#Senedd21: Beth mae’r pleidiau yn ei ddweud?
#Senedd21: Beth mae’r pleidiau yn ei ddweud?
Ar y 6ed o Fai, mae Cymru’n penderfynu pwy fydd yn eu cynrychioli yn y Senedd, senedd Cymru, ac yn ei thro, cyfansoddiad Llywodraeth nesaf Cymru.
Mae’r etholiad hwn ychydig yn fwy arbennig na’r arfer oherwydd, am y tro cyntaf, mae pobl ifanc 16 ac 17 oed a phobl o dramor yn gallu pleidleisio!
Ychydig wythnosau’n ôl, cyhoeddwyd ein Maniffesto ar gyfer Undod Byd-eang yng Nghymru, lle gwnaethom osod 10 argymhelliad ar gyfer dyfodol model datblygu byd-eang cynaliadwy.
Nawr bod yr ymgyrch etholiadol wedi dechrau o ddifrif, a bod y pleidiau wedi cyhoeddi eu maniffestos, gadewch i ni weld beth maen nhw’n ddweud am ein sector!
- Yn y bennod ‘Building Back Greener’, maen nhw’n addo gosod targed o allyriadau carbon sero net yng Nghymru erbyn 2050, a tharged i bob cartref newydd fod yn gartref di-garbon erbyn 2026
- Yn nadl etholiadol Grŵp Asiantaethau Tramor Cymru, siaradodd ymgeisydd Ceidwadol Cymru dros Orllewin De Cymru a Chanol Caerdydd, Calum Davies, am ei gred nad yw’r sector hwn o fewn cymhwysedd Cymru ac felly, ni ddylai Llywodraeth Cymru fod yn gweithio yma
- Aeth Davies ymlaen i egluro ei safbwynt personol ei hun, sef ei fod yn cefnogi neilltuo 7% o’r GNI i gymorth tramor, a’i ffydd mai dros dro yw’r toriad a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu
Gallwch ddarllen maniffesto’r Ceidwadwyr Cymreig yma.
- Datblygu’r bartneriaeth rhwng y Llywodraeth, Cyngor Prydeinig Cymru, Prifysgolion Cymru, a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC)
- Gwella rhaglen Cymru ac Affrica drwy dyfu partneriaeth Hub Cymru Affrica
- Parhau i weithio gyda Maint Cymru, Menter Tyfu Coed Mount Elgon a phartneriaid eraill yn Uganda
- Lleihau mewnforio cynnyrch sy’n achosi datgoedwigo
- Diweddaru polisïau caffael i gael gwared ar nwyddau sy’n achosi datgoedwigo ac sy’n defnyddio nwyddau lleol, cynaliadwy
- Cefnogi partneriaid mewn gwledydd sy’n cynhyrchu i symud i gadwyn gyflenwi gynaliadwy, gynhwysol a theg
- Cefnogi’r mudiad masnach deg drwy ehangu mentrau fel Coffee 2020 a Siopa Teg Masnach Deg
- Datblygu’r prosiect peilot rhyw a chydraddoldeb yn Uganda a Lesotho
- Croesawu sefydlu’r Peace Academy/ Academi Heddwch, ac ymrwymo i weithio gyda’r Academi a Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru i ganolbwyntio ar heddwch yn strategaethau a pholisïau rhyngwladol y Llywodraeth yn y dyfodol
- Creu a gweithredu Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol, a bwrw ymlaen ag adroddiad ac argymhellion manwl yr Athro Ogbonna ar gyfer y Llywodraeth.
Gallwch ddarllen maniffesto Plaid Cymru yma.
- Ym Mhennod 5 – A Grenner Energy and Environment – mae Llafur Cymru yn tynnu sylw at lwyddiant rhaglen Cymru ac Affrica wrth blannu mwy na 15 miliwn o goed yn Uganda
- Ym Mhennod 10 – Our Nation – mae sefydlu Peace Academy / Academi Heddwch i helpu i lunio strategaethau a rhaglenni rhyngwladol y Llywodraeth yn y dyfodol yn cael ei restru fel adduned
- Adduned i weithredu ac ariannu’r ymrwymiadau sydd wedi cael eu gwneud yn ein Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol
- Yn ystod dadl etholiadol Grŵp Asiantaethau Tramor Cymru, soniodd ymgeisydd Llafur Cymru dros Fro Morgannwg, Jane Hutt, yn benodol am Hub Cymru Affrica, a dweud pa mor “bwysig” oedd y mudiad a’i waith i’r sector, yn eu barn nhw, a thynnu sylw at eirfa ei uwchgynhadledd ddiweddar – Yr Uwchgynhadledd Undod Byd-eang – sef yr hyn y dylai Cymru ei gynrychioli – undod byd-eang
- Aeth Hutt ymlaen i gondemnio uno’r Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol a’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad, a hefyd y toriad i’r ymrwymiad o 7% o’r GNI i gymorth tramor
- Soniodd Hut am y gwaith da a gafodd ei wneud gan Cymru Masnach Deg yn ystod y Bythefnos Masnach Deg, a thynnodd sylw at effaith newid yn yr hinsawdd ar ein partneriaid, a soniodd yn benodol am Jenipher’s Coffee.
- Soniodd Jane Hutt am y rhaglen Cymru ac Affrica, a’i gwneud yn glir bod partneriaethau yn y dyfodol yn rhai sydd yn cael eu harwain gan bartneriaid, ac y dylai Llywodraeth Cymru barhau i ganolbwyntio ar Affrica am y tro.
Gallwch ddarllen maniffesto Llafur Cymru yma.
- Byddai Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn addo cyhoeddi argyfwng natur a bioamrywiaeth
- Maen nhw’n addo “gweithredu” ar lifogydd, ail-goedwigo, cadwraeth bywyd gwyllt, cadwraeth forol, a cholli mannau gwyrdd agored, cyhoeddus
- Addo £1 biliwn y flwyddyn i ymladd yr argyfwng hinsawdd
- Mae’r adran ‘Wales and the World’ ond yn cynnwys cyfeiriadau at ddatblygu economaidd yng Nghymru, ac nid at waith undod byd-eang
- Yn ystod dadl etholiadol Grŵp Asiantaethau Tramor Cymru, fe wnaeth ymgeisydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru dros Dde Clwyd, Leena Farhat, ei gwneud yn glir fod eu plaid yn blaid fyd-eang sydd wedi ymrwymo i ymateb i’r argyfwng hinsawdd ac adeiladu ar ein statws fel ‘Cenedl Noddfa’ i gydnabod ffoaduriaid hinsawdd wrth lunio polisïau, ac ymgorffori dull “seiliedig ar hawliau” i’n hadferiad, er mwyn sicrhau ei fod yn gynhwysol ac yn gadarnhaol i gymunedau yma yng Nghymru ac ar draws y byd
- Mewn ymateb i bwynt am gymhwysedd datganoli, dywedodd Farhat na ddylai ein huchelgais i adeiladu partneriaethau gyda chenhedloedd eraill a’r gymuned fyd-eang gael ei atal, gan fod datblygu rhyngwladol yn gymhwysedd sy’n perthyn i San Steffan.
- Aeth Farhat ymhellach i gondemnio’r toriad i’r 0.7% o GNI oedd wedi cael ei neilltuo i’r sector
- O ran coedwigo, galwodd Farhat am “weithredu ar unwaith” ar ddatgoedwigo a materion amgylcheddol eraill, gan gynnwys “llifogydd” a “chadwraeth forol”
- Yn ôl Farhat, mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn cefnogi Coedwig Genedlaethol i Gymru, ond mae eisiau sicrhau hefyd, bod pob tref yng Nghymru yn dod yn “dref goed” gyda lefelau lleiaf o orchudd coed.
- Aeth Farhat ymlaen i labelu rhaglen Cymru ac Affrica yn un o’r “tlysau yn y goron, sef ein Senedd… sydd wedi gwneud llawer o ddaioni” gydag uchelgais i weld hyn yn cael ei ehangu i chwilio am bartneriaid sy’n dod yn annibynnol ar y rhaglen ac i nodi partneriaid newydd eraill.”
Gallwch ddarllen maniffesto Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yma.
- Cael gwared ar unrhyw ymdrech i sicrhau niwtraliaeth carbon net o blaid adeiladu amddiffynfeydd môr, carthu afonydd a chludo dŵr
- Gwrthwynebu “plannu lleiniau enfawr o goed” ond cefnogi “plannu coed brodorol er budd yr amgylchedd”.
- Sefydlu cwmni sy’n eiddo cyhoeddus i echdynnu nwy naturiol i’w losgi fel tanwydd
- Dibynnu ar arbedion ymddangosiadol yn y defnydd o ynni i fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy
- Defnyddio prifysgolion i ddatblygu technoleg dal a storio carbon.
- Creu strategaeth caffael cyhoeddus newydd i symud tuag at sefyllfa lle mae 100% o wasanaethau/nwyddau yn cael eu caffael o Gymru
- Bydd gwelliannau amgylcheddol yn cael eu harwain gan y sector amaethyddol
Gallwch ddarllen Maniffesto Propel 2021 yma.
- Newid llwyr i ffynonellau ynni adnewyddadwy drwy ddefnyddio “glo glân” a “dal carbon” yn ystod y cyfnod pontio
- Defnyddio “cyfran o dir amaethyddol Cymru” ar gyfer dal carbon naturiol drwy ailgoedwigo ac adfer corsydd naturiol
- Rhoi’r gorau i gynlluniau masnachu carbon rhyngwladol a symud at ddiwydiant wedi’i reoleiddio’n uniongyrchol, a lleihau allyriadau carbon drwy drethu’r diwydiant.
Gallwch ddarllen maniffesto Plaid Geidwadol Cymru yma.
- Cefnogi ailgoedwigo torfol drwy greu ‘Coedwig Genedlaethol i Gymru.
Gallwch ddarllen contract Reform UK gyda’r bobl yma.
- Fel y mae’r enw’n awgrymu, mae’r blaid am ddiddymu Senedd Cymru drwy refferendwm
- Maent wedi ailfrandio eu maniffesto fel ‘datganiad polisi’
- Mae eu datganiad am yr amgylchedd yn cynnwys diddymu Cyfoeth Naturiol Cymru, lleihau safonau amgylcheddol ar gyfer llygredd nitradau a lleihau prosiectau ailwylltio.
Gallwch ddarllen manifesto Abolish yma.