Gallwch weld dwy astudiaeth achos cydsyniad cytbwys ar waelod y tudalen hwn.
Mae Hub Cymru Affrica a SSAP yn falch iawn o gyhoeddi enillwyr Cystadleuaeth Ffotograffiaeth 2022, rhan o’r prosiect “Ail-ffurfio’r Naratif”.
Y thema eleni oedd Undod, ac roedd y lluniau buddugol yn dangos undod o fewn teuluoedd, cymunedau ac yn fyd-eang, ac yn dathlu undod rhwng Cymru ac Africa. Cafodd y gystadleuaeth ei beiriniadu gan ffotograffwyr proffesiynol sydd â chysylltiadau â Chymru ac Africa: Takura Aldridge, Glenn Edwards ac Ustus Kalebe.
Gallwch weld dwy astudiaeth achos cydsyniad cytbwys ar waelod y tudalen hwn.
Mae Hub Cymru Affrica a SSAP yn falch iawn o gyhoeddi enillwyr Cystadleuaeth Ffotograffiaeth 2022, rhan o’r prosiect “Ail-ffurfio’r Naratif”.
Y thema eleni oedd Undod, ac roedd y lluniau buddugol yn dangos undod o fewn teuluoedd, cymunedau ac yn fyd-eang, ac yn dathlu undod rhwng Cymru ac Affrica. Cafodd y gystadleuaeth ei beiriniadu gan ffotograffwyr proffesiynol sydd â chysylltiadau â Chymru ac Affrica: Takura Aldridge, Glenn Edwards ac Ustus Kalebe.
NODWCH
Yn anffodus, ni ellir arddangos y ddau lun buddugol ar-lein achos ar y pryd, roedd y plentyn yn mynychu sefydliadau cywirol ar gyfer plant, penderfynodd y beirniaid y gallai un neu’r ddau o’r plant newid eu meddwl yn y dyfodol am gael eu llun yn gysylltiedig â sefydliadau cywirol.
Ar gyfer y ddau lun buddugol, mae’r ffotograffwyr wedi rhoi gwybod am ganiatâd i rannu’r delweddau. Gwyddom fod delweddau a arddangosir ar-lein yn cael eu dyblygu’n hawdd ac yna’n anodd eu tynnu. O’r herwydd, er mwyn diogelu hunaniaeth y plant yn y dyfodol – gan roi’r opsiwn iddynt gael gwared ar ganiatâd yn hawdd os ydynt yn dewis gwneud hynny – rydym wedi penderfynu peidio â rhannu’r delweddau ar-lein. Fodd bynnag, teimlwn fod y mater hwn yn tynnu sylw at drafodaeth bwysig ar gydsyniad gwybodus, ffotograffiaeth ac adrodd straeon.
Fodd bynnag, bydd copiau o’r luniau’n teithio ar draws Cymru fel rhan o uwchgynhadledd yr haf Hub Cymru Africa – #SummerUndod2022 – a gellir eu gweld yno gan fod y ffotograffwyr wedi derbyn ffurflen cydsyniad gwybodus gan y plant yn y lluniau, a bod y llun yn darlunio’r pwnc gyda charedigrwydd a pharch, yn rhydd o farn.
Enillwr
Cafodd y llun buddugol, sef “No One Knows Tomorrow” ei dynnu gan y ffotograffydd o Nigeria, Nseabasi Akpan, fel rhan o’r prosiect ”Camera for Change” oedd yn darparu hyfforddiant ffotograffiaeth a chyfrifiadurol i’r plant yn Ibadan.
Teimlai’r beirniaid fod y naratif a oedd yn cyd-fynd â’r llun buddugol yn stori gynnes o berthnasau positif a grym sgiliau ffotograffiaeth ac adrodd straeon i bobl ifanc.
Eilydd
Cafodd y llun a ddaeth yn ail, sef “Learning” ei dynnu gan Richard Outram, ffotograffydd proffesiynol o Gaernarfon. Cafodd y llun ei dynnu yn Antananarivo, Madagcasgar o olygfa yn Akany Avoko Faravohitra, ysgol breswyl i fenywod ifanc.
Dywedodd Richard “Mae’r ysgol yn darparu cefnogaeth ac addysg i ferched ifanc na fyddent fel arall wedi cael y cyfle i ddysgu sgiliau hanfodol ar gyfer eu dyfodol.
Mae cymuned yr ysgol yn gweithio gyda’i gilydd mewn amgylchedd positif, sy’n gefnogol ac yn feithringar. Gallwn weld bod yr ysgol yn darparu dyfodol disglair.”
Ail-Redwyr ar y Cyd
Y ddau a ddaeth yn ail ydy “Mother Daughter Solidarity” gan Cordelia Weedon ac One Small Change gan Malumbo Simwaka.
Mae One Small Change, yn darlunio’r rhaglen “Chwalu’r Rhwystrau”, sydd yn cael ei chefnogi’n rhannol gan gefnogwyr Cymorth Cristnogol yng Nghymru a’r Undeb Ewropeaidd, ochr yn ochr â 875 o fenywod ym Malawi. Mae’r menywod yn cynyddu eu hincwm ac yn ymgysylltu ag awdurdodau lleol i ateb eu hanghenion. Meddai Cymorth Cristnogol am y llun “Mae Ida Lazalo, 39 (chwith pellaf), Eddina Yonasi, 49, cadeirydd y grŵp (ail o’r chwith) a chyd-aelodau Members of the Makande Women’s Group, yn falch o ddangos eu ffrwythau baobab maen nhw newydd eu cynaeafu o’r coed baobab, yn barod i wneud sudd yn Ardal Chikwawa, De Malawi, ym mis Mawrth 2021.”
Mae Mother Daughter Solidarity yn darlunio Ireen a’i mam, Rose, yn eistedd y tu allan i’w cartref yn Uganda yn 2020. Dywedodd Cordelia, y ffotograffydd, “Peintiodd Mam a Merch eu cartref gyda’i gilydd. Maen nhw’n byw wrth ymyl y Safle Treftadaeth y Byd hynafol, Nyero Rock Paintings, a ysbrydolodd eu dyluniad. Mae Ireen yn hoffi bod yn greadigol ac eisiau bod yn athrawes, felly mae Rose yn ceisio rhoi cymaint o gefnogaeth â phosibl iddi.