywodraeth sy’n effeithio ar y grŵp rydych chi’n gweithio gyda nhw, ac ystyried sut mae’r llywodraeth yn darparu gwasanaethau o amgylch eu hanghenion. Mae rhai polisïau’n gamwahaniaethol a gallant greu anghymhellion i ymgysylltu.
Sicrhewch fod eich carfan yn cymryd rôl gyfranogol neu arweiniol wrth ddylunio eu gweithgareddau, ynghyd â’u gweithredu a’u rheoli. Lle bo hynny’n bosibl ac yn briodol, cysylltwch eich grwpiau â chyrff tebyg eraill ar lefel ardal, rhanbarthol a chenedlaethol, er mwyn galluogi eu lleisiau a’u buddiannau i gael eu clywed. Gallai eich grŵp ddylanwadu ar randdeiliaid cyhoeddus i sicrhau eu bod yn cael eu cynrychioli mewn polisi a rhaglenni cenedlaethol a lleol.
Gwreiddio offer monitro a gwerthuso ym mhob elfen o’r rhaglen o’r dechrau, a sicrhau y gellir gwahanu’r data a gesglir yn ôl oedran, rhywedd ac anabledd, o leiaf. Dilynwch yr egwyddor ‘Dim byd amdanom ni hebom ni’. Er mwyn cynyddu perchnogaeth a chynaladwyedd, dylech gynnwys eich pobl wrth ddatblygu a chyflwyno systemau monitro a gwerthuso; hefyd ymgorffori adolygiadau rheolaidd i dderbyn eu hadborth ac addasu’r gweithgareddau yn unol â hynny.
Fframwaith ar gyfer cydraddoldeb rhywedd, gartref ac mewn cymdeithas
Herio anghydraddoldeb rhywedd yn ein sefydliadau, ein mynediad at adnoddau, ein normau diwylliannol gartref ac yn gymdeithasol, ac yn ein meddylfryd ein hunain; mae sefydliad Rhywedd yn y Gwaith wedi cynhyrchu fframwaith cysyniadol i ddangos y meysydd sydd angen newid a’r perthnasoedd posibl rhyngddynt. Defnyddiwch y fframwaith hwn i gynorthwyo’ch dealltwriaeth o’r ffactorau sy’n effeithio ar rywedd a ffyrdd y gellir herio normau rhywedd.