Diogelu
Yn y DU, mae diogelu yn golygu amddiffyn iechyd, llesiant a hawliau dynol pobl, ynghyd â’u galluogi i fyw yn rhydd o niwed, cam- driniaeth ac esgeulustod.
Yn y sector datblygu rhyngwladol, mae’n golygu amddiffyn pobl, yn arbennig menywod, a merched, rhag niwed sy’n codi yn sgil dod i gysylltiad â’n staff neu raglenni.
Yn Hyb Cymru Affrica, credwn fod gan bawb yr ydym yn dod i gysylltiad â hwy, waeth beth fo’u hoedran, rhywedd, beichiogrwydd, ailbennu rhywedd, anabledd, hil, crefydd neu gyfeiriadedd rhywiol, yr hawl i gael eu hamddiffyn rhag pob math o niwed, cam-driniaeth a chamfanteisio.
Yn Hyb Cymru Affrica, rydym yn gweithio i wella safonau diogelu ym mhob agwedd ar ein gwaith, trwy dair elfen – atal, adrodd ac ymateb.
Rydym hefyd yma i roi cymorth i sefydliadau gryfhau eu gwaith diogelu, gan helpu i adeiladu amgylchedd mwy diogel i bawb.
Cefndir
Yn 2018, yn dilyn adroddiadau am gam-driniaeth, camfanteisio ac aflonyddu rhywiol ym maes datblygu a chymorth rhyngwladol, aeth llywodraeth y DU ati i ailwampio’r system ddiogelu ac atebolrwydd yn y sector.
Ym mis Mawrth 2018 mynychwyd Uwchgynhadledd Diogelu yn San Steffan gan arweinwyr cyrff anllywodraethol blaenllaw, ynghyd â’r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddatblygu Rhyngwladol ar y pryd, Cadeirydd Comisiwn Elusennau Cymru a Lloegr, ac ysgrifennydd parhaol yr Adran er Datblygiad Rhyngwladol. Cynrychiolwyd Cymru gan Hyb Cymru Affrica ac aelod o adran Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru.
Arwyddwyd addewid ar y cyd gan 32 o fudiadau i wella safonau yn y sector ac ymrwymo i gryfhau atebolrwydd, diwylliant sefydliadol, arferion recriwtio a strwythurau ar gyfer adrodd ac ymateb i honiadau o gam-driniaeth. Rhwng mis Mawrth a mis Hydref 2018, bu cyfres o weithgorau’n cydweithio ar brosiectau oedd â’r nod o ddatblygu arweiniad o amgylch themâu diogelu allweddol.
Ym mis Hydref 2018, cynhaliodd llywodraeth y DU gynhadledd ryngwladol ar ddiogelu er mwyn annog gweithredu ar y cyd ar draws adrannau llywodraeth y DU a’r sector datblygu ehangach, gan roi sylw penodol i leisiau goroeswyr a dioddefwyr camdriniaeth.
“Rhoi pobl yn gyntaf: mynd i’r afael â chamfanteisio rhywiol, cam-drin rhywiol ac aflonyddu rhywiol yn y sector cymorth”, gyda’r nod o roi sylw penodol i leisiau goroeswyr a dioddefwyr camdriniaeth, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o beryglon camfanteisio o fewn datblygu rhyngwladol. Roedd y cyfranogwyr yn cynrychioli cylch eang o lywodraethau, rhoddwyr, mudiadau amlochrog, contractwyr sector preifat, arbenigwyr annibynnol, chyrff anllywodraethol rhyngwladol a chyrff cyffelyb o wledydd de’r byd.
Yn dilyn yr Uwchgynhadledd, ymrwymodd Llywodraeth y DU i gyfres o ddeilliannau, â’r nod o sicrhau newid parhaol. Dyma nhw’r deilliannau:
Sicrhau cefnogaeth i oroeswyr, dioddefwyr a’r rhai sy’n chwythu’r chwiban; gwella atebolrwydd a thryloywder; cryfhau systemau adrodd; a mynd i’r afael â’r rhai sy’n mynd yn ddi-gosb
Cymell newid diwylliannol trwy arweinyddiaeth gref, atebolrwydd sefydliadol a gwell prosesau adnoddau dynol
Mabwysiadu safonau byd-eang a sicrhau bod mudiadau yn cael eu bodloni neu’n rhagori arnynt
Cryfhau capasiti a gallu sefydliadau ar draws y sector cymorth rhyngwladol i gyflawni’r safonau hyn
Yn unol â’r safonau a bennwyd gan Lywodraeth y DU, mae Hub Cymru Africa yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gryfhau safonau yn y sector datblygu rhyngwladol yng Nghymru.
Adnoddau Diogelu
Safonau ar gyfer y DU gyfan
Gweld sut mae mudiadau eraill yn mynd ati i ymdrin â diogelu
Rhoddwyr yng Nghymru
These are resources from key organisations who also provide funding to the sector in Wales.