Adnoddau Thematig
Yma gallwch ddod o hyd i adnoddau thematig ar gyfer cyrff anllywodraethol ac elusennau ar amryw o bynciau, e.e. Mae Bywydau Duon o Bwys a dysgu digidol. Os oes gennych chi adborth ar y cynnwys yma, neu os ydych am gael adnoddau pellach ar themâu eraill, mae croeso i chi gysylltu â’n Rheolwyr Cymorth Datblygu ar advice@hubcymruafrica.org.
Deunydd darllen defnyddiol ar gyfer Mae Bywydau Duon o Bwys
- Byddem yn awgrymu arweiniad i fynd i’r afael â goruchafiaeth groenwyn mewn datblygu rhyngwladol a ysgrifennwyd gan Nadine El-Nabli ac Anna Myers, sy’n cynnwys dolenni i lawer o ddeunydd darllen a set o ymrwymiadau ar gyfer staff cyrff anllywodraethol croenwyn.
- Gwrandewch ar y traethawd byr hwn a ysgrifennwyd gan Enillydd Gwobr Booker, Bernadine Evaristo, sydd hefyd yn ei ddarllen; mae’n dwyn y teitl Why Black Lives Matter, sy’n ddefnydd gwerth-chweil o 9 munud o’ch amser
- Gwrandewch ar y bennod hon o’r Podlediad Ailfeddwl Datblygu gydag Angela Bruce-Raeburn sy’n dwyn y teitl Structural Racism and Speaking Truth to Power.
- Gwyliwch y recordiad fideo hwn o How to Be Anti-Racist in Aid, gyda Stephanie Kimou, Marie-Rose Romain Murphy, a Naomi Tulay-Solanke.
- Darllenwch Blueprint for Black Lives Matter in the Development Sector, sef set o amcanion y gall mudiadau datblygu eu haddasu a’u mabwysiadu, a ysgrifennwyd gan Hanna Ryder ar gyfer Global Dashboard.
Gallwch hefyd edrych ar rai o’r adnoddau eraill ar y rhestr hon ar y testun mynd i’r afael â hiliaeth mewn datblygiad ac wrth ddadwladychu datblygiad, a gasglwyd ynghyd gan Alyssa Bovel.
Adnoddau E-Ddysgu ac Ymgysylltu Digidol
Mae’r adnodd hwn yn cynnig gwybodaeth ar sut i ymuno â’r grŵp trafod e-ddysgu Slack, a sefydlwyd i feithrin cydweithredu a dysgu ar y cyd yn ogystal â gwybodaeth o gyflwyniadau ar ddatblygu apiau a Learning@wales.
Mae yma ddolenni i ystod o adnoddau sy’n berthnasol i ymgysylltu digidol mewn Datblygu Rhyngwladol.
Rhoddi Offer Meddygol
Ydych chi’n bwriadu rhoddi offer technegol i ysbyty yn Affrica?
Mae THET (Ymddiriedolaeth Iechyd ac Addysg Drofannol) wedi creu’r canllaw defnyddiol hwn sy’n llawn gwybodaeth a chyngor ar sut i wneud rhoddion yn llwyddiannus. Mae’r canllaw hwn yn canolbwyntio ar sut i benderfynu a ddylid rhoddi offer cymhleth ai peidio, a rhai o’r pethau i’w hystyried; drafftio cytundeb rhoddi gyda’ch partner; opsiynau ar gyfer cyrchu’r offer gan gynnwys cyrchu ar draws y cyfandir, neu fel arall cludo’r offer yn ddiogel a thrwy’r system dollau; i hyfforddi defnyddwyr a staff cynnal a chadw.
Mae Humatem yn fudiad nid-er-elw sy’n canolbwyntio ar hwyluso rhoddion ar ffurf offer meddygol ar gyfer gwledydd sy’n datblygu trwy drefnu platfform cyfnewid sy’n cynnig offer a gwasanaethau ar gyfer rhoddion.
Mewn gwirionedd, mae yna lu o fudiadau sy’n darparu gwasanaethau ar gyfer rhoddion offer meddygol, gyda llawer ohonynt yn cynnig offer wedi’i adnewyddu am ddim i elusennau.
Beth am fwrw golwg ar y rhestr ddefnyddiol hon o fudiadau sy’n gweithio ar roddion o offer meddygol yma: